Gofynnir i bobl yng Nghymru weithredu'n gyfrifol ac osgoi teithio diangen hyd nes y bydd Llywodraeth Cymru wedi codi cyfyngiadau coronafeirws (COVID-19).
Mewn llythyr agored cyn penwythnos Gŵyl y banc, mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cynghorydd Andrew Morgan, Cadeirydd Grŵp Plismona Cymru Gyfan a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys, Dafydd Llywelyn, a Chadeirydd Grŵp Prif Swyddogion Cymru, Carl Foulkes, yn galw ar bobl i aros gartref.
Mae’r llythyr hefyd yn dweud yn glir nad yw teithio i ail gartref yn cael ei ystyried yn angenrheidiol fel rheol, ac y bydd unrhyw un sy’n gadael y cartref y maen nhw’n byw ynddo, neu’n aros i ffwrdd o’r cartref y maen nhw’n byw ynddo, heb esgus rhesymol, yn cyflawni trosedd.
Mae’r llythyr yn cloi drwy ddweud: “Edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ôl pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny. Tan hynny, gofynnwn ichi aros gartref i ddiogelu’r GIG ac achub bywydau.“
Maent yn dweud:
“Mae Cymru yn wlad hardd a chroesawgar, ond fel y gweinyddiaethau eraill ar draws y Deyrnas Unedig, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfyngiadau i atal pobl rhag teithio os nad yw’n angenrheidiol yn ystod cyfnod yr argyfwng cenedlaethol hwn. Rydyn ni wedi cyfyngu ar fynediad i’n parciau cenedlaethol hefyd, gan gynnwys gosod cyfyngiadau ar feysydd carafanau, gwersyllfeydd, gwestai, llety gwely a brecwast a llety gwyliau. Ar hyn o bryd, dim ond mewn ymateb i gais gan Lywodraeth Cymru neu awdurdod lleol y gall y busnesau hynny agor.
“Rydyn ni wedi rhoi’r camau hyn ar waith i ddiogelu iechyd ac i ddiogelu ein Gwasanaeth Iechyd, drwy gyfyngu ar ymlediad COVID-19 yn ein cymunedau yng Nghymru.
“Mae’r rhan helaeth o’r boblogaeth yn parchu’r cyfyngiadau hynny ac yn gwneud ymdrechion sylweddol i gydymffurfio â nhw. Rydyn ni’n gofyn i bawb barhau i barchu’r mesurau hynny. Yn benodol, gofynnwn i’r sawl sy’n berchen ar ail gartrefi yng Nghymru i ymddwyn yn gyfrifol ac i osgoi teithio i’r cartrefi hynny hyd nes i’r cyfyngiadau hynny gael eu llacio.
“Mae Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn glir drwy gydol cyfnod yr argyfwng nad yw teithio i ail gartref yn cael ei ystyried yn angenrheidiol fel rheol. Yn wir, mae unrhyw un sy’n gadael y cartref y maen nhw’n byw ynddo, neu’n aros i ffwrdd o’r cartref y maen nhw’n byw ynddo, heb esgus rhesymol, yn cyflawni trosedd.
“Yn fwyaf penodol, maen nhw hefyd yn rhoi eu hunain a’r cymunedau y maen nhw’n teithio iddynt mewn perygl. Maen nhw’n rhoi pwysau y gellir eu hosgoi ar yr heddlu ac ar ein gwasanaethau iechyd, gan gynnwys rhoi galwadau ychwanegol ar gadwyni cyflenwi.
Mae gan yr heddluoedd a’r awdurdodau iechyd yng Nghymru amrywiaeth o bwerau gorfodi. Mae’r heddlu’n parhau i gadw golwg ar y sefyllfa o ran teithio heb esgus rhesymol. Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â’r heddlu, yr awdurdodau lleol ac eraill i gadw golwg ar y Rheoliadau a’r sancsiynau.
“Mae’n hanfodol ein bod ni’n lleihau cyfraddau trosglwyddo’r feirws: ac mae sicrhau ein bod ni’n teithio pan fo hynny’n angenrheidiol yn unig, yn chwarae rhan allweddol yn hynny o beth.
“Edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ôl pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny. Tan hynny, gofynnwn ichi aros gartref i ddiogelu’r GIG ac achub bywydau.“