Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 28 Ionawr 2021.

Cyfnod ymgynghori:
3 Rhagfyr 2020 i 28 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb o’r canlyniad

Mae'r crynodeb o'r ymatebion bellach ar gael ar gov.uk.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn ymgynghori ar y cyd â Llywodraeth y DU ar gynigion i ddod i ben ag allforion anifeiliaid byw i’w lladd a’u pesgi pan fo’r teithiau’n dechrau neu’n croesi’r naill wlad neu’r llall.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Yn aml mae anifeiliaid byw yn gorfod dioddef teithiau hirfaith yn ystod eu hallforio, gan achosi trallod ac anafiadau iddynt. Mae ymadael â’r UE wedi’i gwneud hi’n bosibl i Lywodraeth y DU fynd ar drywydd y cynigion hyn a fyddai’n atal dioddefaint dianghenraid.

Rydym hefyd am gael eich barn ar gynigion i wella lles anifeiliaid ymhellach wrth eu cludo yn fwy cyffredinol, megis:

  • gostwng amseroedd teithio uchafswm
  • anifeiliaid yn cael mwy o le, a lle uwch eu pennau wrth eu cludo
  • rheolau llymach ar gludo mewn gwres neu oerfel eithafol
  • rheolau llymach ar gludo anifeiliaid dros y môr.

Mae'r ymgynghoriadau'n cael eu cynnal gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA).

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar GOV.UK