Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r fframwaith hwn yn gymwys i'r gweithgareddau hynny sy'n uniongyrchol gysylltiedig ag addysgu a dysgu yn unig, a bydd yn cefnogi gwaith cynllunio ac yn cynyddu cyfleoedd addysgol wyneb yn wyneb. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau dysgu a datblygu sy'n cefnogi addysg a llesiant a phrofiadau addysgol ehangach. Mae'r fframwaith yn anstatudol. Y nod yw rhoi trosolwg i brifysgolion o fesurau rhesymol posibl y gellir eu rhoi ar waith i helpu i leihau'r risg o COVID-19.

Nid yw'r fframwaith hwn yn gymwys i weithgareddau ar y safle nad ydynt yn gysylltiedig ag addysgu a dysgu, fel digwyddiadau corfforaethol, a bydd y rheolau a nodir yn y lefel rhybudd sy'n berthnasol ar y pryd o dan y Rheoliadau yn gymwys, ynghyd ag unrhyw ganllawiau cysylltiedig.

Mae'r rhaglen frechu wedi gwneud cynnydd sylweddol, ac rydym am sicrhau bod pob oedolyn sy'n dod i gael brechiad yn cael cynnig ail ddos erbyn diwedd mis Medi 2021, gan gynnwys myfyrwyr dros 18 oed. Mae pawb sydd o fewn tri mis i'w pen-blwydd yn 18 oed bellach yn gymwys i gael eu dos cyntaf o'r brechlyn, a byddant yn cael cynnig ail ddos 8 wythnos ar ôl iddynt gael eu dos cyntaf. Mae pob person ifanc 16 a 17 oed hefyd wedi cael cynnig eu brechlyn cyntaf.

Dylai prifysgolion annog staff a myfyrwyr cymwys i gael eu brechu, a dylent argymell y dylai'r staff a'r myfyrwyr hyn fod wedi cael y dos cyntaf o leiaf, cyn mynychu safleoedd yn yr hydref.

Mae'r fframwaith hwn yn cynnwys mesurau atal a rheoli heintiau i brifysgolion eu hystyried, ac yn amlinellu sut y gellir amrywio'r mesurau hyn ar sail risg. Dylid ei ddarllen ar y cyd â'r Canllawiau COVID-19.

Mae mesurau diogelu cyffredinol yn cynnwys y canlynol:

  • Dylid atgoffa pob aelod o staff a myfyriwr i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar hunanynysu fel y bo'n briodol, a'u cyfarwyddo i aros gartref os oes ganddynt unrhyw symptomau neu os oes gan unrhyw un yn eu haelwyd symptomau, neu os ydyn nhw neu unrhyw un yn eu haelwyd wedi cael prawf positif ar gyfer COVID-19 neu os yw gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu'r GIG wedi dweud wrthynt am hunanynysu.
  • Dylai staff a myfyrwyr gael prawf cyn gynted ag y bydd eu symptomau'n ymddangos.
  • Mae golchi dwylo'n rheolaidd ac arferion anadlol (Ei Ddal. Ei Daflu. Ei Ddifa) yn fesurau allweddol i atal yr haint rhag lledaenu a rheoli achosion, achosion lluosog a brigiadau o achosion.
  • Mae trefniadau awyru digonol – agor ffenestri neu addasu systemau awyru, yn bwysig hefyd.

