Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad a ddechreuodd ar 7 Medi 2020 ac a ddaeth i ben ar 30 Tachwedd 2020 yn gofyn am farn ar gynigion i godi'r oedran ymddeol gorfodol ar gyfer swyddi barnwrol datganoledig yng Nghymru: Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ac aelodau barnwrol Tribiwnlysoedd Cymru. 

Diben yr ymgynghoriad oedd ceisio barn ynghylch a ddylai cynigion y Weinyddiaeth Gyfiawnder i godi'r oedran ymddeol gorfodol ar gyfer deiliaid swyddi barnwrol fod yn berthnasol hefyd i'r swyddi barnwrol datganoledig a enwir uchod.

Cyhoeddodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ymgynghoriad, a ddaeth i ben ar 16 Hydref, yn gwahodd sylwadau ar gynigion i godi'r oedran ymddeol gorfodol ar gyfer deiliaid swyddi barnwrol i naill ai 72 neu 75 oed.

Yr oedran ymddeol ar gyfer y rhan fwyaf o ddeiliaid swyddi barnwrol yw 70 ar hyn o bryd a’r tro diwethaf y deddfwyd ar gyfer hynny oedd 27 mlynedd yn ôl. Diben ymgynghoriad y Weinyddiaeth Gyfiawnder oedd ystyried a yw’r oedran ymddeol gorfodol o 70 oed yn parhau i gyflawni'r amcan o gydbwyso'r gofyniad am ddigon o arbenigedd barnwrol i fodloni'r galwadau ar lysoedd a thribiwnlysoedd tra'n diogelu gwelliant mewn amrywiaeth barnwrol ac yn diogelu annibyniaeth y farnwriaeth a hyder ynddi.

Roedd cwmpas ymgynghoriad y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ymestyn i'r swyddi barnwrol hynny y mae eu hoedran ymddeol gorfodol o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd y DU yn unig. Nid oedd yn cynnwys swyddi barnwrol datganoledig gan mai mater i’r llywodraethau ym mhob un o'r gweinyddiaethau datganoledig yw ymgynghori ar gynigion i godi'r oedran ymddeol gorfodol ar gyfer deiliaid eu swyddi barnwrol datganoledig perthnasol. Yng Nghymru, y swyddi barnwrol hynny yw Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ac aelodau barnwrol Tribiwnlysoedd Cymru.

Gwahoddodd Llywodraeth Cymru sylwadau ar y cynigion i godi'r oedran ymddeol gorfodol ac ar y cwestiynau a nodwyd yn nogfen ymgynghori'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, a hynny’n benodol mewn perthynas â'r swyddi barnwrol datganoledig.

Bydd yr ymatebion yn llywio ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â llywodraethau eraill y DU ar gynigion i godi'r oedran ymddeol gorfodol ar gyfer swyddi barnwrol.

Ymatebion

Ceir crynodeb o'r ymatebion a gyflwynwyd i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru isod. Roedd yr ymatebion a gafwyd yn amlinellu safbwyntiau cyffredinol ar y cynigion i godi oedran ymddeol gorfodol Barnwyr yn hytrach nag ymateb i bob un o'r cwestiynau a godwyd yn yr ymgynghoriad a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

A ddylid ymestyn yr oedran ymddeol gorfodol (oedran ymddeol gorfodol) ar gyfer barnwyr?

Daeth cyfanswm o 7 o ymatebion o sylwedd i law. Dywedodd 6 ymatebydd eu bod yn cytuno â chynyddu oedran ymddeol gorfodol y Farnwriaeth gydag un ymateb yn nodi'n benodol eu bod o blaid codi'r oedran i 75 oed. Anghytunai un ymatebydd â'r cynnig.

