Neidio i'r prif gynnwy

O heddiw ymlaen (dydd Llun 18 Mai) gall pawb yng Nghymru sy’n arddangos symptomau’r coronafeirws wneud cais i gael prawf, gan fod gwasanaeth archebu ar-lein newydd wedi’i gyflwyno.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cymru’n ymuno â system newydd ar gyfer y Deyrnas Unedig (DU) gyfan sy’n caniatáu i bobl archebu pecynnau profi gartref, yn unol â strategaeth Profi Olrhain Diogelu Llywodraeth Cymru.

Roedd pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU wedi cadarnhau’n gynharach heddiw fod colli’r synnwyr arogli neu’r synnwyr blasu (anosomia), neu unrhyw newid i’r synhwyrau hynny, bellach wedi’u hychwanegu at restr o symptomau’r coronafeirws.  

Mae hynny’n golygu, o heddiw ymlaen bydd angen i bobl hunanynysu os byddant yn colli eu synnwyr arogli neu eu synnwyr blasu arferol, neu os bydd unrhyw newid i’r synhwyrau hynny. Byddant hefyd yn gallu gwneud cais am brawf drwy’r system newydd. 

Bydd rhaid i bawb arall yn yr aelwyd hunanynysu am 14 diwrnod hefyd, oni bai bod y person â’r symptomau’n cael canlyniad prawf sy’n negyddol.

Gall unrhyw un sydd â symptomau eraill y coronafeirws – tymheredd uchel a pheswch cyson – wneud cais am becyn profi gartref hefyd drwy borthol ar-lein newydd y DU. I gael rhagor o wybodaeth a dolen gyswllt i’r wefan archebu, ewch i: www.llyw.cymru/coronafeirws  neu https://gov.wales/apply-coronavirus-testwww.gov.wales/coronavirus. 

Caiff y gwasanaeth hwn ei gefnogi gan wasanaeth ffôn cenedlaethol 119. Felly, gall pobl archebu’r pecyn profi gartref dros y ffôn hefyd. 

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Mae’r cyhoeddiad hwn yn gam mawr ymlaen inni allu cynyddu nifer y bobl sy’n cael eu profi ar gyfer y coronafeirws yng Nghymru.

Byddwn ni’n parhau i roi blaenoriaeth i brofi gweithwyr hanfodol, ond o hyn allan gall aelodau o’r cyhoedd sy’n arddangos symptomau wneud cais am brawf. Bydd nifer y bobl y gallwn ni eu profi yn cynyddu wrth inni barhau i ddatblygu ein capasiti. 

Ar y cyd ag ap olrhain newydd, mae’r cynnydd hwn yn nifer y bobl y gallwn ni eu profi yn ganolog i’n strategaeth Profi Olrhain Diogelu. A bydd y strategaeth honno’n ein helpu ni i leihau ymlediad y feirws ymhellach – a llacio’r cyfyngiadau ar fywyd pob dydd yng Nghymru yn raddol.

Y cyhoedd fydd ein partneriaid pwysicaf i’n helpu i gyflawni’r strategaeth honno – rydyn ni’n gofyn i bobl sy’n arddangos symptomau yn unig wneud cais am brawf, er mwyn sicrhau bod y profion yn mynd i’r bobl iawn.

Gall gweithwyr hanfodol yng Nghymru archebu pecynnau profi gartref drwy wefan gweithwyr allweddol y DU gyfan hefyd. Rhoddir blaenoriaeth i’r gweithwyr hynny dros aelodau o’r cyhoedd yn ôl y capasiti. 

Cyn hir, fe fydd modd i weithwyr hanfodol a’r cyhoedd wneud cais i gael eu profi mewn canolfannau profi drwy ffenest y car, mewn unedau profi symudol ac unedau profi cymunedol drwy’r gwefannau hyn. Yn y cyfamser, gall gweithwyr hanfodol barhau i ddefnyddio’r trefniadau atgyfeirio lleol presennol. Gweler https://gov.wales/coronavirus-test-bookings-and-process.