Ar lefel rhybudd sero, bydd gan gyflogwyr a busnesau fwy o hyblygrwydd i bennu'r hyn y mae angen ei wneud i reoli risgiau lleol. Camau gweithredu lleol fydd bwysicaf yn y lle cyntaf. Y Timau Rheoli Achosion Lluosog lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a byrddau iechyd lleol fydd yr asiantaethau a fydd yn arwain y gwaith o bennu statws risg pob ardal. Fodd bynnag, gall prifysgolion wneud eu penderfyniadau eu hunain os bydd clystyrau o achosion o COVID-19 yn gysylltiedig â'r brifysgol, ar sail cynlluniau rheoli brigiadau o achosion. Bydd cyfrifoldeb ar brifysgolion i weithio gyda'r Tîm Rheoli Achosion Lluosog lleol, y bwrdd iechyd lleol a thimau iechyd y cyhoedd i ymateb i'r clystyrau hynny. Bydd angen i'r Timau Rheoli Achosion Lluosog lleol weithio gyda'r prifysgolion i lywio a thrafod ymatebion a phenderfyniadau priodol mewn perthynas â risgiau cynyddol yn y gymuned ehangach. Mae dyletswydd ar bob cyflogwr i ymgynghori â chyflogeion ynghylch iechyd a diogelwch. Dylai cyflogwyr rannu canlyniadau asesiadau risg â'u gweithlu.

Mae'n rhaid bod gan brifysgolion  brosesau ar waith i reoli COVID-19, gan gynnwys y ddyletswydd benodol i gymryd pob cam rhesymol ar sail asesiad risg i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â COVID-19 a'i ledaenu, yn dibynnu ar ffactorau unigol fel adeiladau a chyfleusterau, awyru, addysgu, dysgu a chyfleusterau ymchwil a gweithgareddau eraill a gynhelir. Mae'n rhaid i brifysgolion sicrhau bod cynlluniau rheoli brigiadau o achosion yn nodi'n glir y trefniadau sydd ar waith i reoli COVID-19 fel perygl yn y gweithle ac fel clefyd trosglwyddadwy. Gall y mesurau hyn, a dylai'r mesurau hyn, gael eu dwysáu a'u llacio'n briodol, ar sail prosesau asesu risg sefydledig a'r hierarchaeth mesurau rheoli. Nid yw llawer o'r mesurau hyn yn rhai deuaidd – bydd camau graddol rhwng y mesurau a restrir isod y gall fod angen eu cymryd i adlewyrchu'r risgiau penodol a nodwyd gan y sefydliad ar gyfer ei safle(oedd), ei staff, ei fyfyrwyr, a'i gymuned.

Bwriedir i'r fframwaith helpu sefydliadau, myfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach i ddeall sut y bydd y gyfres hon o fesurau yn gweithio yn y dyfodol.

Bwriedir i'r mesurau hyn fod yn gymwys i bob lefel rhybudd, a dylai pob darparwr eu defnyddio mewn ffordd sy'n adlewyrchu gwybodaeth a risg leol fel y'i haseswyd gan y Tîm Rheoli Achosion Lluosog lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, cyngor gan ein Prif Swyddog Meddygol, y Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd, a gweithwyr proffesiynol eraill. Dylai pob prifysgol gael ei chynrychioli ar Dimau Rheoli Achosion Lluosog perthnasol a dylai prifysgolion weithio gyda chynrychiolwyr Undebau Llafur ac Undebau Myfyrwyr i drafod a chyfleu priodoldeb yr ymatebion a roddir ar waith ar bob lefel risg.

Nid yw'r fframwaith yn ddibynnol ar y lefel rhybudd sy'n berthnasol i ardal benodol yng Nghymru (neu Gymru gyfan) ar adeg benodol. Er enghraifft, ar lefel rhybudd sero, mae'n bosibl y byddai clwstwr o achosion positif mewn ardal ddaearyddol benodol (e.e. yn y gymuned lle mae darparwr wedi'i leoli) yn peri i ddarparwr ddefnyddio'r fframwaith i asesu lefel y risg a rhoi mesurau lleol ar waith, hyd yn oed pe na bai'r lefel rhybudd o dan y Rheoliadau yn newid ar gyfer yr ardal honno. Fodd bynnag, mae'n rhaid nodi os bydd lefel rhybudd o dan y Rheoliadau yn cynnwys gofyniad llymach nag a nodir yn y fframwaith hwn, yna rhaid i'r gofyniad llymach hwnnw gael ei fodloni. Os na fydd gofyniad yn gymwys neu os bydd gofyniad llai llym yn gymwys o dan lefel rhybudd o dan y Rheoliadau, yna dylid dilyn y dull gweithredu a nodir o dan y lefel risg berthnasol yn y fframwaith. Yn yr amgylchiadau hyn, dylid dilyn unrhyw fesurau rhesymol ychwanegol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â COVID-19 neu ei ledaenu a nodir o ganlyniad i asesiad risg darparwr.

