Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r ddeddf yn gosod gofyniad cyfreithiol ar Weinidogion Cymru i bennu dangosyddion cenedlaethol er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant.

Er bod y dangosyddion yn cael eu pennu gan Weinidogion Cymru, maent yn adlewyrchu Cymru gyfan a byddant yn ein galluogi i ddeall y cyfraniad a wneir gan bawb.

Dyma restr o'r dangosyddion a osodwyd gerbron y Senedd yn 2021 fel sy'n ofynnol o dan adran 10 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ynghyd â manylion ynghylch pa mor aml y byddant yn cael eu diweddaru. Mae dyddiadau’r diweddariad diwethaf a’r diweddariad nesaf ar gyfer bob dangosydd ar gael ar dudalennau data a chrynodeb y dangosyddion penodol.

Dangosyddion Cenedlaethol a pandemig COVID-19

Tarfwyd ar y broses o gasglu data yn ystod pandemig COVID-19 ac mae hynny wedi amharu ar ddiweddariadau i nifer o ddangosyddion. Mae’r golofn nodiadau yn rhestru unrhyw newidiadau i’r amserlen arferol ar gyfer 2019-20 a 2020-21.

O ganlyniad i’r pandemig, rydym yn adolygu amlder nifer o ddangosyddion Arolwg Cenedlaethol Cymru. Felly, mae’r amlderau isod i’w cadarnhau ac mae’n bosibl y bydd newidiadau ar gyfer diweddariadau dangosyddion 2021-22.   

Ymgynghoriad ar Lunio Dyfodol Cymru 2021

Yn 2021, cynhaliom ymgynghoriad ar y cynigion ar gyfer gosod y set gyntaf o gerrig milltir ar gyfer Cymru, a chasglu safbwyntiau ar effaith pandemig COVID-19 ar y dangosyddion cenedlaethol. Ar sail yr ymatebion, a’r mewnbwn ehangach, mae nifer bach o ddangosyddion cenedlaethol newydd wedi cael eu cynnwys ac mae eraill wedi cael eu hymestyn a’u diwygio. Mae manylion y newidiadau penodol i’w cael isod.

Rhestr o'r diweddariadau

Rhestr o'r diweddariadau
Dangosydd Disgrifiad Amlder Nodiadau
1 Canran y genedigaethau byw sengl â phwysau geni islaw 2,500g Blynyddol: Awst  
2 Disgwyliad oes iach adeg geni gan gynnwys y bwlch rhwng y bobl fwyaf a lleiaf difreintiedig Ni chynhyrchwyd yn rheolaidd  
3 Canran yr oedolion sydd â dau ymddygiad iach neu fwy o ran eu ffordd o fyw Blynyddol: Gorffennaf

Diweddariad 2020-21 wedi’i gymryd o ganlyniadau chwarterol Arolwg Cenedlaethol Cymru yn lle’r arolwg blynyddol.

Mae’r dangosydd cenedlaethol hwn wedi cael ei ddiwygio o “Canran yr oedolion sydd â llai na dau ymddygiad iach o ran eu ffordd o fyw” yn Llesiant Cymru: dangosyddion cenedlaethol a bennwyd ym mis Rhagfyr 2021. Mae hyn yn rhoi fwy o eglurder ac yn cyd-fynd yn well â’r geiriad a ddefnyddiwyd yn nangosydd 5.

4 Lefelau llygredd nitrogen deuocsid (NO2) yn yr aer Blynyddol: Tachwedd  
5 Canran y plant sydd â dau ymddygiad iach neu fwy o ran eu ffordd o fyw Pob 4 blwyddyn: 2023 Mae’r dangosydd cenedlaethol hwn wedi cael ei ddiwygio o “Canran y plant sydd â llai na dau ymddygiad iach o ran eu ffordd o fyw” yn Llesiant Cymru: dangosyddion cenedlaethol a bennwyd ym mis Rhagfyr 2021. Mae hyn yn rhoi fwy o eglurder ac yn cyd-fynd yn well â’r garreg filltir genedlaethol arfaethedig.
6 Mesur o ddatblygiad plant bach Blynyddol: Awst Dim diweddariad yn 2019-20 neu 2020-21.
7

Sgôr 9 pwynt gyfartalog disgyblion wedi’i chapio, gan gynnwys y bwlch rhwng y rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn gymwys

