Neidio i'r prif gynnwy

Mae hyn er mwyn adlewyrchu diwygiad sydd wedi’i wneud i Reoliadau Maeth (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2020 (O.S. 2020/1476). Mae'n peri oedi cyn sbarduno rheolau newydd, hyd at 22 Chwefror 2022 yn lle 22 Chwefror 2021.

Rydym yn ymgynghori ar gynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth ddomestig er mwyn:

  • adlewyrchu’r diwygiad i Reoliadau Maeth (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2020 (O.S. 2020/1476)
  • diweddaru'r drefn orfodi ddomestig

Crynodeb

Mae'r ymgynghoriad hwn yn  ymwneud â chynigion i ddiwygio Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020 i adlewyrchu gwelliant a wnaed i Reoliadau Maeth (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2020 (O.S. 2020/1476). Bydd y rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020 ac yn rhoi grym i'r rheolau newydd ynghylch fformiwla fabanod neu fformiwla  ddilynol a wneir o hydrolysadau protein ar 22 Chwefror 2022 yn lle 22 Chwefror 2021.

Cefndir

Yn 2016, gweithredodd yr UE Reoliad Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (UE) 609/2013 (Rheoliad FSG yr UE) sy'n pennu rheolau cyfansoddiad a labelu cyffredinol ar gyfer y pedwar categori bwyd canlynol:   fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol (IFFOF):

  • bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd babanod
  • bwyd at ddibenion meddygol arbennig (FSMP) (bwydydd sy'n angenrheidiol ar gyfer rheoli cyflyrau meddygol penodol)
  • amnewid deiet yn llwyr y bwriedir ei defnyddio mewn deietau egni cyfyngedig at ddibenion colli pwysau

Mae pedwar Rheoliad Dirprwyedig yn dod o dan Reoliad FSG yr UE ac yn ategu Rheoliad FSG yr UE i adlewyrchu datblygiadau mewn maes penodol. Mae'r pedwar Rheoliad Dirprwyedig yn darparu ar gyfer y gofynion cyfansoddiad a labelu manwl ar gyfer pob un o'r pedwar categori bwyd a restrir uchod.    

Un Rheoliad Dirprwyedig o'r fath yw (UE) 2016/127. Mae'r Rheoliad hwn yn pennu gofynion cyfansoddiad a labelu penodol ar gyfer fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol (IFFOF). Roedd y mwyafrif o'r gofynion hyn yn gymwys o 22 Chwefror 2020 ond nid oedd y gofynion sy'n ymwneud ag IFFOF a wneir o hydrolysadau protein i fod i ddod i rym tan 22 Chwefror eleni. Tan 22 Chwefror 2021 bydd fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol a weithgynhyrchir o hydrolysadau protein yn parhau i gael eu rheoleiddio gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 22/2021/EC.

Mae'r defnydd o hydrolysadau protein fel ffynhonnell o brotein mewn fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol wedi'i ganiatáu ers blynyddoedd lawer ac mae'r defnydd ohono wrth weithgynhyrchu llaeth fformiwla yn gyffredin yn y farchnad. Mae hyn i'w briodoli yn rhannol i'r honiadau iechyd cysylltiedig bod fformiwla fabanod sy'n cael ei gweithgynhyrchu o hydrolysadau protein yn lleihau'r risg o ddatblygu alergedd i broteinau llaeth.

O dan 2016/127 bydd honiadau iechyd megis  'hawdd eu treulio', neu 'leihau'r risg o ddatblygu alergeddau i laeth buwch' yn cael eu gwahardd oni bai eu bod wedi'u cadarnhau gan asesiad gwyddonol.     

Y mis diwethaf hysbyswyd y DU fod yr UE wedi cyhoeddi gwelliant i Reoliadau Dirprwyedig 2016/217 2016/217 i ohirio gweithredu'r gofynion newydd tan 22 Chwefror 2022 (oedi o 1 flynedd) SANTE/11723/2017-EN CIS (europa.eu).  

Y mis diwethaf, dilynodd Llywodraeth y DU yr UE wrth ohirio rhoi'r gofynion newydd ar waith tan 22 Chwefror 2022.  Rhoddwyd hyn ar waith ar ran Prydain Fawr gyfan drwy Reoliadau Maeth (Diwygio) a Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Bwyd at Ddibenion Meddygol Arbennig ar gyfer Babanod, Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol) (Gofynion Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Diwygio) 2021 ('O.S. PRYDAIN 2021).    

