Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Er mwyn annog unigolion o gefndiroedd mwy amrywiol i geisio cael eu hethol i lywodraeth leol, mae angen i gynghorau fod yn fannau lle y mae diwylliant agored yn ffynnu gyda phobl yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu a'u parchu, beth bynnag yw eu cefndir. Mae safonau ymddygiad yn allweddol i hyn, ac mae gan bob aelod gyfrifoldeb i weithredu mewn modd sy'n parchu ac yn gwerthfawrogi pawb.

Mae'r darpariaethau yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn cefnogi'r diwylliant hwn drwy ddarparu dyletswydd newydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i gymryd camau i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel ymhlith eu haelodau. Mae'r ddyletswydd yn cydnabod y dylai'r rhai sydd â rolau arwain ac sy’n dylanwadu mewn prif gynghorau fod yn gyfrifol am fynd i'r afael â bwlio ac aflonyddu ymhlith aelodau etholedig a staff y cyngor, a rhaid iddynt fod yn esiampl i eraill. Ymhlith pethau eraill, mae'r ddyletswydd hon wedi'i chynllunio i gefnogi ein hagenda Amrywiaeth mewn Democratiaeth a'n camau gweithredu yn ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol.

Nid yw’n fwriad i'r ddyletswydd fod yn ateb i bob anhawster ac ni fydd yn cynnwys pawb (yn arbennig yr aelodau hynny nad ydynt yn perthyn i grŵp), ond cafodd ei chynllunio i fod yn gymesur ac yn ddefnyddiol. Ei nod yw atal ymddygiad amhriodol, neu roi terfyn arno’n llwyr, cyn iddo waethygu ac arwain at dorri’r Cod Ymddygiad.

Rhaid i bob un ohonom mewn bywyd cyhoeddus arddangos y safonau uchaf posibl o ran ymddygiad a pharch, yn enwedig mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae'r canllawiau hyn yn rhoi cyngor ar y dyletswyddau newydd a gyflwynwyd i gefnogi'r sefyllfa hon.

Rebecca Evans AS

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Rhagymadrodd

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn darparu fframwaith deddfwriaethol newydd a diwygiedig ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, democratiaeth, llywodraethiant a pherfformiad.

Mae'r canllawiau hyn yn nodi sut y dylai arweinwyr grwpiau gwleidyddol mewn prif gynghorau gyflawni eu dyletswyddau yn adran 52A o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("Deddf 2000"), a fewnosodwyd gan adran 62 o Deddf 2021, sy'n ymwneud â hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau o'r grŵp.

Rhaid i arweinwyr grwpiau gwleidyddol roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau o dan adran 52A(2) o Ddeddf 2000.

Mae'r canllawiau wedi'u cynllunio i gefnogi arweinwyr grwpiau gwleidyddol i ddeall eu dyletswyddau mewn perthynas â safonau ymddygiad uchel, a’u cyflawni. Maent hefyd yn cydnabod y bydd yr arweinwyr yn dymuno datblygu eu dull eu hunain yn unol â'u rhwymedigaethau statudol ehangach, eu hamgylchiadau lleol a'r arferion gorau, ac y dylid eu hannog i wneud hynny.

Mae'r canllawiau hyn yn rhoi sylw penodol i'r dyletswyddau a ganlyn:-

Dyletswydd i gymryd camau rhesymol i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau o'r grŵp

Mae adran 52A(1)(a) o Ddeddf 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i arweinydd grŵp gwleidyddol sy'n cynnwys aelodau o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru gymryd camau rhesymol i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau o'r grŵp.

Dyletswydd i gydweithredu â phwyllgor safonau'r cyngor (ac unrhyw is-bwyllgor) wrth arfer swyddogaethau'r pwyllgor safonau

Mae adran 52A(1)(b) o Ddeddf 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i arweinydd grŵp gwleidyddol sy'n cynnwys aelodau o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru gydweithredu â phwyllgor safonau'r cyngor (ac unrhyw is-bwyllgor i'r pwyllgor) wrth arfer swyddogaethau'r pwyllgor safonau.

