Yn helpu awdurdodau lleol benderfynu pryd i newid terfynau cyflymder er mwyn iddynt weddu i amodau lleol yn well.
Dogfennau
Gosod terfynau cyflymder lleol yng Nghymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 198 KB
Manylion
Rydym wrthi'n diweddaru'r canllawiau hyn.
Mae'r canllawiau'n cynghori awdurdodau priffyrdd ar sut i bennu terfynau cyflymder lleol ar ffyrdd unffrwd a deuol mewn ardaloedd trefol a gwledig.
Mae'n cael ei ddiwygio i adlewyrchu'r newid terfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd preswyl i 20mya. Mae'r canllawiau yn hen gan eu bod wedi eu hysgrifennu yn 2009.
Bydd y fersiwn newydd yn ystyried polisïau fel Sero Net Cymru a Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
Gellir pennu terfyn cyflymder lleol i ddiwallu anghenion ac ystyriaethau lleol. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd lle mae'n ddymunol gyrru ar gyflymder gwahanol i'r terfyn cyflymder cenedlaethol.