Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canlyniadau gwerthusiad ar raddfa fach o Ddyfodol Byd-eang 2020-2022, a gynhaliwyd gan Arad ar ran Llywodraeth Cymru.

Roedd prif nodau’r gwerthusiad fel a ganlyn:

  • amcangyfrif darpariaeth bresennol ieithoedd rhyngwladol (IRh) mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru
  • cyfuno’r dystiolaeth o Ddyfodol Byd-eang 2015 i 2020 a’i heffaith ar ysgolion, gan gynnig cyd-destun ar gyfer y gwerthusiad o strategaeth 2020 i 2022
  • nodi sut y gall Dyfodol Byd-eang 2020 i 2022 addasu a chyd-fynd gyda’r cwricwlwm newydd
  • amlinellu’r camau nesaf ar gyfer Dyfodol Byd-eang

Methodoleg

Mae’r canfyddiadau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn manteisio ar y gwaith ymchwil a dadansoddi canlynol:

  • Arolwg ar gyfer arweinwyr ieithoedd rhyngwladol (IRh) mewn ysgolion uwchradd ac arweinwyr IRh mewn ysgolion cynradd, lle y cafwyd 106 o ymatebion wedi’u cwblhau ar draws Cymru.
  • 16 o gyfweliadau ansoddol gyda rhanddeiliaid o grŵp llywio Dyfodol Byd-eang.
  • Dau grŵp ffocws gydag aelodau grŵp llywio Dyfodol Byd-eang.
  • Cyfweliadau gydag arweinwyr IRh 4 ysgol er mwyn datblygu astudiaethau achos.
  • Dadansoddiad o ddata Llywodraeth Cymru yn deillio o’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion ynghylch y niferoedd sy’n manteisio ar y ddarpariaeth IRh a data ynghylch addysgu IRh o’r Cyfrifiad Blynyddol o’r Gweithlu Ysgolion (CBGY).

Mae’n bwysig cydnabod risg tuedd wrth ddethol ymhlith sampl yr ymarferwyr a gwblhaodd yr arolwg. Dosbarthwyd yr arolwg i’r holl ysgolion gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu lluosog. Fodd bynnag, efallai ei bod yn fwy tebygol bod ymarferwyr sydd wedi bod yn ymwneud fwyaf gyda gweithgareddau i hyrwyddo IRh wedi llenwi’r arolwg. Mae’r un peth yn wir am samplau’r ymarferwyr a’r rhanddeiliaid a ddewisodd gymryd rhan mewn gwaith ymchwil ansoddol.  O’r herwydd, dylid ystyried sampl yr ymarferwyr a’r rhanddeiliaid a gyfrannodd at y gwerthusiad fel sampl hwylustod a dylid cadw hyn mewn cof wrth ddehongli’r canlyniadau.

Prif ganfyddiadau

Mae’r ymchwil wedi nodi cryfderau a gwendidau tybiedig yng nghynllun a darpariaeth Dyfodol Byd-eang dros y ddwy flynedd ddiwethaf o ran ei nodau strategol o hyrwyddo a chynorthwyo IRh ar draws ysgolion yng Nghymru.

Teimlwyd bod y rhaglen wedi cynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol IRh gwell i ymarferwyr, gan gynnig y cyfle iddynt fanteisio ar adnoddau a chymorth o ansawdd. Mae grŵp llywio Dyfodol Byd-eang yn ffynhonnell gwybodaeth, cyngor a deialog ac ystyrir ei fod wedi llwyddo i gynorthwyo gwaith rhanbarthol a phartneriaethau ehangach i gynnal a hyrwyddo IRh. Mae’n ychwanegu gwerth hefyd mewn meysydd megis cymwysterau IRh newydd a sut y gellir integreiddio IRh yn y Cwricwlwm i Gymru (CiG) newydd.