Mae'r canllawiau hyn yn cyfeirio'n benodol at y dyletswyddau hyn ar arweinydd grŵp gwleidyddol, ac yn nodi'r disgwyliadau ar sut y byddant yn cyflawni'r dyletswyddau hyn. Mae'r holl ddyletswyddau yn gymwys o 5 Mai 2022. Bydd yn ofynnol i arweinydd grŵp gwleidyddol roi sylw i'r canllawiau pan fydd y dyletswyddau perthnasol wedi dod i rym.

Ceir darpariaethau eraill yn Rhan 3 o Ddeddf 2000 sy'n ymwneud â phwyllgorau safonau, a fewnosodwyd gan adrannau 62 a 63 o Ddeddf 2021. Mae’r agweddau hyn ar y Ddeddf 2021 hefyd yn cael eu disgrifio yn y canllawiau hyn.

Mae'r canllawiau wedi’u cyflwyno fel a ganlyn:-

Pennod 1: yn disgrifio'r cyd-destun polisi y gosodir y dyletswyddau ynddo a diben y dyletswyddau.

Pennod 2: yn egluro’r ddyletswydd i gymryd camau rhesymol i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau o'r grŵp.

Pennod 3: yn darparu canllawiau ar y ddyletswydd i gydweithredu â phwyllgor safonau'r cyngor (ac unrhyw is-bwyllgor) wrth arfer swyddogaethau'r pwyllgor safonau.

Pennod 4: yn disgrifio swyddogaethau’r pwyllgorau safonau mewn perthynas â'r dyletswyddau newydd.

Pennod 1: Y cyd-destun polisi a diben y dyletswyddau a nodir yn adran 52A o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000

Y cyd-destun polisi

Roedd Rhan 3 o Ddeddf 2000 yn sefydlu fframwaith statudol i hybu a chynnal safonau ymddygiad moesegol uchel gan aelodau a gweithwyr awdurdodau perthnasol yng Nghymru. Cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol ("prif gyngor"), cyngor cymuned, awdurdod tân ac achub, awdurdod parc cenedlaethol a Chyd-bwyllgor Corfforedig yw 'awdurdod perthnasol'. [yn amodol ar Reoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 yn cael eu gwneud]

Mae'r fframwaith yn cynnwys y deg egwyddor gyffredinol o ymddygiad ar gyfer aelodau (sy'n deillio o 'Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus' yr Arglwydd Nolan), a nodir iso

  • Anhunanoldeb
  • Gonestrwydd
  • Uniondeb a phriodoldeb
  • Dyletswydd i gynnal y gyfraith
  • Stiwardiaeth
  • Gwrthrychedd wrth wneud penderfyniadau
  • Cydraddoldeb a pharch
  • Bod yn agored
  • Atebolrwydd
  • Arweinyddiaeth

Mae'r rhain wedi'u cynnwys yn y Cod Ymddygiad Enghreifftiol statudol (fel sy'n ofynnol o dan adran 50 o Ddeddf 2000), sy'n gosod cyfres o safonau gofynnol y gellir eu gorfodi ar gyfer y ffordd y dylai aelodau ymddwyn, yn rhinwedd eu swydd ac (mewn rhai achosion) mewn rhinwedd bersonol hefyd. Mae hefyd yn rhoi arweiniad i aelodau ar ddatgan a chofrestru buddiannau. Rhaid i bob aelod etholedig wneud ymrwymiad ysgrifenedig i ufuddhau i’r Cod cyn y gall ddechrau ar ei swydd.

Gan adeiladu ar y trefniadau presennol, mae adran 62 o Ddeddf 2021 yn mewnosod adran 52A newydd yn Neddf 2000 sy'n gosod dyletswydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol mewn prif gyngor i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau o'u grŵp. Mae'n ofynnol i arweinwyr grŵp gydweithredu â phwyllgor safonau'r cyngor wrth iddo arfer ei swyddogaethau cyffredinol a phenodol ar gyfer hybu safonau uchel (gweler isod).

