Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad ar gyfraddau cwblhau a llwyddo dysgwyr ar raglenni galwedigaethol, rhaglenni addysg gyffredinol (gan gynnwys Safon Uwch) a Bagloriaeth Cymru ar gyfer Awst 2018 i Orffennaf 2019.

Mae ystadegau'n ymdrin â cholegau addysg bellach a chweched dosbarthiadau ysgolion.

Prif bwyntiau

  • Cafodd 9% o'r dysgwyr amser llawn a gychwynnodd AS ym mlwyddyn academaidd 2017/18 yr hyn sy'n cyfateb i dri safon uwch ar A* i A yn 2018/19.
  • Cafodd 42% o leiaf tri A* i C.
  • Pasiodd 65% yr hyn sy'n cyfateb i dri lefel A neu fwy (graddau A * i E).
  • Cyflawnwyd 80% o'r prif gymwysterau galwedigaethol yn llwyddiannus.
  • Fe wnaeth hanner y dysgwyr ar Fagloriaeth Cymru Uwch basio (50%).
  • Roedd anghydraddoldebau mawr o ran canlyniadau i ddysgwyr o gefndiroedd difreintiedig. Roedd dysgwyr o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig dros dair gwaith yn fwy tebygol o gael tri neu A*, o gymharu â dysgwyr o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig.
  • Roedd merched yn fwy tebygol na bechgyn o gyflawni mewn rhaglenni addysg gyffredinol. Nid oedd bwlch rhwng y rhywiau yn y cyfraddau llwyddo ar gyfer rhaglenni galwedigaethol.

Nodyn

Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys ystadegau arbrofol. Mae'n rhan o gyfres o dri mesur perfformiad cyson a ddatblygwyd ar gyfer addysg ôl-16.

Adroddiadau

Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: cyflawniad, Awst 2018 i Orffennaf 2019 (ystadegau arbrofol) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: cyflawniad, Awst 2018 i Orffennaf 2019 (ystadegau arbrofol): tablau , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 46 KB

ODS
46 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.