Blynyddol: Rhagfyr Dim diweddariad yn 2019-20 neu 2020-21.
8 Canran yr oedolion â chymwysterau ar y gwahanol lefelau yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol Blynyddol: Ebrill  
9 Gwerth Ychwanegol Gros am bob awr a weithir (o’i gymharu â chyfartaledd y DU) Blynyddol  
10 Incwm Gwario Gros Aelwydydd y pen Blynyddol  
11 Canran y busnesau sydd wrthi’n arloesi Pob 2 flynedd  
12 Capasiti (mewn MW) yr offer ynni adnewyddadwy sydd wedi’i osod Ni ddiweddarwyd yn rheolaidd  
13 Crynodiad carbon a deunydd organig mewn pridd Ni ddiweddarwyd yn rheolaidd  
14 Ôl troed byd-eang Cymru Ni ddiweddarwyd yn rheolaidd Mae’r dangosydd cenedlaethol hwn wedi cael ei ddiwygio o “Ôl Troed Ecolegol Cymru” i adlewyrchu’n fwy cywir sut y cyfeirir ato’n rhyngwladol a natur trawsbynciol yr hyn sy’n cael ei fesur.
15 Swm y gwastraff a gynhyrchir ac na chaiff ei ailgylchu, y pen Ni ddiweddarwyd yn rheolaidd  
16 Canran y bobl sydd mewn cyflogaeth, sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn ceisio gwaith parhaol) ac sy’n ennill o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol I’w gadarnhau Mae’r dangosydd cenedlaethol hwn wedi cael ei ddiwygio o “Canran y bobl sydd mewn gwaith, sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn ceisio gwaith parhaol) ac sy’n ennill mwy na 2/3 o gyflog canolrifol y DU” yn Llesiant Cymru: dangosyddion cenedlaethol a bennwyd ym mis Rhagfyr 2021. Rydym yn gweithio i sicrhau bod data ar gael ar gyfer y dangosydd hwn cyn gynted â phosibl.
17

Gwahaniaeth cyflog o ran rhyw, anabledd ac ethnigrwydd

Blynyddol ar gyfer gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau. Y gwahaniaeth cyflog mewn perthynas ag anabledd ac ethnigrwydd i’w gadarnhau Mae’r dangosydd cenedlaethol hwn wedi cael ei ymestyn o “Y gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau” yn Llesiant Cymru: dangosyddion cenedlaethol a bennwyd ym mis Rhagfyr 2021.
18 Canran y bobl sy’n byw ar aelwydydd mewn tlodi incwm o’i gymharu â chanolrif y DU, wedi’i mesur ar gyfer plant, pobl o oedran gweithio a phobl o oedran pensiwn Blynyddol: Chwefror/Mawrth  
19 Canran y bobl sy’n byw mewn aelwydydd mewn amddifadedd materol Blynyddol: Gorffennaf Dim diweddariad yn 2020-21.
20 Canran y gweithwyr y pennir eu cyflog gan gydfargeinio I’w gadarnhau Mae’r dangosydd cenedlaethol wedi cael ei ychwanegu o’r newydd i Lesiant Cymru: dangosyddion cenedlaethol a bennwyd ym mis Rhagfyr 2021, i ddisodli “Canran y bobl sy’n dweud eu bod yn fodlon neu’n fodlon iawn yn eu gwaith”. Rydym yn gweithio i sicrhau bod data ar gael ar gyfer y dangosydd hwn cyn gynted â phosibl.
21 Canran y bobl sydd mewn cyflogaeth. Chwarterol  
22 Canran y bobl sydd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, wedi’i mesur ar gyfer gwahanol grwpiau oedran Blynyddol: Gorffennaf  
23 Y ganran sy’n teimlo’u bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol Pob 2 flynedd: Gorffennaf Diweddariad 2020-21 wedi’i gymryd o ganlyniadau chwarterol Arolwg Cenedlaethol Cymru yn lle’r arolwg blynyddol.
24 Canran y bobl sy’n fodlon ar eu gallu i gyrraedd/cael at y cyfleusterau a’r gwasanaethau y mae eu hangen arnynt Pob 2 flynedd: Gorffennaf Diweddariad 2020-21 wedi’i gymryd o ganlyniadau chwarterol Arolwg Cenedlaethol Cymru yn lle’r arolwg blynyddol.
25 Canran y bobl sy’n teimlo’n ddiogel gartref, wrth gerdded yn yr ardal leol, ac wrth deithio Pob 2 flynedd: Gorffennaf  
26 Canran y bobl sy’n fodlon ar yr ardal leol fel lle i fyw Pob 2 flynedd: Gorffennaf Diweddariad 2020-21 wedi’i gymryd o ganlyniadau chwarterol Arolwg Cenedlaethol Cymru yn lle’r arolwg blynyddol.
27 Canran y bobl sy’n cytuno eu bod yn perthyn i’r ardal; bod pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda; a bod pobl yn trin ei gilydd â pharch Pob 2 flynedd: Gorffennaf Diweddariad 2020-21 wedi’i gymryd o ganlyniadau chwarterol Arolwg Cenedlaethol Cymru yn lle’r arolwg blynyddol.
28 Canran y bobl sy'n gwirfoddoli Pob 2 flynedd: Gorffennaf Dim diweddariad yn 2020-21.
29 Sgôr llesiant meddyliol cymedrig ar gyfer pobl.