Mae is-adran (3) yn diwygio adran 54 o Ddeddf 2000 i ymestyn swyddogaethau penodol pwyllgor safonau i gynnwys monitro cydymffurfiaeth gan arweinwyr grwpiau gwleidyddol â'r ddyletswydd newydd a osodir arnynt gan y Ddeddf 2021 i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau o'u grŵp. Rhaid i bwyllgor safonau hefyd ddarparu cyngor neu ddarparu neu drefnu hyfforddiant i arweinwyr grŵp ar y ddyletswydd newydd. 

Diben y darpariaethau ynghylch safonau ymddygiad

Nod y fframwaith safonau moesegol yng Nghymru yw hybu aelodau llywodraeth leol i ufuddhau i safonau ymddygiad cyson. Mae safonau moesegol uchel yn sail i hyder y cyhoedd mewn llywodraethu democrataidd ac yn y broses o wneud penderfyniadau, ac yn helpu i gynnal yr hyder hwnnw. Er mwyn i unrhyw sefydliad fod yn effeithiol, rhaid iddo barchu amrywiaeth a thrin pawb gyda pharch. I feithrin diwylliant sy’n arddel safonau ymddygiad uchel mewn prif gyngor, mae’n rhaid i arweinwyr lleol a phob aelod etholedig dderbyn cyfrifoldeb am eu gweithredoedd, fel unigolion ac ar y cyd.

Mae'r darpariaethau ynghylch safonau ymddygiad yn Neddf 2021 yn ategu'r fframwaith moesegol statudol presennol ac yn cefnogi proses y Cod Ymddygiad. Mae'r darpariaethau wedi’u cynllunio i sicrhau bod arweinwyr grwpiau gwleidyddol mewn prif gynghorau, gyda chymorth pwyllgorau safonau, yn hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau o’u grwpiau.

Yr amgylchedd ehangach y mae'r safonau ymddygiad yn gweithredu ynddo

Mae'r darpariaethau ynghylch safonau ymddygiad a geir yn Neddf 2021 yn cefnogi ymrwymiad ehangach Llywodraeth Cymru i gydraddoldeb ac amrywiaeth mewn bywyd cyhoeddus. Cymerwyd camau drwy'r Rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth i fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal unigolion rhag cymryd rhan weithredol mewn democratiaeth leol. O fewn llywodraeth leol, a thrwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), cafwyd ymrwymiad i Amrywiaeth mewn Democratiaeth, gan gynnwys cynghorau yn arwyddo datganiadau Cyngor Amrywiol sy’n ceisio, ymhlith gweithredodd eraill, sicrhau bod cynghorau yn ‘arddangos diwylliant agored a chroesawgar i bawb’. Ar ben hynny, mae CLlLC, gan weithio gyda’r Gymdeithas Llywodraeth Leol (CLlL), Cymdeithas Llywodraeth Leol Gogledd Iwerddon (NILGA) a Chonfensiwn Awdurdodau Lleol yr Alban (COSLA), wedi bod yn hybu’r rhaglen Moesgarwch mewn Bywyd Cyhoeddus, sy’n ceisio hybu trafodaeth wleidyddol barchus, adeiladol a sifil.

Mae’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol i Gymru, Cymru Wrth-hiliol yn nodi cyfres o nodau a chamau gweithredu a gynlluniwyd i wella'r canlyniadau i bobl Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru. Mae'r Cynllun Gweithredu yn nodi nifer o nodau a chamau gweithredu ar gyfer llywodraeth leol sy'n ymwneud â'i rôl arwain a chynrychioli. Mae'n cydnabod bod cynrychiolaeth etholedig fwy amrywiol yn dda ar gyfer gwneud penderfyniadau ac yn debygol o arwain at benderfyniadau sy'n adlewyrchu cymdeithas yn ei chyfanrwydd.

