Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gefnogaeth ariannol i gynorthwyo Maes Awyr Caerdydd fel y gall wynebu effeithiau cynnar pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i newid ar frys ei pholisi o ran cynnig rhagor o gymorth ariannol i feysydd awyr rhanbarthol.
Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i’r maes awyr, drwy amrywio ei gyfleuster benthyciad masnachol cytunedig presennol, i gefnogi gyda’r gostyngiad yn ei weithrediadau ac i gynnal solfedd.
Hefyd galwodd y Gweinidog ar Lywodraeth y DU i ddatblygu trefniadau i alluogi Maes Awyr Caerdydd i dderbyn cymorth ychwanegol gan y wladwriaeth fel iawndal am effaith yr achosion o goronafeirws.
Mae cyfyngiadau teithio byd-eang yn golygu nad oes unrhyw hediadau masnachol yn gweithredu ar hyn o bryd ar gyfer teithwyr o Faes Awyr Caerdydd ac mae oriau gweithredol y maes awyr wedi lleihau. Fodd bynnag, mae’r maes awyr yn parhau ar agor i ddarparu cefnogaeth cludo nwyddau, argyfwng a logistaidd allweddol a pharhaus, i gynorthwyo gydag ymateb i argyfwng y coronafeirws.
Mae rheolwyr Maes Awyr Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd ychydig dros hanner y swyddi yn y maes awyr yn cael eu rhoi ar seibiant am isafswm o dair wythnos, ac yn cael eu hailsefydlu pan fydd anghenion busnes yn newid.
Dywedodd Ken Skates:
Mae Maes Awyr Caerdydd yn rhan bwysig o’n heconomi a’n rhwydwaith trafnidiaeth, a bydd y cam rhagweithiol hwn yn helpu i warchod y maes awyr.
Byddwn yn rhyddhau’r symiau gofynnol o’r trefniant benthyciad presennol sy’n angenrheidiol i gadw’r maes awyr yn gweithredu a byddwn yn sicrhau ei fod yn gallu parhau i gefnogi’r ymateb ehangach i’r achosion. Mae hyn yn cynnwys bod ar gael ar gyfer hediadau meddygol allweddol a gwasanaethu anghenion y gwasanaethau milwrol ac argyfwng.
Fodd bynnag, datrysiad tymor byr yw ein cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i’r maes awyr ac nid yw’n sefyllfa gynaliadwy. Llywodraeth y DU yw’r arweinydd allweddol i gefnogi’r diwydiant awyrennau a rhaid iddi newid ei pholisi tuag at ragor o help ariannol i feysydd awyr rhanbarthol.