Neidio i'r prif gynnwy

11. Gwneud cais

Mae angen i un rhiant arweiniol gwblhau'r cais, hyd yn oed os ydych yn rhannu gwarchodaeth o’r plentyn.

Os ydych yn gwneud cais am fwy nag un plentyn, er enghraifft efeilliaid, ychwanegwch fwy o blant at yr un cais.

Oherwydd gwaith cynnal a chadw sy wedi'i drefnu, ni fyddwch yn gallu lanlwytho dogfennau rhwng 7:00yp dydd Gwener 19 Rhagfyr tan fore dydd Llun 22 Rhagfyr.

Cyn i chi wneud cais

Bydd angen i chi wybod:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich cyfeiriad cyflogaeth gyda chod post
  • cyfeiriad cyflogaeth eich partner cartref gyda chod post
  • yr enillion wythnosol cyfartalog i chi a’ch partner cartref
  • y cyflog blynyddol gros i chi a’ch partner cartref

Bydd angen i chi ddarparu dogfennau fel prawf.