Pennod 2: Dyletswydd i gymryd camau rhesymol i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau o'r grŵp

Cyflwyniad  

Dylai'r bennod hon o ganllawiau gael ei darllen gan arweinwyr grwpiau gwleidyddol mewn prif gyngor i’w cefnogi i gyflawni eu dyletswyddau yn adran 52A o Ddeddf 2000, i gymryd camau rhesymol i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau o'r grŵp. Mae'r canllawiau fan hyn yn adlewyrchu'r gofynion sylfaenol, gan gydnabod mai’r arweinwyr sydd yn y sefyllfa orau i adeiladu ar hyn i ddatblygu manylion eu dull eu hunain.

Diffiniad o grwpiau gwleidyddol ac arweinwyr grwpiau

Mae adran 52A(3) o Ddeddf 2000 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth mewn rheoliadau ynghylch yr amgylchiadau pan (a) dylid trin aelodau o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru fel pe baent yn ffurfio grŵp gwleidyddol, a (b) dylid trin aelod o grŵp gwleidyddol fel pe bai yn arweinydd y grŵp.

Yn hyn o beth, hyd nes y gwneir rheoliadau a gaiff eu pasio o dan adran 52A(3) o Ddeddf 2000, Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990, a wnaed o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, sy’n llywodraethu’r sefyllfa.

Dyletswydd Newydd

Mae adran 52A(1)(a) o Ddeddf 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i arweinydd grŵp gwleidyddol sy'n cynnwys aelodau o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru gymryd camau rhesymol i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau o'r grŵp.

Nid yw'r ddyletswydd yn gwneud arweinwyr grŵp gwleidyddol yn atebol am ymddygiad eu haelodau gan fod yn rhaid i ymddygiad fod yn fater o gyfrifoldeb unigol. Fodd bynnag, mae ganddynt rôl o ran cymryd camau rhesymol i gynnal safonau, gan osod esiampl, a defnyddio eu dylanwad i hybu diwylliant cadarnhaol, bod yn rhagweithiol wrth hybu safonau ymddygiad uchel yn eu grŵp a mynd i'r afael â materion cyn gynted ag y byddant yn codi.

Mae’r camau rhesymol y gallai Arweinydd y Grŵp eu cymryd yn cynnwys:

  • arddangos ymrwymiad personol i gyfleoedd datblygu neu hyfforddiant perthnasol ynghylch cydraddoldeb a safonau, a mynychu cyfleoedd o’r fath
  • annog aelodau’r grŵp i fynychu cyfleoedd datblygu neu hyfforddiant perthnasol ynghylch cydraddoldeb a safonau
  • sicrhau bod enwebeion i bwyllgor wedi derbyn yr hyfforddiant a argymhellir ar gyfer y pwyllgor hwnnw
  • hybu moesgarwch a pharch o fewn cyfathrebiadau a phwyllgorau’r Grŵp ac mewn pwyllgorau Cyngor ffurfiol
  • hybu gweithdrefnau datrys anffurfiol yn y cyngor; a gweithio gyda’r pwyllgor safonau a’r Swyddogion Monitro i ddod i ddatrysiad yn lleol
  • hybu diwylliant o fewn y Grŵp sy’n cefnogi safonau uchel o ran ymddygiad ac uniondeb
  • mynychu cyfarfod Pwyllgor Safonau’r Cyngor os gofynnir iddo wneud hynny er mwyn trafod materion yn ymwneud â’r Cod Ymddygiad
  • gweithio i weithredu unrhyw argymhellion gan y Pwyllgor Safonau ynghylch gwella safonau
  • cydweithio ag arweinwyr grŵp eraill, o fewn rheswm, i gefnogi gyda’i gilydd safonau ymddygiad uchel o fewn y cyngor.

