Neidio i'r prif gynnwy

Mae Dr Frank Atherton wedi cyhoeddi bod y claf cyntaf yng Nghymru wedi marw ar ôl dal COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru:

Mae’n ddrwg iawn gennyf orfod cadarnhau heddiw y newyddion trist bod y claf cyntaf yng Nghymru wedi marw ar ôl dal COVID-19. Hoffwn estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau’r unigolyn a gofynnaf i’w dymuniad nhw am breifatrwydd gael ei barchu. 

Roedd gan y claf gyflyrau iechyd eisoes. Roedd yn 68 oed ac roedd yr unigolyn yn cael drin yn Ysbyty Maelor Wrecsam.