Oedolion
Pob 2 flynedd: Gorffennaf

Plant

Pob 2 flynedd
Dim diweddariad yn 2020-21.
30 Canran y bobl sy’n unig Pob 2 flynedd: Gorffennaf Diweddariad ychwanegol yn 2020-21.
31 Canran yr anheddau sydd heb beryglon Ni ddiweddarwyd yn rheolaidd  
32 Nifer yr unedau eiddo (cartrefi a busnesau) sydd mewn perygl uchel a chanolig o lifogydd sy’n deillio o afonydd a’r môr Ni ddiweddarwyd yn rheolaidd  
33 Canran yr anheddau â pherfformiad ynni digonol Ni ddiweddarwyd yn rheolaidd  
34 Nifer yr aelwydydd y llwyddwyd i’w hatal rhag bod yn ddigartref am bob 10,000 o aelwydydd Blynyddol: Gorffennaf  
35 Canran y bobl sy’n bresennol neu’n cyfranogi mewn gweithgareddau ym maes y celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth o leiaf 3 gwaith y flwyddyn Pob 2 flynedd: Gorffennaf Dim diweddariad yn 2020-21.
36 Canran y bobl sy’n siarad Cymraeg yn feunyddiol ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg Blynyddol: Gorffennaf Diweddariad 2020-21 wedi’i gymryd o ganlyniadau chwarterol Arolwg Cenedlaethol Cymru yn lle’r arolwg blynyddol.
37 Nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg Pob 10 flwyddyn: 2022 Mae’r dangosydd cenedlaethol hwn wedi cael ei addasu o “Canran y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg” yn Llesiant Cymru: dangosyddion cenedlaethol a bennwyd ym mis Rhagfyr 2021. Mae hyn yn gyson â’r nod cenedlaethol i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, sef y garreg filltir genedlaethol arfaethedig.
38 Canran y bobl sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos Oedolion Blynyddol: Gorffennaf Plant Pob 3 flwyddyn Dim diweddariad yn 2020-21.
39 Canran yr amgueddfeydd ac archifau sy’n dal casgliadau archifol/treftadaeth sy’n cyrraedd safonau achredu’r DU Blynyddol: Gorffennaf Dim diweddariad yn 2019-20 neu 2020-21.
40 Canran yr asedau’r amgylchedd hanesyddol sydd mewn cyflwr sefydlog neu well Blynyddol: Medi  
41 Allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru Blynyddol: Mehefin  
42 Allyriadau nwyon tŷ gwydr sydd i’w priodoli i ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau bydeang yng Nghymru Ni ddiweddarwyd yn rheolaidd  
43 Ardaloedd o ecosystemau iach yng Nghymru Ni ddiweddarwyd yn rheolaidd  
44 Statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru Ni ddiweddarwyd yn rheolaidd Cyhoeddwyd dangosydd arbrofol ym mis Medi 2021.
45 Canran y cyrff dŵr wyneb a’r cyrff dŵr daear sy’n cyrraedd statws da neu uchel ar y cyfan Ni ddiweddarwyd yn rheolaidd  
46 Dinasyddiaeth fyd-eang weithredol I’w gadarnhau Mae’r dangosydd cenedlaethol wedi’i ychwanegu o’r newydd i Lesiant Cymru: dangosyddion cenedlaethol a bennwyd ym mis Rhagfyr 2021, gan ddisodli “Yr adenillion cymdeithasol ar fuddsoddiadau gan bartneriaethau Cymreig yng Nghymru a’r tu allan i’r DU sy’n gweithio tuag at Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig”. Rydym yn gweithio i sicrhau bod data ar gael ar gyfer y dangosydd hwn cyn gynted â phosibl.
47 Canran y bobl sydd â hyder yn y system gyfiawnder I’w gadarnhau Mae’r dangosydd cenedlaethol wedi’i ychwanegu o’r newydd i Lesiant Cymru: dangosyddion cenedlaethol a bennwyd ym mis Rhagfyr 2021. Rydym yn gweithio i sicrhau bod data ar gael ar gyfer y dangosydd hwn cyn gynted â phosibl.
48 Canran y siwrneiau a wneir ar droed, ar feic neu ar drafnidiaeth gyhoeddus I’w gadarnhau Mae’r dangosydd cenedlaethol wedi’i ychwanegu o’r newydd i Lesiant Cymru: dangosyddion cenedlaethol a bennwyd ym mis Rhagfyr 2021. Rydym yn gweithio i sicrhau bod data ar gael ar gyfer y dangosydd hwn cyn gynted â phosibl.
49 Canran yr aelwydydd sy’n gwario 30% neu fwy o’u hincwm ar gostau mewn perthynas â thai I’w gadarnhau Mae’r dangosydd cenedlaethol wedi’i ychwanegu o’r newydd i Lesiant Cymru: dangosyddion cenedlaethol a bennwyd ym mis Rhagfyr 2021. Rydym yn gweithio i sicrhau bod data ar gael ar gyfer y dangosydd hwn cyn gynted â phosibl.
50 Statws cynhwysiant digidol I’w gadarnhau Mae’r dangosydd cenedlaethol wedi’i ychwanegu o’r newydd i Lesiant Cymru: dangosyddion cenedlaethol a bennwyd ym mis Rhagfyr 2021. Rydym yn gweithio i sicrhau bod data ar gael ar gyfer y dangosydd hwn cyn gynted â phosibl.