Fel y nodir ym mhennod 1, diben y dyletswyddau newydd yw adeiladu ar ddiwylliant sy'n rhagweithiol, diwylliant sy'n gweithredu ar ymddygiad amhriodol, ac nad yw’n ei ganiatáu, a chefnogi diwylliant o’r fath. Mae'r Canllawiau ar gyfer aelodau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar y Cod Ymddygiad yn rhoi cyngor ar y Cod a'i ofynion. Mae'n cynnwys enghreifftiau o achosion a ystyriwyd gan yr Ombwdsmon a phenderfyniadau a wnaed gan bwyllgorau safonau lleol a Phanel Dyfarnu Cymru sy'n dangos ymddygiadau sy'n afresymol neu'n amhriodol. Dylai arweinwyr grwpiau gwleidyddol a phob aelod roi sylw i Ganllawiau'r Ombwdsmon, sydd ar gael ar wefan yr Ombwdsmon

Mae’r Ombwdsmon wedi tynnu sylw at ba mor bwysig ydyw i ymgymryd â hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad, a chodwyd y mater hwn hefyd o dan yr adolygiad annibynnol o'r Fframwaith Safonau Moesegol a'r Cod Ymddygiad Enghreifftiol a gynhaliwyd gan Richard Penn. Dylai arweinwyr grwpiau gwleidyddol annog pob aelod o’u grŵp i ddarllen Canllawiau'r Ombwdsmon ac unrhyw ganllawiau lleol a gyhoeddir gan y swyddog monitro neu'r pwyllgor safonau ac i dderbyn unrhyw gynnig o hyfforddiant. Dylent hefyd weithio'n adeiladol gyda phwyllgorau safonau a Swyddogion Monitro i nodi'r gofynion hyfforddi ar eu cyfer nhw eu hunain yn ogystal ag aelodau o’u grŵp.

Mae'n hanfodol meithrin perthynas ag aelodau sy'n eu hannog i godi materion gydag arweinydd y grŵp. Mae gan arweinydd y grŵp rôl bwysig i'w chwarae i greu diwylliant o ymddiriedaeth a pharch rhwng y naill aelod a’r llall yn eu grŵp. Pan fydd materion yn codi, codwyd pwysigrwydd datrys cwynion lefel isel ar lefel leol gan yr Ombwdsmon ac yn yr adolygiad annibynnol o'r Fframwaith. Fel arfer, mae'r cwynion hyn yn ymwneud â methiannau honedig i ddangos parch ac ystyriaeth i eraill a gwneud cwynion wamal a llai difrifol. Dylai arweinydd y grŵp chwarae rhan ganolog i osgoi caniatáu i’r cwynion hyn waethygu hyd nes cyrhaeddir sefyllfa lle y bydd angen ymyriadau mwy ffurfiol. Dylai arweinwyr grwpiau gwleidyddol gael trafodaethau anffurfiol gydag aelodau a allai fod yn dangos arwyddion cynnar o ymddygiad amhriodol i roi terfyn ar ymddygiad o’r fath iddo fod yn broblemus neu dorri’r Cod o bosibl. Gall hyn gynnwys awgrymu hyfforddiant ar gyfer yr aelodau dan sylw a gofyn am hyfforddiant o’r fath, gofyn am ddileu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol a gofyn am ymddiheuriadau lle bo’n briodol.

Efallai yr ystyrir bod arweinydd grŵp gwleidyddol sy'n methu â chydymffurfio â'r ddyletswydd newydd mewn ffordd ystyrlon yn dwyn anfri ar ei swydd, a’i bod yn debygol ei fod yn torri'r Cod (gweler Canllawiau'r Ombwdsmon).

Mae gweithdrefnau disgyblu mewnol grŵp gwleidyddol yn parhau’n fater ar gyfer rheolau penodol y grŵp hwnnw neu reolau unrhyw blaid wleidyddol gysylltiedig ar ddisgyblu. Fodd bynnag, mae disgwyl y bydd arweinydd y grŵp yn cymryd camau rhesymol i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau o fewn cyfathrebiadau a chyfarfodydd y grŵp yn ogystal ag yn eu hymddygiad ‘cyhoeddus’ y tu allan i’r grŵp.

