Nod y gwerthusiad oedd asesu cynllun, gweithrediad a chanlyniadau 18 prosiect clwstwr ysgolion fu'n profi dulliau o reoli darpariaeth cyflenwi pan fo absenoldeb o'r ysgol.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Prif ganfyddiadau
- Mae amrywiol fodelau arloesol ac amgen wedi cael eu rhoi ar waith gan brosiectau clystyrau i roi sylw i ddarpariaeth cyflenwi pan fo absenoldeb o'r ysgol.
- Mae'r dull hyblyg o reoli a monitro ynghyd â'r ymreolaeth a roddwyd i brosiectau clwstwr gan Lywodraeth Cymru wedi eu galluogi i asesu effeithiolrwydd eu modelau cyflawni a gwneud addasiadau lle bo'n ofynnol.
- Mae prosiectau clwstwr yn adrodd am fuddsoddiad yn ansawdd a chapasiti athrawon cyflenwi.
- Adroddwyd am amrywiol ganlyniadau dysgu ac addysgu cadarnhaol, yn ogystal â gweithgarwch gwella ysgolion ehangach.
- Mae'r prosiect wedi cryfhau cydweithio ac arferion gorau ar draws ysgolion clwstwr.
- Ceir rhywfaint o dystiolaeth bod clystyrau a oedd fel rheol yn defnyddio asiantaethau cyflenwi allanol wedi adrodd am well effeithlonrwydd o ran rheolaeth a manteision gweinyddol ac o ran adnodd.
- Yn sgil yr amrywiaeth yn y dulliau o ddefnyddio athrawon ychwanegol a chyfyngiadau i'r data monitro, nid oedd yn bosib gwneud cymhariaeth gywir gyda chostau dulliau amgen o ddarpariaeth cyflenwi.
- Mae o gwmpas traean o'r prosiectau clwstwr naill ai yn parhau neu'n ystyried parhau gyda rhai elfennau o'u prosiectau. Er bod dyhead ymysg y clystyrau eraill i barhau, mae'n bosib bod rhwystrau ariannol rhag gwneud hynny.
Adroddiadau

Gwerthusiad o’r clwstwr cyflenwi mewn ysgolion
,
math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
PDF
2 MB

Gwerthusiad o’r clwstwr cyflenwi mewn ysgolion: crynodeb
,
math o ffeil: PDF, maint ffeil: 700 KB
PDF
700 KB

Ffeithlun: prosiect Clwstwr Cyflenwi mewn Ysgolion
,
math o ffeil: PDF, maint ffeil: 710 KB
PDF
710 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Ffôn: 0300 025 8099