Data ar brofion, achosion newydd, buchesi o dan gyfyngiadau a gwartheg a laddwyd â TB buchol ar y gyfer Mai 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Nifer yr achosion o dwbercwlosis (TB) mewn gwartheg ym Mhrydain Fawr
Mae datganiad Ystadegau Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn cynnwys ystadegau ar sail yr ardaloedd TB yng Nghymru, ac mae'r pennawd ystadegol hwn yn seiliedig arno.
Cwblhawyd llai o brofion TB ym mis Mai 2020 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, yn bennaf oherwydd COVID-19 a chyfyngiadau pellter cymdeithasol ar waith. Dim ond pan ystyriwyd ei bod yn ddiogel gwneud hynny wrth gynnal pellter cymdeithasol y cynhaliwyd profion.
Nifer y buchesi ag achosion newydd o TB
Yn y 12 mis hyd at fis Mai 2020, cofnodwyd 615 o fuchesi ag achosion newydd o TB yng Nghymru. Dyma ostyngiad o 17% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan gofnodwyd 743 o achosion newydd.
Anifeiliaid gafodd eu difa i reoli TB
Yn y 12 mis hyd at fis Mai 2020, cafodd 10,974 o wartheg eu lladd i reoli TB Gwartheg. Dyma ostyngiad o 10% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan gafodd 12,189 o wartheg eu lladd.
Rhagor o wybodaeth
Mae'r duedd gyffredinol ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu lladd oherwydd rheolaeth TB buchol yn amrywiol. Gellir priodoli llawer o’r cynnydd diweddar ers 2014 i’r defnydd cynyddol o brofion sensitif iawn. Er enghraifft, mae profion gama, gwaredu Adweithyddion Amhendant a dehongli manwl o’r prawf croen oll wedi’u defnyddio er mwyn ceisio gwaredu heintiau a lleihau’r perygl y gallai’r clefyd ledu ac y gallai achosion o’r clefyd ddigwydd eto.
Fel y dengys yn y siart, mae’r gyfres fisol yn hynod o amrywiol, a gellir disgwyl adegau a brigau o bryd i’w gilydd. Bu cynnydd yn y tuedd ers cyrraedd yr uchafbwynt ym mis Hydref 2018 hyd ddiwedd 2019. Cyhoeddwyd dadansoddiad pellach o’r duedd hon ar ffurf erthygl ystadegol: Dadansoddiad o'r nifer o anifeiliaid gafodd eu difa i reoli TB, Hydref 2018 i Mehefin 2019.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.amaeth@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.