Heddiw (dydd Gwener, 1 Gorffennaf) mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, wedi cyhoeddi cadeirydd a bwrdd newydd i’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.
Mae Sharon Gilburd, sy'n Arweinydd Trawsnewid Digidol i Ambiwlans Awyr Cymru ar hyn o bryd, wedi cael ei phenodi'n Gadeirydd, a bydd pum Aelod Bwrdd newydd yn ymuno â hi:
- John-Mark Frost
- Andrea Gale
- Samina Ali
- Ben Summers
- Neil Prior
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters:
Mae'r cadeirydd a'r aelodau bwrdd newydd yn dod o gefndiroedd gwahanol, ac mae ganddynt wybodaeth a fydd yn helpu i arwain y gwaith o drawsnewid digidol yn ein gwasanaethau cyhoeddus.
Mae'r pandemig wedi dangos ei bod yn bwysicach byth sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn datblygu ac yn diwallu anghenion y bobl sy'n eu defnyddio, sy'n newid o hyd.
Rhaid iddynt fod ar gael yn hawdd, a'r un mor syml i'w defnyddio â'r gwasanaethau ar-lein eraill sydd bellach yn ganolog i fywydau pob un ohonom.
Rwy'n gwybod bod y grŵp hwn o bobl yn edrych ymlaen yn arw at gychwyn ar rolau pwysig mewn sefydliad mor hanfodol.
Lansiwyd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol ym mis Mehefin 2020 fel corff hyd braich i Lywodraeth Cymru.
Ei nod yw dod â gweithwyr proffesiynol ac arbenigwyr digidol at ei gilydd er mwyn helpu i sicrhau gwasanaethau cyhoeddus gwell a hyrwyddo newid systemig yng Nghymru.
Mae rôl allweddol gan y Bwrdd o ran sicrhau bod y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn cyflawni ei chylch gwaith, gan gynnwys rhai agweddau pwysig ar y Strategaeth Ddigidol i Gymru.
Bydd y penodiadau yn cychwyn ar 1 Gorffennaf 2022 ac yn parhau am gyfnod o dair blynedd.