Chyrchfannau dysgwyr ar gyfer sefydliadau addysg bellach a chweched dosbarth ysgolion ay gyfer Awst 2015 i Gorffennaf 2016.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16 (cyrchfannau dysgwyr)
Er bod y mesurau'n parhau i gael eu datblygu, gan ein bod yn dal i weithio i ddatrys problemau o ran methodoleg ac ansawdd data, rydym yn gallu darparu'r set gyntaf o ystadegau arbrofol.
Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar gyrchfannau dysgwyr (hynny yw, yr hyn y mae dysgwyr yn ei wneud ar ôl iddynt gwblhau eu rhaglen ddysgu), gan gynnwys y dysgwyr hynny sy'n ymgymryd â dysgu seiliedig ar waith. Mae rhifyn ar wahân yn rhoi gwybodaeth am gyflawniad disgyblion. Data arbrofol sydd yma, a byddwn yn cynnal ymgynghoriad pellach â darparwyr dysgu ar y fethodoleg.
Prif bwyntiau
O'r 116,080 o ddysgwyr a orffennodd raglen ddysgu yn 2015/16:
- roedd gan 81% gyrchfan barhaus gadarnhaol i naill ai cyflogaeth neu ddysgu, 1 pwynt canran yn is na 2014/15
- roedd 55% mewn cyflogaeth barhaus, a 22% o'r rheini hefyd yn dysgu'n barhaus
- roedd 48% yn dysgu'n barhaus, a 22% o'r rheini hefyd mewn cyflogaeth barhaus.
Dysgwyr ôl-16 yw'r rheini sy'n astudio mewn sefydliadau addysg bellach, chweched dosbarth ysgolion a dysgu seiliedig ar waith (prentisiaethau, hyfforddeiaethau a rhaglenni cyflogadwyedd eraill). Nid yw gorffen rhaglen ddysgu o anghenraid yn golygu ‘rhywun sy'n gadael’. Er enghraifft, bydd y dysgwyr sy'n chwblhau Safon Uwch wedi cwblhau rhaglen astudio UG cyn hynny, cyn symud i raglen A2.
Adroddiadau
Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: cyrchfannau dysgwyr, blwyddyn academaidd 2015 i 2016 (ystadegau arbrofol) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 716 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.