Neidio i'r prif gynnwy

Gall y Nadolig â’i holl hwyl a dathlu, fod yn adeg heriol iawn o’r flwyddyn – yn enwedig pan fo plant i’w hystyried!

Gall y Nadolig â’i holl hwyl a dathlu, fod yn adeg heriol iawn o’r flwyddyn – yn enwedig pan fo plant i’w hystyried! Er mor llethol y mae’n gallu teimlo, mae’n gyfle gwych i dreulio hyd yn oed mwy o amser gyda’ch gilydd a gall helpu i ddatblygu perthynas agosach heb sôn am ddatblygu’r traddodiadau teuluol y mae pawb yn hoffi eu hatgyfodi bob blwyddyn.

Mae’r Nadolig yn adeg gyffrous iawn o’r flwyddyn i’n plant ni ac rydym yn hoffi dechrau trwy addurno’r goeden a dechrau cyfrif y dyddiau gyda chalendr adfent. Mae’n ymarferol iawn felly mae’r plant wrth eu boddau yn helpu!

Un o’n hoff ffyrdd o dreulio amser gyda’n gilydd adeg y Nadolig yw mwynhau clasur o ffilm Nadoligaidd ar y teledu. Rydym yn mwynhau noson ffilm gyda phopgorn ac yn swatio ar y soffa. I ychwanegu at yr hwyl mae pob un yn dewis ffilm yn ei dro!

I ffwrdd o’r teledu gartref, rydym hefyd yn hoff iawn o bantomeim yn ein y tŷ ni (O ydym!), felly byddwn yn ceisio gweld o leiaf un dros yr Ŵyl fel arfer. Yn ogystal â mwynhau, mae hyn hefyd yn rhoi cyfle arall i gael sgwrs gyda’r plant a gwrando ar eu safbwyntiau a’u barn arno.

Rydym ni hefyd yn mynd i ddigwyddiad 'Nadolig Oes Fictoria', a oedd yn hudolus y llynedd gyda phobl yn canu carolau, mins peis a Siôn Corn hyfryd a oedd ag amser i siarad gyda phob plentyn. Mae cymaint o ddigwyddiadau adeg y Nadolig ac mae’n anodd dewis. Rydym yn hoffi’r math hwn o brofiad teuluol gan ei fod yn llawer o hwyl ac nid yw’r pwyslais ar wario ffortiwn! 

Mae pawb yn hoffi cael anrhegion adeg y Nadolig, ond rydym yn ceisio pwysleisio ei fod yn gyfnod i’w dreulio gyda ffrindiau a theulu a bod yn garedig i eraill hefyd. Rydym yn ceisio sicrhau bod y plant yn rhan o weithgaredd elusennol bob blwyddyn a thrwy hyn maen nhw’n dysgu bod y pleser o roi cystal â’r pleser o gael! Trwy ddangos pa mor bwysig yw bod yn ddiolchgar, mae Dean a fi yn gobeithio y bydd y plant yn gwerthfawrogi pa mor ffodus ydyn nhw.

Rydym yn gwneud rhywbeth gwahanol eleni hefyd. Byddwn yn cynnwys anrheg o brofiad i bob plentyn yn hytrach na mynydd o anrhegion plastig. Nid yw hyn o reidrwydd yn brofiad y mae’n rhaid talu amdano ychwaith. Mae cymaint o brofiadau am ddim ar gael, a bydd yr amser a’r profiad a geir yn cael eu gwerthfawrogi llawn cymaint. Bydd ganddyn nhw anrhegion i’w hagor o hyd, ond hyd yn hyn maen nhw’n meddwl bod y syniad yn gyffrous iawn. Rwy’n credu bod yr ymadrodd ‘presenoldeb yn lle presantau’ yn hollol wir. Mae’r plant yn hoff iawn o greu atgofion, ac mae atgofion yn para’n llawer hirach.

Gall newid mewn trefn arferol, pwysau cymdeithasol ychwanegol a nosweithiau hwyr fod yn her i oedolion heb sôn am i blant. Mae’n bwysig i mi gynnwys elfen o hyblygrwydd yn y cynlluniau er mwyn bod yn barod am unrhyw ddigwyddiadau annisgwyl. Eleni rydym ni adref dros y Nadolig ac mae’r teulu estynedig yn dod atom ni. Mae’n wych oherwydd bydd y plant yn gysurus yn eu cartref eu hunain – ond gall cael cymaint o ymwelwyr ei gwneud hi’n dipyn o her iddyn nhw ymlacio yng nghanol yr holl sbri!

Mae’n anorfod y gall y Nadolig deimlo’n llethol, felly dyma rai o fy syniadau i leddfu’r straen a’i wneud yn achlysur i’w fwynhau fel y dylai fod:

  • Trefnwch gemau tawel i’w chwarae gyda’ch gilydd
  • Swatiwch ar y soffa a gwylio ffilm Nadoligaidd 
  • Cadwch fwydydd iach wrth law, yn ogystal â’r danteithion!
  • Ceisiwch gadw at drefn arferol pan fo’n bosibl
  • Os yw amser gwely yn hwyrach un noson, trefnwch amser gorffwys y diwrnod canlynol 
  • Gadewch iddyn nhw fwynhau amser chwarae rhydd gyda’u teganau newydd