Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 30 Tachwedd 2020.

Cyfnod ymgynghori:
7 Medi 2020 i 30 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Hoffem gael eich barn ar gynigion i godi'r oedran ymddeol gorfodol ar gyfer swyddi barnwrol datganoledig yng Nghymru: Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ac aelodau barnwrol Tribiwnlysoedd Cymru.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydym yn ymgynghori ynghylch a ddylai cynigion y Weinyddiaeth Gyfiawnder i godi'r oedran ymddeol gorfodol ar gyfer deiliaid swyddi barnwrol fod yn berthnasol hefyd i swyddi barnwrol datganoledig yng Nghymru: Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ac aelodau barnwrol Tribiwnlysoedd Cymru.  

Gweler ymgynghoriad y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar yr oedran ymddeol gorfodol i ddeiliaid swyddi barnwrol.  

Anfonwch eich ymatebion i CAUMailbox@llyw.cymru erbyn 5.00pm ar 30 Tachwedd 2020.

Dogfennau ymghynghori

Crynodeb gweithredol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 104 KB

PDF
104 KB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digital@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.