Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, wedi cyhoeddi bod Frances Duffy wedi’i phenodi’n Gadeirydd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, a Beverley Smith wedi’i phenodi’n Aelod o’r Panel.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yw’r corff annibynnol sydd, yn bennaf, yn gwneud penderfyniadau ar y taliadau y mae prif gynghorau, cynghorau cymuned, awdurdodau tân ac achub, ac awdurdodau parciau cenedlaethol yn eu gwneud i’w haelodau etholedig.

Mae Frances wedi dal nifer o swyddi yn Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Ymunodd ddiwedd 2013 a bu’n gweithio ar newid gwasanaethau’r GIG, noddi Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, gan oruchwylio’r gwaith o ddatblygu a chyflawni’r strategaeth ddigidol ar gyfer y system iechyd a gofal yng Nghymru, a hyrwyddo arloesedd yn GIG Cymru.

Yn ei swydd ddiwethaf, roedd Frances yn gyfrifol am fwrw ymlaen â’r gwaith o ddiwygio gofal sylfaenol yng Nghymru. Rhaglen uchelgeisiol oedd hon o newid a diwygio contractau, gan ganolbwyntio ar integreiddio gwasanaethau’n well ar draws yr holl wasanaethau gofal sylfaenol: practis cyffredinol, deintyddiaeth, optometreg, fferylliaeth a gwasanaethau iechyd cymunedol. Nod y gwaith oedd dod â gofal yn nes at y cartref, a hyrwyddo iechyd a lles. Roedd Frances a’i thîm hefyd yn gweithio ochr yn ochr â’r GIG yng Nghymru, a’r Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd, i hyrwyddo arloesedd ym maes gofal iechyd a chyflymu’r broses o fabwysiadu technoleg gofal iechyd.

Yn flaenorol, bu Frances yn gweithio ym maes polisi a chyflawni trafnidiaeth. Bu’n Gyfarwyddwr Trafnidiaeth i Lywodraeth Cymru, a chyn hynny yn Gyfarwyddwr Strategaeth a Buddsoddi, ac yna’n Gyfarwyddwr Rheilffyrdd, i Transport Scotland. Yn y swyddi hynny, roedd Frances yn gyfrifol am bortffolios mawr o fuddsoddi mewn ffyrdd, rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus. Bu’n pennu blaenoriaethau buddsoddi strategol gan oruchwylio’r gwaith o gyflawni prosiectau a rheoli masnachfreintiau’r rheilffyrdd.

Ymunodd Frances â’r Gwasanaeth Sifil yn Arolygydd Trethi dan hyfforddiant, gan arbenigo ym maes treth gorfforaeth busnesau mawr a’r sector yswiriant bywyd. Pan gafodd Senedd newydd yr Alban ei sefydlu, gweithiai Frances ar weithredu pwerau treth amrywiadwy yr Alban. Symudodd wedyn i Weithrediaeth yr Alban, lle bu’n gweithio ar bolisi tai, cyn symud i faes polisi trafnidiaeth.

Cafodd Frances ei haddysgu yn yr Alban ac mae ganddi radd BA mewn Busnes o Brifysgol Strathclyde, Glasgow. Mae wedi cwblhau’r rhaglen Academi Arweinyddiaeth Prosiectau Mawr, sy’n cael ei rhedeg gan Ysgol Fusnes Saïd Prifysgol Rhydychen a Swyddfa Cabinet Llywodraeth y DU, yn llwyddiannus. Roedd yn adolygydd achrededig ar gyfer adolygiadau Gateway yr Awdurdod Seilwaith a Phrosiectau (IPA), ac mae wedi ymgymryd â rôl Pennaeth y Proffesiwn ar gyfer Rheoli Prosiectau a Rhaglenni i Lywodraeth Cymru. Ymddeolodd o’r Gwasanaeth Sifil yn ddiweddar.

Mae gan Beverley Smith gefndir llwyddiannus mewn gwasanaethau cyhoeddus ac mae’n gadeirydd ac aelod bwrdd profiadol. Ei swydd ddiweddaraf oedd Prif Weithredwr Cyngor Gogledd-orllewin Swydd Gaerlŷr. Mae Beverley hefyd yn Gadeirydd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

“Rwy’n estyn croeso cynnes i Frances a Beverley i’r Comisiwn ac rwy’n gwybod y byddant yn chwarae rhan hanfodol yn ei waith.”

Roedd y rhain yn benodiadau uniongyrchol a wnaed yn unol â’r Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus. Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod, ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn rhan o’r broses ddethol. Fodd bynnag, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae’n ofynnol cyhoeddi gweithgarwch gwleidyddol unigolion a gaiff eu penodi (os caiff unrhyw weithgarwch o’r fath ei ddatgan). Nid oes yr un unigolyn wedi cyflawni unrhyw weithgareddau gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf nac yn meddu ar unrhyw swydd arall y cafodd ei benodi iddi gan Weinidog.

Bydd ffi ddyddiol o £337 yn cael ei thalu i Frances Duffy, a ffi ddyddiol o £282 i Beverley Smith. Bydd ymrwymiad amser o 1-2 ddiwrnod y mis.