Daeth yr ymgynghoriad i ben 16 Mai 2022.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gael eich barn ar ganllawiau ynglŷn â dyletswyddau a nodir o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar y canllawiau drafft sy'n ymwneud â safonau ymddygiad o dan y Ddeddf. Mae'r dyletswyddau hyn yn cynnwys:
- hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ran ymddygiad
- cydweithredu â phwyllgor safonau'r cyngor
- darparu cyngor a hyfforddiant
- llunio adroddiad blynyddol.