Mae'r esboniadau a roddwyd gan ymatebwyr sy'n cytuno â'r cynigion i'w gweld isod:

  • Mae pobl yn parhau i fod yn fwyfwy heini, iach ac mewn cyflwr gwybyddol da y tu hwnt i 70 oed. Mae'n ymddangos nad yw'r pwynt terfyn presennol mympwyol o 70 yn angenrheidiol mwyach a’i fod yn wastraff ar set sgiliau ddefnyddiol.
  • Ar hyn o bryd, mae cydweithwyr profiadol a galluog iawn yn gorfod ymddeol ymhell cyn eu bod yn teimlo'n barod i wneud hynny.
  • Nid yw oedran y deiliad swydd yn bwysig, ac mae codi'r oedran ymddeol gorfodol o 2 flynedd yn rhy ychydig - byddai 5 mlynedd yn well. Dylai'r oedran ymddeol gorfodol fod yr fath ar gyfer pob swydd farnwrol, felly os bydd Llywodraeth y DU yn dewis y terfyn oedran is dylai Cymru ddilyn ei hesiampl, gan fod nifer fawr o statudau o hyd sy'n berthnasol i Gymru a Lloegr.
  • Mae cymell pobl hŷn i ymddeol ar sail oedran yn unig yn wahaniaethol, ac mae dewis oedran ymddeol mympwyol yn anwybyddu amgylchiadau unigol. Mae hefyd yn gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn a allai ddymuno neu y mae angen iddynt barhau yn eu rolau presennol neu newydd. Gan fod y boblogaeth yn heneiddio, mae angen edrych ar ffyrdd gwell o alluogi pobl hŷn i weithio os ydynt yn dewis gwneud hynny.
  • Y cynnydd yn yr angen i recriwtio barnwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a'r heriau o ran denu ymgeiswyr digonol â chymwysterau addas. Bwriad y cynnig i gynyddu'r oedran ymddeol gorfodol yw cefnogi recriwtio a chadw swyddi barnwrol ar adeg pan fu diffygion yn y gallu i recriwtio ymgeiswyr addas ar gyfer rhai rolau cyflogedig. Mae unrhyw gynnydd yn yr oedran ymddeol gorfodol yn debygol o arwain at ddenu mwy o ymgeiswyr a fyddai'n anghymwys ar hyn o bryd, oherwydd y gofyniad i ddarparu 'hyd rhesymol o wasanaeth' cyn yr oedran ymddeol gorfodol presennol o 70.
  • Nododd dau ymatebydd hefyd y dylai unrhyw newidiadau a wneid o ran codi oedran ymddeol gorfodol barnwyr fod yn gyson ledled Cymru a Lloegr.

Nodir isod y pryderon a godwyd gan un ymatebydd:

  • Byddai cynnydd yn yr oedran ymddeol gorfodol yn debygol o arwain at gadw mwy o farnwyr hŷn. Fel y dywed yr ymgynghoriad, byddai gostyngiad mewn trosiant yn cael effaith ar amrywiaeth, gan fod y rhai sy'n cael eu recriwtio i'r farnwriaeth yn fwy amrywiol na barnwyr sy'n agosáu at ymddeol. Yr asesiad yw y bydd yr effaith hon yn fach o ran rhyw ac amrywiaeth ethnig. Fodd bynnag, byddai’r effaith fwyaf ar dwf amrywiaeth ar lefelau uwch y farnwriaeth. Os bydd recriwtio ar gyfer rolau sy'n talu ffioedd yn parhau ar yr un gyfradd, yna dylai fod lefelau tebyg o gynnydd cyson ar draws y farnwriaeth yn ei chyfanrwydd. Byddai cynnydd o'r fath yn arafu dros amser pe bai'r galw am farnwyr y telir ffioedd iddynt yn gostwng oherwydd diffyg symud i rolau cyflogedig.

Ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad

Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried yr ymatebion a gafwyd ac mae hefyd wedi ystyried yr ymatebion a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ei hymgynghoriad. Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â'r rhan fwyaf o'r ymatebwyr y byddai codi'r oedran ymddeol gorfodol i 75 yn sefyllfa lai gwahaniaethol ac y byddai'n creu manteision o ran recriwtio barnwyr. Er bod angen gwaith i gynyddu amrywiaeth deiliaid swyddi barnwrol, yn enwedig ar lefelau uwch, ni fyddai cyfiawnhad dros barhau i fod angen ymddeol yn 70 dim ond er mwyn cyflawni'r amcan hwnnw.

Y camau nesaf

Ar hyn o bryd rydym yn codi'r materion hyn gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau bod y ddarpariaeth ar gyfer y tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru yn cael ei chynnwys mewn unrhyw ddeddfwriaeth arfaethedig.