Cafwyd cadarnhad ynghylch sut y bwriedir mynd i'r afael â thagfeydd yn Ne-ddwyrain Cymru ar ôl i Lywodraeth Cymru gymeradwyo argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru.
Mewn ymateb fesul llinell i adroddiad terfynol y Comisiwn, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn mewn egwyddor yr holl argymhellion ar sut i fynd i'r afael â thagfeydd. Mae hefyd wedi amlinellu'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma, a'r camau nesaf er mwyn cyrraedd y nod.
Sefydlwyd "Uned Ddatblygu" bwrpasol yn Trafnidiaeth Cymru i roi cyngor ar yr argymhellion ac i ddatblygu rhaglen gyflawni.
O ran argymhelliad y Comisiwn i gynyddu nifer y gorsafoedd trenau a'r gwasanaethau yn y rhanbarth, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn gweithio gyda phartneriaid i gynyddu capasiti, i leihau amserau teithio ac i sicrhau bod y rhwydwaith yn fwy cydnerth. Mae'r partneriaid hynny’n cynnwys Trafnidiaeth Cymru, Network Rail a Llywodraeth y DU, sy'n parhau’n gyfrifol am seilwaith rheilffyrdd o dan y setliad datganoli presennol.
Mae memorandwm cyd-ddealltwriaeth wedi'i lofnodi gyda Chyngor Dinas Casnewydd fel y bo modd mynd ati ar y cyd, gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru, i lywio'r ffordd ymlaen ar gyfer bysiau a mesurau teithio llesol yn y ddinas.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:
"Mae mynd i'r afael â thagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd yn parhau’n flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ond rydyn ni hefyd, ar yr un pryd, yn ymwybodol o'r angen i ddatgarboneiddio, i wella ansawdd aer, i sicrhau tegwch o ran trafnidiaeth ac i ymateb yn gadarn i COVID-19.
"Mae ysbryd yr argymhellion yn cyd-fynd yn agos â'n strategaeth drafnidiaeth newydd, Llwybr Newydd, a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Rhwydweithiau trafnidiaeth Metro, a fydd yn integredig, yn garbon isel ac yn aml-foddol, fydd dyfodol trafnidiaeth yng Nghymru.
"Mae’r gwaith o fwrw ’mlaen â llawer o'r awgrymiadau a wnaed gan y Comisiwn yn dod yn ei flaen yn dda. Mae'n gyfres uchelgeisiol o argymhellion a fydd yn arwain at welliannau sylweddol i'r rhanbarth, ac wrth inni fwrw ’mlaen â nhw, rydyn ni’n gwneud hynny ag ymdeimlad o frys a chan wybod bod angen gweithredu."