Adroddodd rhanddeiliaid ac ysgolion am ystod eang o effeithiau cadarnhaol a gynigiwyd trwy gyfrwng Dyfodol Byd-eang mewn perthynas â’i brif nodau strategol ar gyfer 2020-22. O ran cynnig arweiniad clir, egwyddorion a gweithgarwch codi ymwybyddiaeth er mwyn cynorthwyo amlieithrwydd mewn ysgolion, mae’r rhaglen wedi cynorthwyo gweithgarwch ymgysylltu pwrpasol ac mae wedi hyrwyddo ymddiriedaeth a phartneriaeth.

Adroddir bod cydlynwyr arweiniol IRh, ymarferwyr ac ysgolion yn gweithio’n dda ar lefel ranbarthol a lleol. Mae partneriaethau yn gynaliadwy ac yn cynorthwyo gweithgarwch cydweithredu ehangach o ran IRh rhwng consortia rhanbarthol.

Mae Dyfodol Byd-eang wedi cynorthwyo cynnydd yn ansawdd ac amlder gwaith rhanbarthol i hyrwyddo a darparu IRh ac mae wedi cynnig mwy o fynediad i arbenigedd mewn prifysgolion a sefydliadau ieithyddol. Mae hyn wedi golygu y bu modd creu a rhannu ymagweddau addysgeg ac arfer dysgu newydd, ac mae wedi rhoi hwb i hyder ymarferwyr trwy gyfrwng cyfleoedd dysgu proffesiynol.

Teimlwyd bod ansawdd yr adnoddau a baratowyd trwy gyfrwng y rhaglen wedi cyfrannu at gynorthwyo addysgu a dysgu rhagorol ym maes IRh mewn rhai ysgolion ar draws Cymru, sy’n un o nodau strategol eraill Dyfodol Byd-eang.

Mae Dyfodol Byd-eang wedi cynorthwyo twf o ran y cymorth ar gyfer ysgolion cynradd gan gonsortia rhanbarthol a phartneriaid IRh eraill, gan alluogi ymarferwyr a dysgwyr i ymgysylltu gydag IRh trwy gyfrwng gweithgareddau ac adnoddau newydd a ddatblygwyd. Mae’r cymorth hwn wedi cyfrannu at y nod strategol o gynorthwyo addysgu a dysgu IRh rhagorol.

Fodd bynnag, er gwaethaf y canlyniadau cadarnhaol hyn, mae rhanddeiliaid yn cydnabod na fu modd gwireddu nodau strategol y rhaglen yn llawn eto, yn enwedig o ran cynyddu nifer y dysgwyr ifanc sy’n astudio ieithoedd ar bob lefel ac ar draws pob sector.

Roedd y grŵp llywio yn barnu bod dylanwad Dyfodol Byd-eang ar y materion systemig sy’n gysylltiedig gyda’r gostyngiad yn y niferoedd sy’n dewis astudio IRh yn y cyfnod uwchradd, megis dewisiadau opsiynau cul a diffyg cyfleoedd i sicrhau dilyniant, wedi bod yn gyfyngedig. Er bod Dyfodol Byd-eang yn cynnig cymorth ac yn helpu i ddatblygu capasiti, nid yw’n rhoi gofynion ar ysgolion i ddarparu neu gynyddu’r ddarpariaeth IRh.

Mae dadansoddiad o ddata gweinyddol yn datgelu bod y gostyngiad a welwyd ers tro yn narpariaeth ITM a’r niferoedd sy’n manteisio ar y ddarpariaeth hon, yn parhau. Mae nifer yr oriau sy’n cael eu treulio yn addysgu ieithoedd tramor modern mewn ysgolion uwchradd a chanol wedi parhau i ostwng, gan adlewyrchu gostyngiad yn nifer yr athrawon sy’n addysgu ITM. Cyn cyhoeddi’r cynllun Dyfodol Byd-eang cyntaf, roedd cofrestriadau TGAU mewn ieithoedd wedi gostwng 44 y cant rhwng 2002 a 2015. Gwelwyd gostyngiad pellach o 42 y cant rhwng 2015 a 2021.

