Neidio i'r prif gynnwy

Nifer yr ymholiadau a gafodd eu trin, gan gynnwys cyswllt dros y ffôn ac ar-lein ar gyfer Hydref i Rhagfyr 2019.

Mae’r pyramid poblogaeth yn dangos bod y nifer uchaf o alwadau i Galw Iechyd Cymru fesul 1,000 o bobl yng Nghymru yn ymwneud â chleifion o dan 1 mlwydd oed. Hefyd, gwelwyd cyfraddau uwch o alwadau am blant 1-4 mlwydd oed, yn ogystal â phobl yn eu hugeiniau a’u tridegau cynnar a phobl henoed (80+).

Prif bwyntiau

  • Gwnaed 43,825 o alwadau i brif rif 0845 Galw Iechyd Cymru. Atebwyd 28,241 o’r rhain.
  • Roedd  9,186 (17%) o alwadau eraill i linellau gwybodaeth neu fe’u trosglwyddwyd o adrannau damweiniau ac achosion brys.
  • Gwnaed ac atebwyd mwy o alwadau ar benwythnosau, er i gyfran uwch o alwadau gael eu hateb yn ystod yr wythnos.
  • Cafwyd 1,279,982 o ymweliadau i wefan Galw Iechyd Cymru.
  • Gwnaed 861 o ymholiadau ar-lein i’r gwasanaeth ymholiadau ar y we.
  • Cafodd 49.8% o’r galwadau  lle cofnodwyd canlyniad terfynol eu cyfeirio at ofal sylfaenol, cyfeiriwyd 23.6% i adrannau damweiniau ac achosion brys, a galwyd ambiwlans yn sgil 10.9% o’r galwadau. Darparwyd gwybodaeth neu gyngor hunanofal i’r 15.8% arall.

Adroddiadau

Diweddariad Galw Iechyd, Hydref i Rhagfyr 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 535 KB

PDF
Saesneg yn unig
535 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.