Data misol ar gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Trosolwg o'r farchnad lafur
Prif ddangosyddion y farchnad lafur, y 3 mis hyd at fis Awst 2021
Mae’r prif ddangosyddion llafurlu sydd wedi’u hamcangyfrif o’r Arolwg o’r Llafurlu yn rhoi arwydd o sut mae’r pandemig coronafeirws (COVID-19) yn effeithio’r llafurlu. Gellir hefyd defnyddio’r ffynonellau data eraill, megis nifer y gweithwyr cyflogedig a gyflwynir yn nes ymlaen yn y pennawd hwn, i roi darlun mwy amserol a chyflawn.
Cyfradd cyflogaeth
Cymru
Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 74.2%. Mae hyn i fyny 0.6 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 1.8 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Dyma'r cynnydd blynyddol mwyaf ers mis Chwefror i fis Ebrill 2019.
DU
Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y DU yn 75.3%, i fyny 0.5 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 0.1 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Cyfradd diweithdra
Cymru
Roedd y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 4.0%. Mae hyn i fyny 0.2 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
DU
Roedd cyfradd diweithdra’r DU yn 4.5%, i lawr 0.4 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 0.1 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Cyfradd anweithgarwch economaidd
Cymru
Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 22.6%. Mae hyn i lawr 0.8 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 2.1 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Dyma'r gostyngiad blynyddol mwyaf ers mis Chwefror i fis Ebrill 2019.
DU
Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y DU yn 21.1%, i lawr 0.2 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Noder
Mae cymariaethau â'r flwyddyn flaenorol yn cwmpasu cyfnod cynnar y pandemig coronafeirws (Mehefin i Awst 2020).
Enillion misol gweithwyr cyflogedig o Wybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cyhoeddi data ar gyfer Cymru am weithwyr sydd ar gyflogres, tâl cymedrig, tâl yn ei grynswth ac amcangyfrifon un mis ar gyfer tâl canolrifol.
Gweithwyr cyflogedig
Mae nifer y gweithwyr cyflogedig wedi cynyddu ar y cyfan yn y blynyddoedd ddiweddar, ond wedi gostwng yn ystod y pandemig. Dechreuodd nifer y gweithwyr cyflogedig gynyddu eto ar ddiwedd 2020 ac mae bellach yn uwch na’r lefel cyn y pandemig.
Mae amcangyfrifon cynnar ar gyfer Medi 2021 yn dangos bod nifer y gweithwyr cyflogedig yng Nghymru wedi cynyddu 6,400 (0.5%) dros y mis i 1.27 miliwn. Mae hyn yn uwch na’r amcangyfrifon cyn y pandemig (Chwefror 2020) a chynnydd o 47,700 o gymharu â’r pwynt isaf ym mis Tachwedd 2020.
Dangosodd amcangyfrifon cynnar ar gyfer Medi 2021 ar lefel y DU hefyd y cynnydd misol mwyaf ers dechrau’r gyfres yn 2014.
Cyhoeddir dadansoddiadau manwl eraill o weithwyr cyflogedig gan gynnwys yn ôl awdurdod lleol ac yn ôl oedran gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Adroddiadau
Trosolwg o'r farchnad lafur: Hydref 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.