Amlygodd rhanddeiliaid sialensiau eraill a oedd yn gysylltiedig â’r rhaglen a darpariaeth ehangach IRh yng Nghymru. Mae effaith lwyddiannus Dyfodol Byd-eang ar lefel gynradd yn amlygu’r diffyg cydlyniant o ran pontio a dilyniant ar gyfer dysgwyr IRh fel rhan o’r rhaglen. Nid yw’r rhan fwyaf o ysgolion uwchradd yn ymestyn cynnydd ac uchelgais dysgwyr a sgiliau estynedig ymarferwyr ar lefel gynradd ar hyn o bryd.

Adroddodd rhanddeiliaid am sialensiau parhaus ynghylch cyfle cyfartal, a gwelir bod dysgwyr mewn ardaloedd dan anfantais gymdeithasol yn llai tebygol o astudio ieithoedd. Er bod Dyfodol Byd-eang wedi cael effaith gadarnhaol ar nifer o ysgolion, ystyrir nad oes ganddi ddull gweithredu cyson a chydlynol tuag at ymgysylltu gyda’r holl ysgolion yng Nghymru.

Nid oedd rhanddeiliaid yn barnu bod y model presennol lle y darparir cyllid o un flwyddyn i’r llall ar gyfer Dyfodol Byd-eang yn caniatáu dull cynaliadwy er mwyn hyrwyddo a datblygu IRh yn unol â nodau’r rhaglen. Adroddir bod yr hyder i ddarparu IRh ymhlith athrawon cynradd yn her allweddol arall ac y bydd gofyn cael dull gweithredu mwy cydlynol ar draws Cymru gyfan, gan gynnwys ymwreiddio IRh o fewn AGA er mwyn datblygu’r cynnydd a sicrhawyd.

Roedd rhanddeiliaid ac ymarferwyr o’r farn nad yw cymwysterau IRh yn addas i’r diben ar hyn o bryd a cheir pryder ynghylch cyfleoedd dilyniant i ddysgwyr a gyrfaoedd sy’n gysylltiedig ag IRh. Mae grŵp llywio Dyfodol Byd-eang yn gweithio gyda Chymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn rhoi sylw i hyn, trwy ailgynllunio TGAU IRh er mwyn adlewyrchu’r cwricwlwm newydd yn well.

Bu’r gwaith o fonitro a gwerthuso effaith Dyfodol Byd-eang yn anghyson ac mae hyn wedi arwain at ddiffyg tystiolaeth gadarn ynghylch a yw’r rhaglen yn cyflawni ei phrif nodau. Barnwyd bod diffyg cylch gorchwyl ar gyfer Dyfodol Byd-eang yn amharu ar ei photensial i gynnig tryloywder, gwelliant parhaus a gweithgarwch rheoli prosiect effeithiol. Mae natur gynghorol y grŵp llywio wedi golygu bod ei rôl yn aml yn cael ei ystyried fel rôl rhannu gwybodaeth yn hytrach na rôl sy’n gyrru canlyniadau strategol.

Ystyrir bod y cwricwlwm newydd i Gymru yn ‘gyfle enfawr i ymwreiddio IRh’ ac i gynnig sylfaen er mwyn cynorthwyo mwy o weithgarwch i hyrwyddo ieithoedd a chynyddu’r niferoedd sy’n eu hastudio. Er hyn, bydd gofyn i ysgolion gael adnoddau a chymorth parhaus er mwyn cynnal effaith gadarnhaol Dyfodol Byd-eang a darparu IRh mewn ffordd lwyddiannus fel rhan o’r broses hon.