Pennod 3: Dyletswydd i gydweithredu â phwyllgor safonau'r cyngor (ac unrhyw is-bwyllgor) wrth arfer swyddogaethau'r pwyllgor safonau

Cyflwyniad

Mae'r bennod hon o ganllawiau yn ymwneud â'r ddyletswydd i gydweithredu â phwyllgor safonau'r cyngor (ac unrhyw is-bwyllgor) wrth arfer swyddogaethau'r pwyllgor safonau o fewn adran 52A o Ddeddf 2000. 

Daw'r dyletswyddau i rym o ddechrau'r cylch etholiadol llywodraeth leol nesaf, ar 5 Mai 2022.

Dyletswydd Newydd

Mae adran 52A(1)(b) o'r Ddeddf 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i arweinydd grŵp gwleidyddol sy'n cynnwys aelodau o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru gydweithredu â phwyllgor safonau'r cyngor (ac unrhyw is-bwyllgor i'r pwyllgor) wrth arfer swyddogaethau'r pwyllgor safonau. Disgrifir dyletswyddau pwyllgor safonau yn fanylach ym mhennod 4.

Rôl arweinydd y grŵp gwleidyddol

Mae'n hanfodol bod arweinwyr grŵp gwleidyddol yn cydweithredu, ac yn sicrhau bod yr aelodau yn eu grŵp yn cydweithredu, gyda'r swyddog monitro a'r pwyllgor safonau pan gyfeirir mater at y pwyllgor safonau.

Dylai arweinwyr grŵp gwleidyddol feithrin cysylltiadau da, a gweithio'n adeiladol gyda'r swyddog monitro, gan ofyn am gyngor ganddynt hwy a'r pwyllgor safonau ar faterion ymddygiad yn ôl yr angen, a dylid hybu ymddygiadau cadarnhaol a mynd i'r afael â rhai amhriodol. Dylai arweinwyr grwpiau hefyd adrodd am gydymffurfiaeth â'u dyletswydd i'r pwyllgor safonau. Gall hyn fod ar ffurf llythyr byr neu adroddiad. Cytunir pa mor aml y dylid ei gyhoeddi gan arweinwyr y grwpiau gwleidyddol yn y cyngor a'i bwyllgor safonau. Dylai arweinwyr grwpiau hefyd roi gwybod am unrhyw bryderon difrifol am ymddygiad aelodau nad ydynt wedi'u hunioni drwy gamau gweithredu anffurfiol, yn unol â’r gofyniad yn y Cod i gynghorwyr roi gwybod am achosion o dorri rheolau.

Os bydd y pwyllgor safonau yn canfod bod aelod wedi torri'r Cod Ymddygiad a’r aelod hwnnw yn cael ei ddisgyblu gan y pwyllgor, rhaid i arweinydd y grŵp gwleidyddol gefnogi'r camau gweithredu, er mwyn cynnal y safonau ymddygiad uchel a ddisgwylir mewn bywyd cyhoeddus a'r Cod. Dylai arweinwyr grwpiau roi sylw i Ganllawiau'r Ombwdsmon a'r Canllawiau ar Gosbau a gyhoeddwyd gan Lywydd Panel Dyfarnu Cymru, sydd ar gael ar wefan y Panel Dyfarnu.

Pennod 4: Swyddogaethau’r pwyllgorau safonau

Cyflwyniad

Mae'r bennod hon yn disgrifio dyletswyddau pwyllgorau safonau mewn perthynas â safonau ymddygiad, o fewn Deddf 2000, a fewnosodwyd gan adran 63 o Ddeddf 2021. 

Daw'r dyletswyddau i rym o ddechrau'r cylch etholiadol llywodraeth leol nesaf, ar 5 Mai 2022.

