Nifer yr ymholiadau a gafodd eu trin, gan gynnwys cyswllt dros y ffôn ac ar-lein ar gyfer Ionawr i Fawrth 2020.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Galw iechyd Cymru
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Gwnaed 56,845 o alwadau i brif rif 0845 Galw Iechyd Cymru. Atebwyd 26,492 o’r rhain.
- Cafwyd dros 2.5 miliwn o ymweliadau i wefan Galw Iechyd Cymru.
- Cafwyd ychydig dros 522,000 o ymweliadau i’r gwiriwr symptomau ar-lein, ac roedd bron i dri chwarter o’r rhain (384,000) i wirio symptomau coronafeirws.Gwnaed 991 o ymholiadau ar-lein i’r gwasanaeth ymholiadau ar y we.
- Cafodd 47% o’r galwadau lle cofnodwyd canlyniad terfynol eu cyfeirio at ofal sylfaenol, cyfeiriwyd 16% i adrannau damweiniau ac achosion brys, a galwyd ambiwlans yn sgil 8% o’r galwadau. Darparwyd gwybodaeth neu gyngor hunanofal i’r 29% arall.
Hysbysiad terfynu
Mae gweithrediad 111 Cymru bellach yn cwmpasu mwy na 52% o'r boblogaeth; mae hyn yn effeithio ar nifer y galwadau i Galw Iechyd Cymru. O ganlyniad, hwn fydd y datganiad olaf yng nghyfres Galw Iechyd Cymru.
Adroddiadau

Saesneg yn unig
Diweddariad Galw Iechyd, Ionawr i Fawrth 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 764 KB
PDF
764 KB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Gwefan StatsCymru
Gwefan StatsCymru
Gwefan Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099