Ceir cyfleoedd i Lywodraeth Cymru sicrhau dull gweithredu integredig tuag at addysgu a dysgu IRh law yn llaw gyda Chymraeg a Saesneg fel rhan o’r cwricwlwm newydd. Gallai Dyfodol Byd-eang diwygiedig fod yn rhan o weithgarwch cynllun dros y tymor hwy ar gyfer holl ieithoedd o fewn y cwricwlwm newydd, fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, yn ogystal â chysylltu gydag amcanion Cymraeg 2050.  Dylai’r broses hon gynnwys y cam o gynnwys cynrychiolwyr addysgu Cymraeg a Saesneg ac Addysg Gychwynnol i Athawon (AGA) yn y grŵp llywio a datblygu rôl Estyn sy’n ymwneud ag IRh.

Argymhellion

Argymhelliad 1

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r grŵp llywio i gyd-greu rhaglen Dyfodol Byd-eang newydd, gan ganolbwyntio ar ddarpariaeth IRh fel rhan annatod o’r CiG newydd.

Argymhelliad 2

Dylai iteriad nesaf Dyfodol Byd-eang gynnwys cylch gorchwyl clir a thargedau mesuradwy.  Dylai hyn fod yn gysylltiedig ag

argymhelliad 8 i wella gweithgarwch monitro a gwerthuso.

Argymhelliad 3

Mae gwaith rhanbarthol wedi bod yn elfen lwyddiannus o Ddyfodol Byd-eang.  Dylai’r rhaglen a fydd yn ei holynu ddatblygu’r dull gweithredu hwn, gan sicrhau y darparir adnoddau i gynnal a meithrin y partneriaethau sydd eisoes yn bodoli rhwng consortia rhanbarthol ac ysgolion.

Argymhelliad 4

Dylai’r rhaglen a fydd yn olynu Dyfodol Byd-eang ddatblygu’r gweithgarwch ar lefel gynradd, gan sicrhau gweithgareddau pontio wedi’u targedu a llwybrau dilyniant clir i’r cyfnod uwchradd.

Argymhelliad 5

Dylai iteriad nesaf Dyfodol Byd-eang geisio ymgysylltu â’r holl ysgolion ar draws Cymru er mwyn sicrhau cydraddoldeb o ran y cyfleoedd i’r holl ddysgwyr fanteisio ar gymorth.

Argymhelliad 6

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried cynllun cyllido dros y tymor hwy ar gyfer strategaethau IRh yn y dyfodol, fel rhan o ddull gweithredu ar draws Cymru gyfan tuag at gynorthwyo IRh.

Argymhelliad 7

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda darparwyr AGA a rhanddeiliaid allweddol eraill i ystyried integreiddio IRh mewn addysg i athrawon.

Argymhelliad 8

Yn gysylltiedig gyda’r gwaith o ddatblygu cylch gorchwyl newydd, dylai Llywodraeth Cymru a’r grŵp llywio weithredu prosesau monitro a gwerthuso newydd er mwyn dangos effaith a chynnydd y strategaeth IRh newydd.

Argymhelliad 9

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda rhanddeiliaid allweddol ar draws maes dysgu ieithoedd er mwyn datblygu dull gweithredu mwy integredig tuag at gynorthwyo addysgu a dysgu Cymraeg, Saesneg ac IRh.

Argymhelliad 10

Dylai Llywodraeth Cymru ofyn i Estyn baratoi adroddiad thematig sy’n canolbwyntio ar IRh dan y trefniadau cwricwlwm newydd, er mwyn cynorthwyo arfer da a chanlyniadau a ddymunir.  Byddai hyn yn cynnig gwaelodlin ar gyfer datblygu darpariaeth IRh bellach, yn gysylltiedig â Chymraeg a Saesneg.

Manylion cyswllt

Awdur: Jones, M.; Duggan, B.; Davis, J

Safbwyntiau’r ymchwilwyr sy’n cael eu mynegi yn yr adroddiad yma, ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli safbwyntiau Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Y Gangen Ymchwil Ysgolion
E-bost: ymchwilysgolion@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 33/2022
ISBN digidol 978-1-80364-110-2

Image
GSR logo