Neidio i'r prif gynnwy

Wrth sôn am Ystadegau'r Farchnad Lafur heddiw, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

"Mae ffigurau heddiw yn galonogol, sy'n dangos bod y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn parhau i fod yn is na chyfradd y DU, ac mae ein cyfradd cyflogaeth yn parhau i gynyddu.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi cwmnïau a swyddi. Rydym wedi gwneud popeth o fewn ein gallu yn ystod y pandemig, sydd wedi bod yn gyfnod hynod o anodd i economi Cymru. Mae'r cymorth rydym wedi'i ddarparu i fusnesau ledled Cymru wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol.

"Ond nid yw’r pandemig wedi dod i ben eto. Rydym yn siomedig bod Llywodraeth y DU wedi tynnu’r gefnogaeth i unigolion a busnesau yn ôl yn rhy fuan, gyda'r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws yn cael ei dynnu'n ôl yn llwyr, a'r ad-daliad o £20 yr wythnos ar Gredyd Cynhwysol yn cael ei dorri. Hefyd, mae ymateb Llywodraeth y DU i ymadael â'r UE yn parhau i achosi problemau i fusnesau ac unigolion ledled Cymru.

"Er gwaethaf hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda chwmnïau ledled Cymru i'w helpu i ddiogelu swyddi sy'n bodoli eisoes ac i greu swyddi newydd yn niwydiant y dyfodol. Nod ein Rhaglen Clwstwr Allforio newydd yw creu sector allforio cryf, bywiog a chynaliadwy i helpu i gryfhau'r economi, diogelu swyddi a chreu cyfleoedd newydd i bobl yng Nghymru. Gall unrhyw un a ddiswyddwyd yn ddiweddar ddefnyddio ein cyllid ReAct ar gyfer hyfforddiant a chyrsiau, sydd ar gael drwy wasanaeth Cymru'n Gweithio."