Rhagwelwn y bydd mesurau rheoli mewn rhai meysydd fel awyru, trefniadau glanhau mwy trylwyr, yn dod yn rhan o'r dull parhaus o reoli'r risg o haint.  Gan y bydd y rhain yr un fath ar bob lefel risg, nid ydynt wedi'u cynnwys yn y fframwaith ond maent wedi'u cynnwys yn y canllawiau cenedlaethol.

Mae Tabl 1 yn amlinellu'r graddau risg cenedlaethol, tra bod Tabl 2 yn amlinellu'r fframwaith o fesurau y gall prifysgolion ei ddefnyddio mewn ymateb i newidiadau yn y graddau risg hynny.

Tabl 1: Graddau risg cenedlaethol

Lefel y risg

Disgrifiad

Camau gweithredu

Isel
  • Mae mwy nag 85% o grwpiau blaenoriaeth 1-9 wedi cael dau ddos o frechlyn COVID-19 ac nid oes tystiolaeth bod imiwnedd yn gwanhau.
  • Efallai fod nifer yr achosion dros gyfnod o 7 diwrnod yn cynyddu, ond caiff mwyafrif yr achosion eu cofnodi ymhlith y rhai sy'n 30 oed neu'n iau nad ydynt wedi cael eu brechu neu sydd ond wedi cael un dos.
  • Mae canran yr achosion yn y gymuned lle mae angen i'r claf gael ei dderbyn i'r ysbyty yn isel o hyd.
  • Mae nifer y marwolaethau yn isel o hyd.
  • Nid yw nifer yr unigolion sy'n hunanynysu yn peri risg i wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol na goleuadau glas rheng flaen.
  • Mae camau gan awdurdodau lleol i orfodi busnesau i gydymffurfio yn isel o hyd.
  • Ychydig iawn o haint sy'n cael ei gyflwyno mewn lleoliadau caeedig neu ysgolion
  • Nid yw gwaith genomeg yn darparu unrhyw wybodaeth i ddangos bod amrywiolyn o ddiddordeb neu bryder wedi'i nodi.
  • Bydd unigolion symptomatig yn parhau i hunanynysu a chael prawf, gan ymateb yn briodol i'r canlyniad. Caiff profion asymptomatig eu cynnal ymhlith carfannau amrywiol yn unol â'r canllawiau.
  • Cysylltir ag achosion cyn gynted â phosibl fel y gellir cynghori cysylltiadau i hunanynysu a lleihau'r risg y caiff yr haint ei ledaenu ymhellach.
  • Mae camau'n parhau i gael eu cymryd yn lleol i annog y rhai nad oeddent yn awyddus i gael y brechiad ar y cynnig cyntaf i wneud hynny.
  • Ymgysylltu â chymunedau lleol i sicrhau y gall ymddygiadau da mewn lleoliadau risg uchel (ardaloedd nad ydynt wedi'u hawyru'n dda ac ardaloedd gorlawn) barhau a bod cymunedau'n barod i dderbyn hyn.
  • Mae asiantaethau'n gwneud gwaith rhagweithiol ym mhob sector i sicrhau y gallant weithio mewn amgylchedd sy'n seiliedig ar risg.
  • Cymryd camau ymatebol i orfodi busnesau i gydymffurfio.
Cymedrol
  • Mae mwy nag 85% o grwpiau blaenoriaeth 1-9 wedi cael dau ddos o frechlyn COVID-19 ac nid oes tystiolaeth bod imiwnedd yn gwanhau.
  • Mae nifer yr achosion o'r haint dros gyfnod treigl o 7 diwrnod yn parhau i gynyddu. Ymatebir i bob achos newydd o'r haint ac mae tystiolaeth gan Profi, Olrhain, Diogelu yn dangos er bod mwyafrif yr achosion yn dal i fod ymhlith y boblogaeth iau symudol, fod nifer yr achosion o'r haint ymhlith y rhai 60 oed a hŷn wedi dechrau cynyddu.
