Roedd yr adroddiad yn edrych ar y broses o ddylunio a chyflwyno Dyfodol Byd-eang o ran ei nodau strategol o hyrwyddo a chefnogi ieithoedd rhyngwladol ar draws ysgolion yng Nghymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Prif nodau’r gwerthusiad oedd:
- amcangyfrif y ddarpariaeth ieithoedd rhyngwladol ar hyn o bryd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru
- cyfuno’r dystiolaeth o Dyfodol Byd-eang 2015 i 2020 a’r effaith ar ysgolion, gan ddarparu cyd-destun ar gyfer gwerthuso strategaeth 2020 i 2022
- nodi sut y gall Dyfodol Byd-eang 2020 i 2022 addasu a chyd-fynd â’r Cwricwlwm newydd i Gymru
- amlinellu’r camau nesaf ar gyfer Dyfodol Byd-eang
Adroddiadau

Gwerthusiad o Dyfodol Byd-eang: cynllun i wella a hyrwyddo ieithoedd tramor modern yng Nghymru 2020 i 2022 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
PDF
1 MB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099