Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am weithgarwch asesiadau, diogelu, maethu preifat a gwariant gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ar gyfer Ebrill 2018 i Mawrth 2019.

Prif bwyntiau

  • Cynhaliwyd 118,464 o asesiadau o’r angen i ddarparu gofal a chymorth i oedolion a phlant. Arweiniodd 33,464 at roi cynllun gofal a chymorth ar waith.
  • Cynhaliwyd 8,156 o asesiadau o'r angen i ddarparu cymorth i ofalwyr a gofalwyr ifanc, a arweiniodd at roi 3,407 o gynlluniau cymorth i ofalwyr ar waith.
  • Darparwyd 125,415 o wasanaethau i oedolion drwy gynllun gofal a chymorth neu gynllun cymorth.
  • Derbyniwyd 20,472 adroddiad lle'r oedd amheuaeth bod oedolyn mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso.
  • Roedd 2,820 o blant ar y gofrestr amddiffyn plant ar 31 Mawrth 2019.
  • Cafodd £1,921 miliwn ei wario ar wasanaethau cymdeithasol gan awdurdodau lleol ledled Cymru.

Nodyn

Mae’r cyhoeddiad newydd hwn, Gweithgarwch Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cynnwys gwybodaeth a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y adroddiadau ystadegol canlynol: Oedolion sy'n derbyn gofal a chymorth, Plant sy'n derbyn gofal a chymorth, Diogelu oedolion a Maethu preifat.

Hysbysiad o atal dros dro

Adolygwyd casgliadau data, gweithgarwch ymchwil ac allbynnau Llywodraeth Cymru yn sgil y pandemig coronafeirws (COVID-19); mae ein datganiad yn egluro hyn ymhellach. Penderfynwyd y byddai'r casgliadau data y mae'r datganiad ystadegol hwn yn seiliedig arnynt yn cael eu hatal ar gyfer 2019-20; ac felly ni fydd unrhyw gyhoeddiad wedi'i ddiweddaru ar gyfer y flwyddyn adrodd hon.

Adroddiadau

Gweithgarwch Gwasanaethau Cymdeithasol, Ebrill 2018 i Mawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 716 KB

PDF
Saesneg yn unig
716 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gweithgarwch Gwasanaethau Cymdeithasol, Ebrill 2018 i Mawrth 2019: ffeithlun , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 204 KB

PDF
204 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.