  • Mae derbyniadau i ysbytai yn cynyddu o sylfaen isel ond mae canran yr achosion yn y gymuned lle mae angen derbyn cleifion i'r ysbyty yn isel o hyd.
  • Mae nifer y marwolaethau yn isel o hyd.
  • Mae achosion o'r haint yn ymddangos yn gynyddol mewn cartrefi gofal (yn aml aelod unigol o staff) ac ysgolion sy'n awgrymu bod trosglwyddiad sylweddol yn y gymuned.
  • Mae camau gorfodi gan awdurdodau lleol yn cynyddu. Mae tystiolaeth yn dod i'r amlwg o achosion o ddiffyg cydymffurfio gan fusnesau sy'n gysylltiedig â chlystyrau o achosion o'r haint.
  • Nid yw gwaith genomeg yn darparu unrhyw wybodaeth i ddangos bod amrywiolyn o ddiddordeb neu bryder wedi'i nodi.
  • Bydd unigolion symptomatig yn parhau i hunanynysu a chael prawf, gan ymateb yn briodol i'r canlyniad. Caiff profion asymptomatig eu cynnal ymhlith carfannau amrywiol yn unol â'r canllawiau.
  • Yn ogystal ag ymateb i bob achos newydd o'r haint, mae gwaith olrhain tuag yn ôl yn parhau a gall hyd yn oed ddarparu tystiolaeth bod y cadwyni trosglwyddo o risgiau hysbys yn plannu'r haint yn y gymuned ehangach.
  • Ar y cam hwn, caiff risgiau hysbys (e.e. tafarndai/clybiau gwlyb) mewn perthynas â dal yr haint eu hystyried, a bydd hyn yn dylanwadu ar benderfyniadau i gyflwyno mwy o gamau ac adnoddau cyfathrebu lleol.
  • Mae pwerau gorfodi awdurdodau lleol yn cael eu defnyddio'n effeithiol i sicrhau y cydymffurfir â rheoliadau cyfyngu ac mewn ymateb i glystyrau o achosion.
  • Cymryd camau rhagweithiol i ymgysylltu'n lleol â sectorau busnes penodol lle mae tystiolaeth yn dod i'r amlwg o risg barhaus.
  • Gall tystiolaeth gan Profi, Olrhain, Diogelu awgrymu nad oes un sector penodol yn gyfrifol am drosglwyddo'r haint, ond bod diffyg dealltwriaeth o'r ymddygiadau personol a all leihau'r risg o ddal yr haint a'r risg bosibl i eraill. Bydd y Tîm Rheoli Achosion Lluosog yn ystyried y ffordd orau o ymgysylltu ag aelodau'r gymuned a'u helpu i ddeall eu risg bersonol a'r risg i'r boblogaeth ehangach.
  • Mae camau'n parhau i gael eu cymryd yn lleol i annog y rhai nad oeddent yn awyddus i gael y brechiad ar y cynnig cyntaf i wneud hynny.
Uchel
  • Mae mwy nag 85% o grwpiau blaenoriaeth 1-9 wedi cael dau ddos o frechlyn COVID-19. Mae nifer yr achosion o'r haint ymhlith y boblogaeth sydd wedi'i brechu yn cynyddu a gall hyn awgrymu bod imiwnedd yn gwanhau.
  • Nid ymchwilir i bob achos newydd o haint.  Caiff adnoddau eu targedu at glystyrau o achosion ac achosion lluosog mewn lleoliadau risg uchel (e.e. cartrefi gofal). Mae'r haint yn cael ei drosglwyddo'n eang yn y gymuned fel y dangosir gan nifer o glystyrau bach mewn aelwydydd a chlystyrau cymdeithasol mewn gweithleoedd agored a chaeedig.
  • Mae cyfradd yr achosion ymhlith pobl dros 60 oed yn cynyddu ac mae canran yr achosion yn y gymuned lle mae angen derbyn cleifion i'r ysbyty wedi cynyddu.
  • Mae nifer y marwolaethau yn cynyddu.
