Yn y canllaw hwn
7. Plant ag anghenion ychwanegol
Mae’r Cynnig Gofal Plant yn galluogi rhieni plant sydd ag anghenion cymorth ychwanegol i gael gofal plant. Mae hyn yn cynnwys plant sydd â’r canlynol:
- anghenion dysgu ychwanegol
- anableddau
- anghenion iechyd
Os oes gan eich plentyn anghenion cymorth ychwanegol, dylech wneud y canlynol:
- gwneud cais fel arfer ac aros am benderfyniad
- ar ôl i’ch cais gael ei gymeradwyo, cysylltu â ni