Neidio i'r prif gynnwy

Droeon pan oeddwn yn feichiog, byddai pobl yn dweud wrtha i pa mor ddrud oedd magu plant. Yn naturiol, roedd Sam a fi’n poeni am ein sefyllfa ariannol. Sut byddem ni’n gallu fforddio gwneud? A fyddem ni’n gallu prynu cartref ein hunain? Sut byddai modd sicrhau cydbwysedd rhwng bod yn ofalus ac yn gyfrifol gyda’n harian, a mwynhau bwyta allan, mynd ar ein gwyliau a bod yn hael gyda’n ffrindiau a’n teuluoedd?

Rydym ni wastad wedi bod yn weddol ofalus gyda’r ffordd rydym yn gwario’n harian, hyd yn oed cyn i Myla gael ei geni. Mae Sam yn gynilwr naturiol, tra fy mod i’n hoffi gwario arian. Ar ôl penderfynu dychwelyd i fy swydd yn rhan-amser, gan golli oddeutu traean o fy nghyflog misol, roedd y ddau ohonon ni’n gwybod y byddai’n rhaid i ni arbed arian yn rhywle er mwyn gallu byw yn gyfforddus, heb fynd i ddyled.

Cymorth gan ein ffrindiau a’n teuluoedd

Rydym ni’n ffodus iawn o gael teuluoedd sydd eisiau ein helpu ni i ofalu am ein baban trwy gyfrannu at rai o’r costau angenrheidiol. Roedden ni’n lwcus tu hwnt i gael pram a chot yn anrhegion gan berthnasau, ynghyd â bag llawn hanfodion a llawer o ddillad yn rhoddion parti presantau. Mae ein preseb gwiail yn drysor teuluol ac mae nifer o ffrindiau wedi rhoi eitemau babi ail-law i ni.

Mae babanod yn tyfu’n gyflym tu hwnt. Unwaith neu ddwywaith yn unig mae Myla wedi gwisgo rhai o’r eitemau cyn i ni eu rhoi nhw o’r neilltu. Rydym ni wedi arbed ffortiwn diolch i haelioni ffrind sydd â merch blwyddyn yn hŷn na Myla. Mae hynny’n golygu bod y meintiau’n cyd-fynd â’r tymhorau - wedi’r cyfan, does neb eisiau gwisgo siwmper Nadolig ym mis Gorffennaf. Rydw i’n prynu dillad i Myla yn ystod y flwyddyn ac yn tueddu prynu o archfarchnadoedd. Mae ansawdd y dillad yn ardderchog a, thra bod Myla yn tyfu mor gyflym, does dim pwynt gwario llawer o arian ar ddillad a fydd yn cael eu defnyddio am fis neu ddau yn unig.

Does dim rhaid talu’n ddrud i gael hwyl

Yn ystod yr wythnos, mae’r rhan fwyaf o’r gweithgareddau rydw i’n gwneud gyda Myla un ai’n rhad ac am ddim neu’n rhad. Rydym ni’n ffodus ein bod yn byw ger parc Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac nid oes rhaid talu i fynd yno. Mae gennym ffrindiau sy’n byw gerllaw, felly mae Myla yn aml yn cael chwarae gyda phlentyn arall am brynhawn. Rydym ni’n hoffi cadw pethau’n syml yn ystod yr wythnos, mynd i weithgareddau lleol yn y llyfrgell, grwpiau chwarae, mynd am dro a phethau diflas fel glanhau a mynd i siopa. Yna, pan mae Sam gyda ni ar y penwythnos, rydym ni’n hoffi gwario mwy a mynd ymhellach: ymweld â fferm, sw, mynd i nofio neu gael pryd o fwyd. Rwy’n credu’n gryf bod pob elfen o fywyd yn gallu bod yn hwyl – gallwch adlonni plentyn bach wrth wagio’r peiriant golchi neu roi dillad gadw, cyn belled â’ch bod yn dawnsio i ganeuon Disney wrth wneud. Nid wyf yn teimlo o dan unrhyw bwysau i deithio’n bell a gwneud rhywbeth newydd a chyffrous gyda Myla bob dydd. Mae hi’n dysgu pethau newydd trwy’r amser, hyd yn oed pan rydym yn bwydo’r hwyaid yn y parc neu’n casglu dail i wneud llun.

Hwyl yr Ŵyl

Yn aml, mae’r Nadolig yn gyfnod drud i deuluoedd. Roeddwn i ar gyfnod mamolaeth dros y Nadolig y llynedd, felly roedd pethau yn dynnach na’r arfer arnom yn ariannol. Roedd ein teuluoedd yn deall yn iawn na fydden ni’n gallu gwario llawer o arian arnynt, gan ddweud wrthon ni i arbed ein harian a pheidio prynu anrhegion iddynt. Ond rwyf i wrth fy modd yn rhoi anrhegion, felly gwnaethom ni argraffu a fframio llun o Myla yn anrheg i aelodau’r teulu. Eleni, bydd Myla yn addurno addurniadau ar gyfer coed Nadolig ein teuluoedd. Dyma rodd hynod rad sydd â gwerth sentimental aruthrol.

Mae’n hawdd ymgolli yn holl anrhefn y Nadolig - y siopa a’r pwysau i wario llawer o arian bob blwyddyn. Does dim lle yn ein cartref ni ar gyfer presantau mawr fel y mae hi. Rwy’n adnabod rhai pobl sy’n glynu at y rheol hon: “rhywbeth maen nhw eisiau, rhywbeth sydd angen arnynt, rhywbeth i wisgo a rhywbeth i ddarllen”, a dw i’n bwriadu dilyn yr un rheol yn y dyfodol. 

I ni, nid ystyr y Nadolig yw gwario llawer o arian ar ein gilydd. Treulio amser yng nghwmni ein gilydd a gyda’n teuluoedd, creu traddodiadau newydd ac atgofion melys gyda Myla yw’r nod, a fydd yn para’n hirach nag unrhyw anrheg.