  • Mae nifer y staff sy'n hunanynysu yn cael effaith sylweddol ar wasanaethau rheng flaen.
  • Mae nifer y cleifion a dderbynnir i'r ysbyty yn cynyddu ac mae'r effaith ar iechyd a gofal cymdeithasol i'w gweld yn nifer y cartrefi gofal yn y categori 'coch', sy'n golygu na ellir rhyddhau pobl oedrannus ac yn arwain at dagfeydd yn y GIG.
  • Mae nifer y staff sy'n hunanynysu yn cael effaith sylweddol ar wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a goleuadau glas rheng flaen.
  • Mae tystiolaeth gynyddol bod achosion o ddiffyg cydymffurfio gan fusnesau yn gysylltiedig â chlystyrau o achosion o'r haint.
  • Nid yw gwaith genomeg yn darparu unrhyw wybodaeth i ddangos bod amrywiolyn newydd o ddiddordeb neu o bryder yn ysgogi'r cynnydd yn nifer yr achosion o'r haint.
  • Bydd unigolion symptomatig yn parhau i hunanynysu a chael prawf, gan ymateb yn briodol i'r canlyniad. Caiff profion asymptomatig eu cynnal ymhlith carfannau amrywiol yn unol â'r canllawiau.
  • Yn gynyddol, mae camau gweithredu'n canolbwyntio ar leihau'r risg i gymunedau sy'n agored i niwed a thargedu clystyrau mwy o faint er mwyn lleihau niwed.
  • Mae dibyniaeth gynyddol ar gydgymorth er mwyn hyrwyddo'r neges hunanynysu a nodi cysylltiadau, o leiaf. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caiff gwaith olrhain tuag yn ôl ei wneud.
  • Mae strategaeth brofi ehangach wedi cael ei rhoi ar waith yn lleol er mwyn ei gwneud yn haws i bobl gael profion a nodi achosion o'r haint ymhlith unigolion symptomatig a'r rhai asymptomatig
  • Cynhelir adolygiad epidemiolegol manwl ynghyd ag asesiad o'r angen i ailgyflwyno ymyriadau anfferyllol yn ychwanegol at y rhai sy'n wirfoddol (cadw pellter cymdeithasol, gwisgo mygydau mewn sefyllfaoedd risg uchel, golchi dwylo'n aml, cwrdd yn yr awyr agored lle bo hynny'n bosibl ac ati).
  • Pe na bai ymateb gwirfoddol y gymuned fel y'i diffinnir yn ddigon i fynd i'r afael â'r cynnydd yn nifer yr achosion o'r haint, dylid gwneud cais i Lywodraeth Cymru am ragor o bwerau lleol.
  • Wrth gefnogi'r bobl hynny sy'n agored i niwed, bydd y Tîm Rheoli Achosion Lluosog yn gweithio gyda lleoliadau caeedig i sicrhau eu bod yn cydymffurfio'n llawn â'r polisi profi y cytunwyd arno er mwyn lleihau'r gyfradd heintio i'r eithaf
  • Bydd y Tîm Rheoli Achosion Lluosog yn ystyried ac yn cefnogi'r gwaith o brofi staff gwasanaethau rheng flaen yn ddyddiol er mwyn eu galluogi i ddychwelyd i'r gwaith a chynnal gwasanaethau allweddol
  • Mae swyddogion gorfodi yn gweld yn gynyddol mai sectorau lle mae diffyg cydymffurfiaeth yn gyffredin yw'r fectorau ar gyfer lledaenu'r haint. Caiff ymyriadau eu targedu at y sectorau hyn.
  • Mae camau'n parhau i gael eu cymryd yn lleol i annog y rhai nad oeddent yn awyddus i gael y brechiad ar y cynnig cyntaf i wneud hynny.
Uchel iawn
  • Mae mwy nag 85% o grwpiau blaenoriaeth 1-9 wedi cael dau ddos o frechlyn COVID-19. Mae nifer yr achosion o'r haint ymhlith y boblogaeth sydd wedi'i brechu yn cynyddu a gall hyn awgrymu bod imiwnedd yn gwanhau.
