Neidio i'r prif gynnwy

Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru heddiw gyllid ar gyfer gwasanaethau arbenigol sy’n cefnogi goroeswyr trais a cham-drin domestig yn ystod pandemig y coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gall sefyllfaoedd o argyfwng arwain at gynnydd mewn achosion o drais domestig ac nid yw’r cartref yn lle diogel bob amser.

Gall pobl wynebu mwy o risg o gam-drin, trais a phoenydio seicolegol tra maent yn hunan-ynysu a thra mae’r rheolau aros gartref yn eu lle i leihau’r feirws rhag lledaenu. Gall fod yn fwy anodd i ddioddefwyr ddianc neu geisio cefnogaeth hefyd.

Hefyd mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, wedi annog pobl yng Nghymru i ofalu am ei gilydd er mwyn cefnogi’r rhai sy’n wynebu risg o gam-drin domestig.

Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodaeth Cymru gyllid i fynd i’r afael â thrais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol - cafodd £1.2 miliwn ei ymrwymo i helpu Cymorth i Ferched Cymru a gwasanaethau cam-drin domestig rhanbarthol i gadw goroeswyr yn ddiogel ac i ddarparu ar gyfer anghenion nad oes modd i lochesi eu diwallu.

Mae Llywodraeth Cymru yn neilltuo £200,000 i helpu i ddarparu’r canlynol ar gyfer llochesi a gwasanaethau cefnogi:

  • gwelyau a matresi i sicrhau bod digon o welyau i oroeswyr mewn llochesi
  • nwyddau gwynion i sicrhau nad oes unrhyw risg o drawsheintio os oes canlyniadau oherwydd gorfod ynysu yn sgil y feirws
  • offer chwarae dan do ac yn yr awyr agored i leddfu’r broblem o gau ysgolion a chadw pellter cymdeithasol, sy’n atal mynediad i gaeau chwarae allanol
  • offer TG ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n gorfod astudio gartref yn ystod cyfnod o ynysu, neu i alluogi staff i gadw mewn cysylltiad â dioddefwyr a goroeswyr
  • sebon a diheintydd dwylo i helpu i gynnal hylendid da

Dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt:

Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o fynd i’r afael â’r holl drais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd iawn yma.

Rwyf yn annog cymunedau ledled Cymru i ofalu am ei gilydd. Mae hwn yn gyfnod dychrynllyd i ni i gyd, ond gall y rhai sydd mewn perygl o gael eu cam-drin fod yn byw ar ymyl y dibyn.

Bydd Llywodaeth Cymru yn parhau i weithio’n agos gyda Chymorth i Ferched Cymru, gwasanaethau cam-drin domestig a thrais rhywiol arbenigol, cymunedau, awdurdodau lleol a byrddau iechyd i warchod dioddefwyr a goroeswyr ac i atal cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rydyn ni’n croesawu cefnogaeth yr awdurdodau rhanbarthol a’r cymunedau i’n helpu ni i gyflawni hyn.

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn dioddef o gam-drin corfforol neu emosiynol gan bartner, dyma rai ffyrdd o gael help.

Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos – ffoniwch am ddim ar 0808 8010 800 unrhyw bryd, os gallwch wneud hynny’n ddiogel. Hefyd gallwch anfon neges destun i 0786 007 7333, e-bost i info@livefearfreehelpline.wales neu gael gwe-sgwrs.

Os na allwch siarad yn ddiogel, ond bod arnoch angen help ar unwaith, bydd heddluoedd ledled Cymru’n ymateb i alwad 999 dawel – deialwch 999 ac wedyn 55 i ddangos nad ydych chi’n gallu siarad, ond bod arnoch angen help.