Neidio i'r prif gynnwy

Yn union fel babis, mae plant bach yn crio oherwydd eu bod nhw eisiau bwyd, yn flinedig, yn anghyfforddus neu angen teimlo cysylltiad â chi. Pan fydd eich plentyn bach yn gallu siarad, bydd yn llawer haws iddo fynegi pam mae wedi cynhyrfu ac i chi ddeall beth sydd ei angen arnynt.

Awgrymiadau i reoli crio eich plentyn bach

  • Gwnewch yn siŵr nad yw’n sâl nac mewn poen. Os oes ganddyn nhw dymheredd uchel, efallai bod salwch arnyn nhw. Os ydych chi’n credu bod rhywbeth o'i le cysylltwch â GIG 111 Cymru am ddim ar 111 (www.111.wales.nhs.uk) am gyngor. Os nad ydych yn gweld unrhyw  arwyddion amlwg o salwch, efallai bod cur pen neu glust tost yn achosi iddo grio.
  • Ceisiwch ganfod pam mae eich plentyn bach yn crio. Mae defnyddio HALT yn fan cychwyn da. Meddyliwch a yw'ch plentyn yn llwglyd (Hungry), yn flin (Angry), yn unig (Lonely), wedi blino (Tired). Gallai byrbryd, ychydig o amser tawel neu orffwys helpu.
  • Arhoswch yn agos ac arhoswch yn dawel. Mae'n bwysig bod eich plentyn yn gwybod eich bod chi'n dal yno gyda ef; gallai hyn fod drwy roi cwtsh tyner, dweud rhywbeth calonogol mewn tôn llais tawel neu gynnal cyswllt llygad. Byddwch yn esiampl o sut i ymateb i deimladau o rwystredigaeth fel bod eich plentyn yn dysgu o'ch gwylio.
  • Ydy'ch plentyn yn poeni neu'n bryderus am rywbeth? Efallai fod eich plentyn yn poeni neu bryderus am fynd i feithrinfa, symud tŷ neu fabi newydd. Crio yw ei ffordd o fynegi pryder. Rhowch lawer o sicrwydd a chariad i’ch plentyn a gwneud iddo deimlo'n ddiogel ac yn sicr.
  • Ceisiwch fynd â'ch plentyn allan. Ewch am dro, i'r parc neu ymunwch â grŵp rhieni a phlant bach. Gall golygfa newydd helpu.
  • Siaradwch am eu teimladau a’u cydnabod. Os gall eich plentyn ddisgrifio sut mae'n teimlo â geiriau, gall ei helpu i ddeall a rheoli ei deimladau.
  • Ceisiwch dynnu sylw eich plentyn bach. Defnyddiwch degan neu weithgaredd chwarae neu dynnu sylw at rywbeth diddorol.
  • Peidiwch â smacio na chosbi'ch plentyn yn gorfforol. Mae hyn yn anghyfreithlon yng Nghymru. Efallai eich bod chi'n credu y bydd yn atal yr ymddygiad ond nid yw'n ymateb i anghenion eich plentyn, nac yn ei helpu i ddysgu sut i ddeall ei emosiynau a datblygu mwy o reolaeth dros ei ymddygiad.

Mae'n iawn gofyn am help

Mae gwasanaethau a sefydliadau a all roi cymorth a chyngor i chi.

Efallai y bydd y llinellau cymorth hyn yn ddefnyddiol i chi:

  • Llinell Gyngor a Gwrando’r Gymuned (C.A.L.L.) - callhelpline.org.uk - ar 0800 132 737 (gwasanaeth 24 awr), neu decstio 'help' i 81066. Mae hon yn llinell gymorth gyfrinachol sy'n cynnig cymorth emosiynol ar iechyd meddwl a materion cysylltiedig.
  • Y Samariaid (samaritans.org) ar 116 123 (gwasanaeth cyfrinachol 24 awr). Gallwch gysylltu am unrhyw beth sy'n eich poeni, ni waeth pa mor fawr neu fach yw’r mater.

Ble i gael cyngor a chefnogaeth

Mae cymorth a chyngor magu plant cyffredinol ar gael gan fydwragedd, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu a’ch awdurdod lleol. Mae rhaglenni cymorth cynnar fel Dechrau’n Deg (os wyt yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg) a Teuluoedd yn Gyntaf hefyd ar gael.

Edrych ar ôl dy hunan. Gall cwrdd â rhieni eraill fod yn llesol. Bydd y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd  lleol yn gallu dweud wrthyt beth sy'n digwydd yn dy ardal.