  • Mae nifer yr achosion o'r haint dros gyfnod treigl o 7 diwrnod yn cynyddu ym mhob grŵp oedran.
  • Mae cynnydd esbonyddol yn nifer yr achosion o'r haint mewn lleoliadau caeedig. Mae Profi, Olrhain, Diogelu yn blaenoriaethu'r bobl sydd fwyaf agored i niwed. Nid yw olrhain achosion tuag yn ôl yn ymarferol mwyach.
  • Mae gwaith adolygu epidemiolegol yn dangos bod y feirws yn lledaenu ar hap drwy'r ardal gyfan ac nad oes dealltwriaeth gynhwysfawr o'r hyn sy'n ei ysgogi na thystiolaeth i ddangos nad yw'r mesurau lliniaru cenedlaethol a lleol yn effeithiol mwyach.
  • Mae'r Timau Gorfodi ar y Cyd wedi eu gorlethu.
  • Mae nifer y marwolaethau yn parhau i gynyddu.
  • Mae nifer y staff sy'n hunanynysu yn cael effaith sylweddol ar wasanaethau rheng flaen.
  • Mae achosion a chlystyrau o achosion yn cael effaith ddifrifol ar addysg.
  • Mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol dan bwysau sylweddol.
  • Nid yw gwaith genomeg yn darparu unrhyw wybodaeth i ddangos bod amrywiolyn newydd o ddiddordeb neu o bryder yn ysgogi'r cynnydd yn nifer yr achosion o'r haint.
  • Bydd unigolion symptomatig yn parhau i hunanynysu a chael prawf, gan ymateb yn briodol i'r canlyniad. Caiff profion asymptomatig eu cynnal ymhlith carfannau amrywiol yn unol â'r canllawiau.
  • Mae'r Tîm Rheoli Achosion Lluosog yn deall bod yr haint yn cael ei drosglwyddo mor gyflym yn y gymuned fel mai dim ond mesurau a fydd yn lleihau cyswllt rhwng pobl yn sylweddol a fydd yn torri'r cadwyni trosglwyddo.
  • Mae trefniadau cyfathrebu, profi a brechu ehangach ar waith, gan gynnwys trefniadau profi i gynnal gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a goleuadau glas rheng flaen
  • Mae adolygiad o ymyriadau a chamau gweithredu anfferyllol hyd yma yn awgrymu na ellir gwneud mwy gyda phwerau lleol i leihau'r gyfradd drosglwyddo o berson i berson.
  • Mae tystiolaeth yn dod i'r amlwg gan swyddogion gorfodi bod gofynion Rheoliadau Cyfyngu yn annigonol.
  • Gall y Tîm Rheoli Achosion Lluosog wneud cais am i ymyriadau penodol gael eu cyflwyno i gefnogi'r gofyniad i gyfyngu ar gyswllt rhwng pobl.
  • Caiff sylwadau eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru yn argymell y dylid cymryd camau lliniaru pellach. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried a yw camau lliniaru yn briodol ar gyfer yr awdurdod lleol neu'r bwrdd iechyd. Wrth ystyried y cais, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried amrywiaeth o wybodaeth, gan gynnwys cyffredinrwydd yr haint ledled Cymru, yr effaith y mae COVID-19 yn ei chael ar y system iechyd a gofal cymdeithasol, a'r cyfraniad y mae brechlynnau yn ei wneud o ran gwanhau'r cysylltiad rhwng yr haint a marwolaethau a morbidrwydd, er mwyn penderfynu ai dull gweithredu lleol, rhanbarthol neu genedlaethol sy'n briodol.

