Neidio i'r prif gynnwy

Rôl Llywodraeth Cymru mewn perthynas â pholisi masnach ryngwladol yw trafod â Llywodraeth y DU i sicrhau bod polisi masnach y DU yn cynrychioli buddiannau'r DU gyfan.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Yn dilyn ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth y DU wedi cychwyn nifer o negodiadau er mwyn sefydlu Cytundebau Masnach Rydd, yn ogystal â chael sedd annibynnol yn Sefydliad Masnach y Byd. Rôl Llywodraeth Cymru yn y negodiadau yw hyrwyddo buddiannau Cymru, i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn negodi cytundebau sy’n creu cyfleoedd sydd o fudd i Gymru, sy’n cyd-fynd â’n gwerthoedd, ac nad ydynt yn tanseilio ein polisïau domestig ein hunain.

Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig Senedd Cymru (yn SENEDD.CYMRU) yn craffu ar waith Llywodraeth Cymru ar faterion masnach ryngwladol.

Blaenoriaethau masnach Llywodraeth Cymru

Dim ond llywodraeth y DU a all rwymo'r Deyrnas Unedig gyfan i gytundebau masnach. Fodd bynnag, mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU wrth negodi polisi masnach y DU, ac mae gan y Senedd gymhwysedd i basio deddfau sy’n ymwneud ag arsylwi a gweithredu rhwymedigaethau rhyngwladol. Mae polisi masnach yn aml yn cynnwys llawer o feysydd datganoledig, megis yr amgylchedd, iechyd, caffael a rheolau iechydol a ffytoiechydol.

Rôl Llywodraeth Cymru yw cynrychioli buddiannau defnyddwyr a busnesau Cymru ym mholisïau masnach ehangach y DU, yn ogystal â darparu dealltwriaeth o bolisïau domestig Cymru. Credwn na ddylai manteision ariannol cytundebau masnach danseilio ein safonau uchel ar gyfer yr amgylcheddol a'r farchnad lafur (gan gynnwys safonau bwyd a safonau sy'n ymwneud â lles anifeiliaid) na'n hymrwymiad i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Mae ein dull o ymdrin â pholisi masnach yn seiliedig ar ein huchelgais i gynyddu ffyniant yng Nghymru, ein gwerthoedd, ein hymrwymiadau ehangach i gynaliadwyedd a’n cyfrifoldebau drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae hyn yn cynnwys tyfu ein heconomi mewn modd cynaliadwy, gwella allforion a denu mewnfuddsoddi; gweithredu fel cenedl gyfrifol ar y llwyfan byd-eang; parchu a diogelu hawliau dynol; cymryd camau i ymateb i’r argyfwng hinsawdd byd-eang a diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr. Ym mis Gorffennaf 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bapur ar y ffordd rydym yn ymdrin â pholisi masnach:

Polisi masnach: Dull Llywodraeth Cymru

Y Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach

Mae'r Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach yn cynghori Llywodraeth Cymru ar faterion polisi masnach. Cyhoeddir cofnodion cyfarfodydd y Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach ar LLYW.CYMRU.

Mae'r Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach yn darparu cyngor arbenigol i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ac uwch swyddogion Llywodraeth Cymru ar faterion polisi masnach, ac yn helpu i lunio safbwynt Llywodraeth Cymru. Nid yw'r grŵp yn ymdrin â materion gweithredol, er enghraifft materion sy'n ymwneud â chymorth allforio. Mae'r grŵp yn cwrdd yn ôl y gofyn ond disgwylir iddynt gwrdd o leiaf tair gwaith y flwyddyn.

Mae aelodaeth y grŵp yn cynnwys 10–15 o unigolion sy'n gallu rhoi barn o safbwynt cymunedau busnes, cymdeithas sifil ac undebau llafur o bob rhan o Gymru. Mae gan y grŵp aelodaeth graidd gydag aelodau ychwanegol yn cael eu cyfethol i fynychu yn ôl yr angen yn dibynnu ar y materion sy'n cael eu trafod. Mae manylion yr aelodaeth bresennol ar gael ar wefan y grŵp:

Aelodaeth: Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach

Llywodraeth Cymru a Sefydliad Masnach y Byd

Mae prif swyddfeydd Sefydliad Masnach y Byd (WTO) yn Genefa, ac mae'n darparu fforwm i aelodau drafod llacio cyfyngiadau masnach a negodiadau ynghylch sefydlu cytundebau amlochrog, ac yn darparu fforwm i drafod anghydfodau masnach.

Wrth wraidd y WTO mae set o reolau cyfreithiol ar gyfer masnach ryngwladol y mae'n rhaid i holl aelodau'r sefydliad eu dilyn. Mae sedd y DU yn y WTO yn cynrychioli pedair gwlad y DU. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod rhwymedigaethau o dan gytundebau amlochrog y WTO, sy'n sail i'r rheolau cyfreithiol ar gyfer masnach ryngwladol, yn cael eu bodloni.

Rhwymedïau masnach

Mae rhwymedïau masnach (a elwir hefyd yn offerynnau amddiffyn masnach), yn fesurau a roddir ar waith i helpu i amddiffyn busnesau'r DU rhag mewnforion annheg.

Yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach

Yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach (TRA) yw'r corff hyd braich annibynnol sydd bellach yn gyfrifol am amddiffyn y DU rhag arferion masnach ryngwladol annheg. Mae'r Awdurdod yn cynnal ymchwiliadau ar gais busnesau neu'r llywodraeth i benderfynu a oes angen rhwymedïau masnach ar gyfer nwyddau, er mwyn atal difrod i fusnesau'r DU wedi'u hachosi gan ddympio annheg, cymorthdaliadau tramor, neu gynnydd sydyn yn lefel y mewnforion.

Mae'n hanfodol bod busnesau, yn enwedig busnesau bach a chanolig, yn dod yn gyfarwydd â rhwymedïau masnach a'r Awdurdod Rhwymedïau Masnach, i fynd i'r afael â chystadleuaeth annheg o ganlyniad i arferion masnachu rhyngwladol.

Yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach ar GOV.UK

Cymorth ar gyfer allforio

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno allforio a manteisio ar Fasnach Ryngwladol a manteision Cytundebau Masnach Rydd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar Busnes Cymru.

Perthynas a'r Undeb Ewropeaidd

Yr UE yw ein partner masnachu agosaf a phwysicaf o hyd. Rydym yn trafod â llywodraeth y DU ynghylch sut y gellid gwella perthynas fasnachu'r DU â'r UE, gan gynnwys drwy weithredu ac adolygu'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol.

Safbwyntiau Llywodraeth Cymru ar Gytundebau Masnach Rydd y DU

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal asesiadau o bob cytundeb masnach rydd y mae'r DU yn ymrwymo iddo, ac yn ystyried effaith bosibl y cytundebau hyn ar faterion y mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb datganoledig amdanynt. Mae'r rhain wedi'u cyhoeddi isod.

Ymchwil, papurau polisi a chefndir