Y sefyllfa bresennol

Mae pwyllgorau safonau lleol yn chwarae rhan bwysig i helpu aelodau, yn unigol ac ar y cyd, i ddatblygu a chynnal diwylliant sy'n arddel safonau ymddygiad uchel. 

Yn unol ag adran 53 o Ddeddf 2000, mae’n ofynnol i brif gyngor, awdurdod tân ac achub neu awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru (ond nid cyngor cymuned) sefydlu pwyllgor safonau.

Swyddogaethau cyffredinol pwyllgor safonau o dan adran 54(1) o Ddeddf 2000 yw hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau ac aelodau cyfetholedig o awdurdod perthnasol a'u cynorthwyo i ufuddhau i’r Cod Ymddygiad.

At hynny, mae gan bwyllgor safonau swyddogaethau penodol hefyd o dan adran 54(2) o Ddeddf 2000, sef:

  • cynghori'r awdurdod ar fabwysiadu neu ddiwygio Cod Ymddygiad
  • monitro gweithrediad y Cod Ymddygiad
  • darparu cyngor neu ddarparu neu drefnu hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau o'r awdurdod.

Mae adran 56(1) o Ddeddf 2000 yn darparu bod pwyllgor safonau prif gyngor (neu is-bwyllgor a sefydlwyd at y diben) hefyd yn arfer y swyddogaethau hyn mewn perthynas ag aelodau cynghorau cymuned yn ei ardal.

Mae swyddogion monitro yn gweithio'n agos gyda phwyllgorau safonau ac yn eu cefnogi i ddarparu cyngor o ddydd i ddydd i aelodau ar faterion ymddygiad.   

Gall prif gyngor drefnu i'w bwyllgor safonau arfer unrhyw swyddogaethau eraill y mae'n eu hystyried yn briodol, er enghraifft, monitro gweithrediad gweithdrefnau cwynion am gamweinyddu corfforaethol.

Dyletswyddau newydd

Dyletswydd pwyllgor safonau i fonitro cydymffurfiaeth arweinwyr grwpiau â'r dyletswyddau, a darparu cyngor a hyfforddiant

Mae adran 62 (3) o Ddeddf 2021 yn diwygio adran 54 o Ddeddf 2000 i ymestyn swyddogaethau penodol pwyllgor safonau i gynnwys monitro cydymffurfiaeth gan arweinwyr grwpiau gwleidyddol â'r ddyletswydd newydd a osodwyd arnynt gan y Ddeddf 2021 i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau o'u grŵp. Fel y nodwyd uchod, dylai arweinwyr grwpiau gwleidyddol cyngor a'i bwyllgor safonau gytuno ar ffurf yr adroddiad gan bob arweinydd grŵp i’r pwyllgor safonau, a pha mor aml y cyhoeddir adroddiad o’r fath. Wedi hynny, dylai'r pwyllgor safonau ystyried pob adroddiad a rhoi adborth i’r arweinwyr grwpiau.

Rhaid i bwyllgor safonau hefyd ddarparu cyngor a hyfforddiant, neu drefnu i hyfforddi arweinwyr grwpiau ar y ddyletswydd newydd. Ar ddechrau pob gweinyddiaeth, dylai hyn ddigwydd o fewn chwe mis i'r etholiad a dylid adolygu hyn bob blwyddyn o leiaf.

Efallai yr hoffai cadeirydd y pwyllgor safonau gyfarfod ag aelodau’r grŵp yn rheolaidd i adolygu ymddygiad.

Dyletswydd y pwyllgor safonau i lunio adroddiad blynyddol

Mae adran 63 o Ddeddf 2021 yn mewnosod adran 56B newydd yn Neddf 2000 sy'n gosod gofyniad ar bwyllgorau safonau ym mhob awdurdod perthnasol i wneud adroddiad blynyddol i'r awdurdod dan sylw. Yn achos prif gyngor, mae'r gofyniad i adrodd i’r awdurdod yn y cyd-destun hwn yn cynnwys unrhyw gynghorau cymuned yn ei ardal.