Tabl 2: fframwaith risg i brifysgolion

 

Risg isel

 

Risg gymedrol

 

Risg uchel

 

 

Risg uchel iawn

 

 

Cadw pobl yn ddiogel

Dylai prifysgolion sicrhau y caiff mesurau rhesymol eu rhoi ar waith mewn mannau cyhoeddus [footnote 1] i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â COVID-19 a'i ledaenu, a all gynnwys pob mesur rhesymol i annog unigolion i gadw pellter corfforol o 2m [o leiaf] rhwng ei gilydd. Mewn ardaloedd eraill, dylai'r asesiad risg ystyried cadw pellter corfforol fel mesur i liniaru'r risg.

I gefnogi gwaith olrhain cysylltiadau Profi, Olrhain, Diogelu, mae'n bosibl y bydd prifysgolion am bennu proses i gadw a chyflenwi gwybodaeth gyswllt [gywir] ar gyfer pob sesiwn yn unol â'r canllawiau.

Yn y fframwaith hwn, ystyr ardaloedd cyhoeddus yw'r ardaloedd hynny y mae gan aelodau o'r cyhoedd fynediad iddynt, neu ganiatâd i gael mynediad iddynt, ond maent hefyd yn cynnwys ardaloedd cymunedol (fel coridorau ac ati) ar y safle hyd yn oed os nad oes gan y cyhoedd fynediad iddynt, er enghraifft ardaloedd cymunedol a ddefnyddir gan y staff a'r myfyrwyr yn unig.

Pob mesur rhesymol i gadw pellter corfforol o 2m rhwng unigolion ym mhob ardal, gan gynnwys mewn amgylchedd addysgu a dysgu.

Felly, dylai pawb gadw pellter corfforol yn dibynnu ar faint yr ystafell ac asesiadau risg.

 

Lle y bo'n bosibl, dylid gweithio neu astudio gartref fel mater o drefn.

Pob mesur rhesymol i gadw pellter corfforol o 2m rhwng unigolion ym mhob ardal, gan gynnwys mewn amgylchedd addysgu a dysgu.

Felly, dylai pawb gadw pellter corfforol yn dibynnu ar faint yr ystafell ac asesiad risg.

 

Cadw pellter corfforol a lleihau cysylltiadau agos

Dylai prifysgolion roi trefniadau ar waith i geisio lleihau cysylltiadau / rhyngweithiadau agos.

Annog pellter corfforol o 2m o leiaf mewn ardaloedd cymunedol dan do y tu allan i'r amgylchedd addysgu a dysgu, fel coridorau.

 

 

 

 

 

Mwy o ddysgu ar-lein.

Caiff mesurau rheoli niferoedd yn yr amgylchedd addysgu a dysgu eu haddasu o ganlyniad i'r newid mewn trefniadau cadw pellter corfforol ar y lefel risg hon (a ddisgrifir uchod).

 

 

 

Dysgu o bell lle y bo hynny'n bosibl – dylai'r ddarpariaeth ddysgu symud ar-lein a dylid gweithio neu astudio gartref fel mater o drefn ar y cyd â dysgu wyneb yn wyneb hanfodol. 

Gall dysgu wyneb yn wyneb hanfodol gynnwys lleoliadau neu gyrsiau ymarferol, gofynion yn seiliedig ar gymwysterau neu ofynion cyrff proffesiynol neu achosion lle mae risg na fyddai myfyrwyr yn cwblhau eu cwrs astudio ar gyfer y flwyddyn academaidd.

Mae prifysgolion ar agor o hyd ar gyfer gweithgarwch addysgu a dysgu hanfodol ar y campws gan fod angen i lawer o fyfyrwyr a staff gael mynediad i labordy, llyfrgell, man astudio priodol neu stiwdio, sy'n golygu bod angen iddynt adael eu cartref gan na allant gwblhau'r gwaith hwnnw gartref.

