Y 12 mis diwethaf...
Mae’r teulu Jones yn edrych yn ôl ar eu profiadau o’r cyfnod clo, addysgu gartref a sut mae eu perthynas wedi datblygu ar ôl treulio mwy o amser gyda'i gilydd fel teulu.
Mae'r 12 mis diwethaf wedi bod yn anhygoel o ryfedd ac wedi achosi pryder i bawb. Wrth i COVID-19 ledaenu ar draws y DU, roeddwn i'n ofni y byddai ein plant a'n perthnasau agos yn mynd yn sâl. Roeddwn i’n poeni'n arbennig am fy merch Imogen (6 oed), sydd â math prin o glefyd yr ysgyfaint, a sut y gallai effeithio arni hi pe byddai'n cael ei heintio gan y feirws. Mae hi ar restr gwarchod y llywodraeth ac fe wnaethom ni dreulio ein holl amser yn ystod y 5 mis cyntaf gartref - yn y tŷ neu yn yr ardd. Roedd hyn yn golygu bod yn rhaid i mi feddwl am lawer o ffyrdd o gadw'r plant yn brysur heb ysgol na gweithgareddau wedi'u trefnu ar y calendr.
Gan fy mod i’n rhiant i dri o blant ifanc, a Dean yn dal i weithio oriau hir i ffwrdd o'r cartref drwy gydol y cyfnod clo, sylweddolais fy mod yn fwy amyneddgar nag yr oeddwn i’n gwybod! Llwyddais i gymryd un diwrnod ar y tro ac addasu fy nisgwyliadau ar gyfer y dyfodol. Sylweddolais hefyd fy mod wedi mwynhau byw'n arafach – heb fod â llawer o apwyntiadau, gweithgareddau na digwyddiadau cymdeithasol i ruthro iddyn nhw, roeddwn i’n mwynhau mwy o amser gyda'n gilydd yn chwarae, yn siarad, ac yn mwynhau cwmni ein gilydd.
Fel Mam â phlant ifanc yn ystod y cyfnod clo doedd gen i ddim llawer o amser ar gyfer hunanofal - weithiau yr unig foment o dawelwch y byddwn i'n ei gael yn ystod y diwrnod cyfan oedd mynd allan i roi'r sbwriel yn y bin! Roedd yn flwyddyn o sŵn cyson, llanast a chael y plant yn fy nghyffwrdd, yn eistedd arnaf, ac yn fy nilyn i’r tŷ bach a gweiddi "Maaaaaaaaaam" arnaf bron drwy’r amser! Yr un peth y gwnes i, a oedd yn diogelu fy lles meddwl i ryw raddau, oedd glynu wrth ein trefn arferol a'n hamser gwely. Er ei fod weithiau'n demtasiwn, wnes i ddim gadael i amser gwely'r plant fynd yn hwyrach nag arfer oherwydd yr adeg pan fydden nhw wedi setlo yn y gwely oedd yr unig lonydd/amser tawel/amser ar fy mhen fy hun gyda’r gŵr yr oeddwn i’n ei gael. Roeddwn i'n gwybod bod yn rhaid i mi fod â hynny er mwyn bod yn bopeth yr oedden nhw angen i mi fod trwy gydol y dydd.
Yr adeg fwyaf heriol i mi yn ystod y cyfnodau clo oedd yn ystod y cyfnod cyntaf pan gollais i fy ffrind annwyl Laura i ganser y fron. Roeddem ni wedi bod yn ffrindiau ers yr ysgol ac wedi mwynhau llawer o anturiaethau hyfryd gyda'n gilydd dros y blynyddoedd. Wedi iddi farw, roedd Dean yn brysur iawn yn y gwaith ac roedd y plant gyda fi'n gyson - dwi'n cofio teimlo mor glawstroffobig yn gaeth i’r tŷ a’r ardd gyda nhw drwy'r amser; maen nhw i gyd yn hyfryd - ond yn llawn egni. Roeddwn i'n hiraethu am ddistawrwydd fel y gallwn i grio a theimlo'n drist. Roeddwn i eisiau rhedeg i ffwrdd a galaru heb orfod addysgu gartref, cynllunio gweithgareddau, golchi dillad, chwarae play doh, sesiynau paentio a gwneud byrbrydau diddiwedd! Roeddwn i eisiau bod yn drist, ac roedd hi’n anodd gwneud hynny gyda'm mhlant bach a oedd fy angen i gymaint. Roeddwn i’n onest gyda'r plant am farwolaeth Laura, ac roedden nhw’n gwybod am ei salwch ymlaen llaw, ond fe wnaeth ysgogi llawer o gwestiynau ganddyn nhw. Atebais i bob un o'u cwestiynau yn onest ac fe wnaethon nhw fy ngweld i’n crio ac yn mynd yn ddagreuol, ond mae Dean a fi'n credu mewn bod yn onest gyda nhw ac fe wnaethon nhw roi y cwtshys mwyaf gwych i mi a thynnu lluniau hyfryd i mi i'm helpu i godi fy nghalon, ac roedd hynny’n hyfryd.
Roedd yn ddiddorol gweld empathi'r plant yn datblygu wrth i ni ddechrau treulio mwy o amser gyda'n gilydd. Roedden nhw'n hyfryd pan gollais i fy ffrind a fy nghefnogi â mwythau a lluniau a gofyn ar ôl ei gŵr, ei mab a'i merch fach. "Ydyn nhw'n iawn? Ydyn nhw’n mynd i fod yn iawn?"
Digwyddodd rhywbeth arall hefyd - dechreuon nhw ddatrys eu hanghytundebau gyda'i gilydd. Nid pob dadl, ac nid wastad yn berffaith, ond yn fwy a mwy maen nhw’n dysgu datrys problemau ac yn cydymdeimlo â safbwynt ei gilydd ac mae'n wych gweld. Dydw i ddim yn credu mewn dyfarnu ac rwyf bob amser wedi eu hannog i gymodi mewn ffordd deg drwy ofyn iddyn nhw egluro'r sefyllfa a siarad am deimladau a safbwynt ei gilydd. Mae wedi cymryd llawer o amser ond mae'n ymddangos ei fod yn talu ar ei ganfed nawr gan fy mod yn gallu eu clywed yn siarad am bethau ac yn trafod amser ar y trampolîn/ pwy sy'n cael pa gacen a pham ac ati ac maen nhw'n tynnu lluniau a chardiau i’w gilydd. Mae eu perthynas â'i gilydd wedi dod yn un agos iawn.
Wrth i ni edrych tuag at normal newydd, byddaf yn gwerthfawrogi ein cartref a'n gardd fach yn fwy – dyma oedd ein hafan, ysgol, iard chwarae a phopeth arall yn ystod y 12 mis diwethaf. Rwyf hefyd eisiau cadw'r cyflymder bywyd arafach hwn yr ydym ni wedi'i fabwysiadu. Dychwelodd y plant i gyd i'r ysgol yn ddiweddar ac er fy mod yn awyddus iddyn nhw ddychwelyd i wersi nofio a'u hobïau wrth i gyfyngiadau ganiatáu, byddaf yn ofalus i beidio â gorfodi gormod o weithgareddau mewn i'w hwythnos. Maen nhw'n elwa o amser segur a gorffwys cymaint â fi. Wrth symud ymlaen byddaf yn gwerthfawrogi fy nheulu a'm ffrindiau yn fwy, bydd hyd yn oed mynd allan am goffi gyda'n gilydd yn teimlo fel cymaint mwy o bleser ar ôl cael ein gwahanu cyhyd.