Neidio i'r prif gynnwy

Caiff awdurdodau lleol eu gwahodd i drawsnewid system drafnidiaeth Cymru drwy fesurau megis lonydd beicio dros dro, lledu palmentydd a chyflwyno cyfyngiadau cyflymder – gan ystyried esiamplau sydd wedi’u cyflwyno mewn llefydd fel Milan a Berlin mewn ymateb i ffyrdd tawelach.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Lee Waters, Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol yn eu gwahodd i gyflwyno cynigion ar gyfer mesurau dros dro a fyddai’n gwella’r amodau ar gyfer teithio cynaliadwy a llesol.

Mae cyfyngiadau yn sgil y coronafeirws wedi arwain at lawer llai o draffig ar y ffyrdd, llai o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a mwy o bobl yn cerdded a beicio. Mae’r cais hwn i weithredu gan Lywodraeth Cymru wedi’i sbarduno gan y disgwyliad y bydd angen cadw pellter am fisoedd lawer i ddod, yn ogystal â’r ansicrwydd ynghylch patrymau teithio yn y dyfodol.

Yn ogystal, mae’r cyfyngiadau wedi gweld cynnydd enfawr mewn gweithio o bellter, gan arwain at gwestiynu p’un a oes angen teithio pellteroedd mawr ar gyfer gwaith.
Mae’r math o fesurau dros dro yn ôl y gofyn sy’n cael eu hannog yn cynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt):

  • Cau ffyrdd neu gau lonydd, gan gyfyngu ar rai dulliau teithio (hidlo) er mwyn helpu beicwyr
  • Terfynau cyflymder o 20mya, gan dreialu cyflwyno terfynau cyflymder safonol o 20mya
  • Lledu llwybrau troed, a chael gwared ar annibendod oddi arnynt
  • Systemau gwybodaeth amser real, gan gynnwys faint o bobl sydd ar y trenau a’r bysiau
  • Cyfleusterau croesi newydd dros dro
  • Lonydd bysiau, ffyrdd at ddefnydd bysiau yn unig a chyfleusterau parcio a theithio
  • Gwella’r cyfleusterau aros i helpu pobl i gadw pellter cymdeithasol

Ni ddylai mesurau fod wedi’u cyfyngu i ardaloedd mawr trefol, gan fod yr un egwyddorion yn wir ar gyfer trefi bach ac ardaloedd gwledig. Gofynnir am y datganiadau o ddiddordeb cychwynnol erbyn 21 Mai a rhagwelir y bydd y mesurau yn cael eu cyflwyno o ddechrau’r haf ymlaen.

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth:

“Mae heriau aruthrol y coronafeirws wedi amharu’n ddifrifol ar ein rhwydwaith trafnidiaeth ac rwy’n sicr nad oes angen inni fynd yn ôl i’r sefyllfa arferol. Mae gennym gyfle i wneud pethau’n wahanol, gan helpu mwy o bobl i gerdded, beicio a theithio mewn ffyrdd cynaliadwy.

“I wneud hynny, mae’n rhaid inni wneud newidiadau yn gyflym. Rwyf am i awdurdodau lleol fod yn llawn dychymyg, gan dynnu ar arferion da trefi a dinasoedd o amgylch y byd. Drwy aildrefnu’r ffyrdd a newid ein hamgylchedd, gallwn addasu’r ffordd y mae pobl yn meddwl am deithio. Bydd y newidiadau hyn yn cefnogi’r gwelliannau sydd wir eu hangen o ran ansawdd aer, datgarboneiddio ac iechyd y cyhoedd.

“Edrychaf ymlaen at weithio gydag awdurdodau lleol i wneud gwahaniaeth go iawn a fydd yn para.”