Fel gofynion sylfaenol, bydd rhaid i’r adroddiad:   

  • ddisgrifio sut mae'r pwyllgor wedi cyflawni ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol
  • cynnwys crynodeb o'r adroddiadau a'r argymhellion a wnaed neu a gyfeiriwyd at y pwyllgor gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas ag ymchwilio i achosion honedig o dorri cod ymddygiad yr aelodau, ac unrhyw gamau dilynol a gymerwyd gan y pwyllgor
  • cynnwys crynodeb o'r hysbysiadau a roddwyd i'r pwyllgor gan Banel Dyfarnu Cymru, sy'n ymwneud â phenderfyniadau'r Panel ar achosion posibl o dorri cod ymddygiad yr aelodau
  • disgrifio'r cyngor y mae wedi'i ddarparu ar hyfforddiant i bob aelod a sut y gweithredwyd hynny
  • yn achos prif gyngor, cynnwys asesiad y pwyllgor o sut y mae arweinwyr grwpiau gwleidyddol wedi cydymffurfio â'r ddyletswydd newydd o dan adran 52A(1) o Ddeddf 2000 (a fewnosodwyd gan adran 62 o'r Ddeddf 2021) i hybu safonau ymddygiad uchel, gan gynnwys y cyngor y mae'r pwyllgor safonau wedi'i ddarparu a'r hyfforddiant y mae wedi'i awgrymu.

Efallai yr hoffai’r pwyllgor adrodd ar nifer yr achosion a ystyrir o dan brosesau datrys yn lleol hefyd. Byddai hyn yn helpu i gasglu data ar sail “Cymru gyfan”, ynghylch materion nad ydynt yn cyrraedd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Diben y gofyniad i wneud adroddiad blynyddol yw sicrhau bod aelodau awdurdodau perthnasol yng Nghymru yn adrodd ar safonau ymddygiad, ac yn eu hystyried, mewn modd rheolaidd a chyson. Hybu perchenogaeth yn lleol ac annog aelodau i gymryd cyfrifoldeb ar y cyd am sicrhau safonau ymddygiad uchel yn eu hawdurdod yw’r bwriad. I'r perwyl hwn, mae adran 56B yn gosod rhwymedigaeth ar awdurdod perthnasol i ystyried yr adroddiad ac unrhyw argymhellion a wnaed gan ei bwyllgor safonau o fewn tri mis i'w dderbyn. Ceir cofnod cyhoeddus o ystyriaeth yr awdurdod o adroddiad yng nghofnodion cyhoeddedig y cyfarfod.

Byddai’n arfer da i Bwyllgorau Safonau rannu eu Hadroddiadau Blynyddol gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

A yw'r canllawiau drafft yn esbonio’n glir yr hyn a ddisgwylir gan arweinwyr grwpiau gwleidyddol mewn prif gynghorau, fel y’i nodir yn narpariaethau Rhan 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), mewn ffordd y gall aelodau grwpiau gwleidyddol mewn prif gynghorau ei deall?

Os nad ydynt, pam?

Cwestiwn 2

A yw'r canllawiau drafft yn esbonio’n glir yr hyn a ddisgwylir gan Bwyllgorau Safonau mewn prif gynghorau, fel y'i nodir yn darpariaethau Rhan 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, mewn ffordd y gall Pwyllgorau Safonau ei deall?

Os nad ydynt, pam?

Cwestiwn 3

Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y byddai'r canllawiau yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

Pa effeithiau fyddai yn eich barn chi? Sut mae cynyddu effeithiau cadarnhaol neu liniaru effeithiau negyddol?

Cwestiwn 4

Eglurwch hefyd sut rydych chi’n credu y gallai’r canllawiau gael eu llunio neu eu haddasu er mwyn cael effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

Cwestiwn 5

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych chi unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi rhoi sylw penodol iddynt, defnyddiwch y blwch ymateb isod i fynegi eich barn.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 16 Mai 2022, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

Yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.

Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG44398

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.