Neidio i'r prif gynnwy

Mae ymgynghoriad wyth wythnos, a lansiwyd heddiw yng Nghymru a Lloegr, yn gofyn am farn ar ddod i ben ag allforion anifeiliaid byw i’w lladd a’u pesgi pan fo’r teithiau’n dechrau neu’n croesi’r naill wlad neu’r llall.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn aml mae anifeiliaid byw yn gorfod dioddef teithiau hirfaith yn ystod eu hallforio, gan achosi trallod ac anafiadau iddynt. Mae ymadael â’r UE wedi’i gwneud hi’n bosibl i Lywodraeth y DU fynd ar drywydd y cynigion hyn a fyddai’n atal dioddefaint dianghenraid i anifeiliaid wrth eu cludo a’n gweld yn dod y wlad gyntaf yn Ewrop i ddod â’r arfer hwn i ben. 

Rydym hefyd yn ymgynghori ar gynigion i wella lles anifeiliaid ymhellach wrth eu cludo yn fwy cyffredinol, megis:

  • gostwng amseroedd teithio uchafswm;
  • anifeiliaid yn cael mwy o ofod a lle uwch eu pennau wrth eu cludo
  • rheolau llymach ar gludo anifeiliaid mewn gwres neu oerfel eithafol
  • rheolau llymach ar gludo anifeiliaid byw dros y môr.

Mae’r ymgynghoriad yn dilyn galwad cynharach am dystiolaeth gan Lywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig ym mis Ebrill 2018, ar reoli allforion byw i’w lladd a gwella lles anifeiliaid wrth eu cludo.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:  

Rydym yn ymroddedig i sicrhau’r safonau lles uchaf ar gyfer pob anifail a gedwir yng Nghymru. 

Credaf mai dull gweithredu ar draws Prydain yw’r ffordd orau ymlaen ar gyfer y dyfodol i sicrhau ein bod yn diogelu ac yn gwella lles anifeiliaid sydd ar hyn o bryd yn mynd ar deithiau hirfaith. 

Byddwn yn ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad hwn i lywio ein cyfeiriad polisi yn y dyfodol yng Nghymru ar y mater datganoledig hwn.

Rwy’n annog y diwydiant amaeth, partneriaid a phawb sydd â diddordeb mewn lles anifeiliaid i gymryd rhan a rhannu eu safbwyntiau â ni ar y mater pwysig hwn.