Caiff mesurau rheoli niferoedd yn yr amgylchedd addysgu a dysgu eu haddasu o ganlyniad i'r newid mewn trefniadau cadw pellter corfforol ar y lefel risg hon (a ddisgrifir uchod).

Gorchuddion wyneb

Os bydd yr addysgu a'r dysgu'n digwydd mewn ardal nad yw'n ardal gyhoeddus dan do, ni fydd angen gwisgo gorchudd wyneb (oni bai bod angen cyfarpar diogelu personol angenrheidiol mewn labordy/lleoliad clinigol neu leoliadau eraill).

Dylai'r asesiad risg ystyried a ddylid cynghori pobl i wisgo gorchuddion wyneb os na ellir cadw pellter corfforol o 2m mewn ardaloedd dan do (gan gynnwys yn yr amgylchedd addysgu neu ddysgu) neu os oes myfyrwyr neu staff sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol neu rai sy'n wynebu mwy o risg o ddal COVID-19, gan gynnwys y rhai a fu'n gwarchod yn flaenorol.

Gall myfyrwyr a staff ddewis gwisgo un os byddant yn dymuno gwneud hynny.

Rhaid gwisgo gorchuddion wyneb ym mhob ardal gyhoeddus dan do y mae gan y cyhoedd fynediad iddi neu y mae ganddynt ganiatâd i gael mynediad iddi. (e.e. derbynfeydd, cyfleusterau sydd ar agor i'r cyhoedd).

Argymhellir yn gryf y dylid gwisgo gorchuddion wyneb yn yr amgylchedd addysgu a dysgu os na ellir cadw pellter corfforol.

Dylid defnyddio asesiad risg i ystyried ardaloedd a gweithgareddau lle dydit  wisgo gorchuddion wyneb, yn benodol os mae myfyrwyr neu staff sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol neu rai sy'n wynebu mwy o risg o ddal COVID-19.

Rhaid gwisgo gorchuddion wyneb ym mhob ardal gyhoeddus dan do y mae gan y cyhoedd fynediad iddi neu y mae ganddynt ganiatâd i gael mynediad iddi  (e.e. derbynfeydd, cyfleusterau sydd ar agor i'r cyhoedd).

Dylai dysgwyr a staff wisgo gorchuddion wyneb ym mhob ardal dan do.

Rhaid gwisgo gorchuddion wyneb ym mhob ardal gyhoeddus  dan do y mae gan y cyhoedd fynediad iddi neu y mae ganddynt ganiatâd i gael mynediad iddi  (e.e. derbynfeydd, cyfleusterau sydd ar agor i'r cyhoedd).

Dylai dysgwyr a staff wisgo gorchuddion wyneb ym mhob ardal dan do.

Dylid gwisgo gorchuddion wyneb ym mhob ardal dan do ar y campws. Bydd angen i brifysgolion hysbysu myfyrwyr a staff am y gofyniad.

Profion i staff a myfyrwyr
 

Mae'r polisi profi i deithio yn parhau ar waith ar gyfer dechrau a diwedd y tymor.

Profion ddwywaith yr wythnos i fyfyrwyr a staff am y 28 diwrnod cyntaf ar y campws ar ddechrau pob tymor.

Ychydig o brofion llif unffordd rheolaidd, os o gwbl.

Profion wedi'u targedu/penodol os bydd timau diogelu iechyd lleol yn argymell hynny. 

Mae'r polisi profi i deithio yn parhau ar waith ar gyfer dechrau a diwedd y tymor.

Profion ddwywaith yr wythnos i fyfyrwyr am y 28 diwrnod cyntaf ar y campws ar ddechrau pob tymor.

Annog staff i gael profion llif unffordd ddwywaith yr wythnos er mwyn helpu i nodi ac ynysu achosion asymptomatig cyn gynted â phosibl.

Profion wedi'u targedu/penodol os bydd timau diogelu iechyd lleol yn argymell hynny. 

 

Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF . Maint Ffeil 138 KB.

Maint Ffeil 138 KB. Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.