Fel gyda'r UE, mae'r DU yn dal i gwblhau proses asesu ar gyfer ystyried coflenni a gyflwynir gan ddiwydiant ar honiadau ynghylch fformiwla fabanod a weithgynhyrchir o brotein.  Bydd gohirio rhoi'r rheolau newydd ar waith yn sicrhau bod y DU yn parhau i fod yn gyson â Gogledd Iwerddon lle mae rheolau'r UE, o ganlyniad i brotocol Gogledd Iwerddon, yn gymwys yn awtomatig gan osgoi gwahaniaethau anfwriadol rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.  Bydd y dull gweithredu hwn hefyd yn osgoi anghysondeb yn y farchnad a dryswch cyfreithiol ac yn caniatáu amser i'r DU weithredu'r drefn asesiad gwyddonol angenrheidiol.

Newidiadau i ddeddfwriaeth ddomestig

Mae angen dirymu Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020 ("yr OS domestig") gan eu bod yn darparu ar hyn o bryd fod y rheolau newydd sy'n ymwneud â chynhyrchion IFFOR a wneir o hydrolysadau protein yn gymwys o 22 Chwefror 2021. Dawʼr rheolau newydd hyn i rym ar 22 Chwefror 2022. 

Gwelliant technegol yn unig yw hwn sy'n cywiro cyfeiriad sydd bellach wedi darfod.  Ni fydd yr OS yn gosod unrhyw ofyniad newydd ar fusnesau neu gyrff gorfodi ac ni fydd yn gosod unrhyw gostau newydd.

Y broses ymgynghori 

Bydd yr ymgynghoriad yn para am gyfnod o bedair wythnos, er mwyn rhoi cyfle i bartïon sydd â buddiant yng Nghymru allu cyflwyno sylwadau ar y cynnig. Bydd unrhyw sylwadau a ddaw i law fel rhan o'r ymgynghoriad hwn yn cael eu hystyried yn ofalus a bydd crynodeb o'r ymatebion a ddaw i law yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru cyn pen 3 mis ar ôl i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben. 

Ymgyngoriadau eraill 

Mae Lloegr eisoes wedi cwblhau'r ymgynghoriad ar  Reoliadau Maeth (Diwygio) a Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Bwyd at Ddibenion Meddygol Arbennig ar gyfer Babanod, Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol) (Gofynion Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Diwygio) 2021 Prydain Fawr a oedd yn cynnwys darpariaeth gorfodi domestig ar gyfer Lloegr ac a fydd yn diwygio Rheoliadau Maeth (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2020.

Costau a Manteision 

Diwydiant

Gan fod y status quo yn parhau hyd nes y daw'r darpariaethau newydd i rym, nid oes unrhyw newid sylweddol gan y bydd cynhyrchion yn parhau i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth bresennol. Ymhellach, nid oes unrhyw weithgynhyrchwyr hysbys o'r cynhyrchion hyn yng Nghymru.   

Y sector cyhoeddus 

Gan fod y status quo yn parhau hyd nes y daw'r darpariaethau newydd i rym, nid oes beichiau newydd ar gyrff gorfodi.   

Nid oes Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'i gwblhau ar gyfer y polisi hwn. Rydym o'r farn na fydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn cael unrhyw effaith ar gydraddoldeb mewn perthynas ag unrhyw un o'r nodweddion gwarchodedig o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (oed, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, neu gyfeiriadedd rhywiol), nac yn cael effaith anghymesur ar unrhyw grŵp penodol. Ni fydd y polisi yn cael effaith ar berthynas yn y teulu na swyddogaethau chwaith. 

Manteision 

Nid oes unrhyw fuddiannau cynyddrannol yn gysylltiedig â'r cynnig oherwydd nad yw'n gorfodi pwysau ychwanegol na newydd ar fusnesau a chyrff gorfodi.

Cwestiynau'r ymgynghoriad 

Cwestiwn 1

A ydych yn cytuno â'r dull gweithredu a gynigir i ddiwygio Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020?    

Cwestiwn 2

Ydych chi'n cytuno â'r effeithiau a nodwyd yn yr ymgynghoriad hwn?

Cwestiwn 3

Ydych chi'n ymwybodol o unrhyw effeithiau nad ydynt wedi'u nodi yn yr ymgynghoriad hwn?

Cwestiwn 4

A oes gennych unrhyw sylwadau eraill i'w gwneud ar y mater hwn?

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 7 Mehefin 2021, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:

lenwi ein ffurflen ar-lein
lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb ac e-bostio i Lifestyles@llyw.cymru
lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a phostio at:

Y Gangen Byw’n Iach ac Egnïol    
Is-adran Iechyd y Cyhoedd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

Eich hawliau

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • Gwneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau’n debygol o gael eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, rhowch wybod inni.

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Nifer: WG42699

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd eraill.

Os oes ei hangen arnoch mewn fformat  gwahanol, cysylltwch â ni.