Darganfyddwch a oes angen ichi dalu am driniaeth ddeintyddol y GIG a faint y gallech orfod ei dalu.
Cynnwys
Hawl i gael archwiliad a thriniaeth ddeintyddol y GIG am ddim
Cewch archwiliadau deintyddol am ddim os ydych:
- o dan 25 oed
- yn 60 oed neu'n hŷn
Bydd rhaid talu am unrhyw driniaeth sydd ei hangen arnoch ar ôl yr archwiliad am ddim fel pelydr-X.
Cewch driniaeth ddeintyddol y GIG yn rhad ac am ddim os ydych, pan fydd y driniaeth yn dechrau:
- o dan 18 oed
- yn 18 oed ac mewn addysg amser llawn
- yn feichiog neu wedi cael babi o fewn 12 mis cyn i'r driniaeth ddechrau
- yn glaf mewnol i'r GIG a chaiff y driniaeth ei rhoi gan un o ddeintyddion yr ysbyty
- yn glaf allanol i Wasanaeth Deintyddol Ysbytai'r GIG (efallai y bydd rhaid ichi dalu am ddannedd gosod a phontydd)
Mae gennych hefyd hawl i gael triniaeth ddeintyddol am ddim os yw unrhyw un o'r canlynol yn wir pan fydd y driniaeth yn dechrau, neu pan godir ffi arnoch:
- rydych chi neu'ch partner yn cael rhai budd-daliadau gan gynnwys:
- Credyd Cynhwysol
- Credyd Pensiwn
- rydych chi ar incwm isel, darllenwch y cynllun incwm isel
- mae gennych hawl i gael tystysgrif eithrio credyd treth y GIG neu rydych wedi'ch enwi ar dystysgrif ddilys
Gallwch ddefnyddio gwiriwr ar-lein y GIG i weld a oes gennych hawl i gael cymorth.
Gwybodaeth bwysig
- Os byddwch yn hawlio triniaeth ddeintyddol am ddim gan y GIG, efallai y gofynnir ichi ddangos tystiolaeth bod gennych hawl i hynny.
- Os byddwch yn hawlio esemptiad nad oes gennych hawl iddo, efallai y bydd rhaid ichi dalu tâl cosb.
Ffioedd deintyddol y GIG yng Nghymru
Os oes angen triniaeth ddeintyddol y GIG arnoch, bydd y swm y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar y math o ofal sydd ei angen arnoch
Dylech ofyn i'ch deintydd faint fydd eich cynllun triniaeth unigol yn ei gostio. Efallai y bydd y practis deintyddol yn gofyn ichi dalu cyn ichi ddechrau ar eich triniaeth. Fel arfer, byddwch yn talu un ffi am bob cwrs o driniaeth, neu becyn gofal. Hyd yn oed os yw'r driniaeth yn cael ei rhoi dros fwy nag un apwyntiad.
Codir uchafswm ffi o £384 am gwrs o driniaeth (neu sawl cwrs a ddarperir ar yr un pryd).
Dylai eich deintydd arddangos poster am ffioedd y GIG yn yr ystafell aros.
Gwybodaeth bwysig
- Fel arfer, byddwch yn talu un ffi am bob cwrs o driniaeth
- Mae rhai pecynnau gofal yn eithrio ffioedd labordy, a allai fod yn daladwy ar wahân
- Efallai na fydd rhaid ichi dalu os ydych chi wedi'ch eithrio rhag ffioedd deintyddol y GIG
Gofal deintyddol brys
Pecyn gofal brys: £37.50
Mae gofal deintyddol brys yn cynnwys asesiad o iechyd geneuol a thriniaeth i leddfu poen neu atal y broblem dan sylw rhag dirywio'n sylweddol.
Lle bo hynny'n briodol, dylai gofal brys ddarparu ateb hirdymor a gall gynnwys triniaeth barhaol, fel triniaethau adferol, gyda'ch cydsyniad. Efallai y cewch eich atgyfeirio ymlaen os bydd angen gofal pellach arnoch.
Asesiad claf newydd
Asesiad claf newydd: £27.21
Mae asesiad claf newydd yn cynnwys asesiad iechyd a chlinigol cynhwysfawr, gan gynnwys archwiliad o feinweoedd meddal a sganiau pelydr-X lle bo hynny'n briodol.
Mae hefyd yn cynnwys gofal ataliol fel:
- Hylendid geneuol a chyngor deietegol
- Cymorth i leihau ffactorau risg fel ysmygu, alcohol a siwgr
- Gosod fflworid ar wyneb y dannedd
- Presgripsiwn past dannedd fflworid crynodiad uchel
- Selyddion rhychau ar gyfer pydredd enamel lle bo hynny'n briodol yn glinigol
Apwyntiadau adalw
Adalw: £25.00 yr ymweliad
Rhaid i archwiliadau adalw ddilyn canllawiau NICE a bod yn seiliedig ar eich lefel risg unigol.
Rhaid i'ch deintydd gofnodi eich ysbaid adalw a monitro eich iechyd geneuol i sicrhau eich bod yn aros ar y llwybr adalw mwyaf priodol.
Pecynnau gofal
Mae pecynnau gofal yn grwpio triniaethau cysylltiedig gyda'i gilydd ac maent yn seiliedig ar eich angen clinigol. Mae'r mathau o becynnau gofal, yr hyn y maent yn ei gynnwys, a'r ffioedd cysylltiedig wedi'u nodi isod:
Pecyn gofal adferol syml: £36.03
Mae'n cynnwys llenwadau, coronau dros dro, coronau Hall ac echdynnu hyd at gyfanswm o 4 dant.
Pecyn gofal adferol helaeth: £68.75
Mae'n cynnwys yr un triniaethau â'r pecyn adferol syml ar gyfer rhwng 5 ac 8 dant.
Pecyn gofal periodontol: £48.53
Ar gyfer cleifion â chlefyd y deintgig sy'n gallu ymgysylltu â thriniaeth. Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd hylendid geneuol wedi'i deilwra a dileu plac
Pecyn gofal dannedd gosod: £86.40
Mae'n cynnwys dannedd gosod uchaf ac isaf.
Nid yw ffioedd labordy wedi'u cynnwys a rhaid ichi eu talu ar wahân oni bai eich bod wedi'ch eithrio rhag ffioedd deintyddol y GIG.
Pecyn gofal sefydlogi: £75.00
Ar gyfer cleifion â phydredd dannedd helaeth (effeithir ar 7 neu ragor o ddannedd).
Mae'n cynnwys echdyniadau, gofal ataliol, triniaethau adferol, a chymorth ar gyfer clefyd y deintgig
Pecyn gofal sianel y gwreiddyn ar gyfer dannedd blaen: £91.18
Triniaeth sianel y gwreiddyn ar gyfer hyd at ddau ddant blaen (dannedd 1–3)
Pecyn gofal sianel y gwreiddyn ar gyfer dannedd ôl: £182.72
Triniaeth sianel y gwreiddyn ar gyfer hyd at ddau ddant ôl neu ogilddant.
Nid yw ffioedd labordy wedi'u cynnwys a rhaid ichi eu talu ar wahân oni bai eich bod wedi'ch eithrio.
Pecyn gofal coronau a phontydd, mewnosodiadau, arosodiadau ac argaenau: £140.44
Mae'n cynnwys:
- Hyd at ddwy goron, neu
- Bont â hyd at dair uned, neu
- Bont gantilifrog sengl a choron sengl wedi'u darparu gyda'i gilydd
Nid yw triniaethau adferol dros dro a ffioedd labordy wedi'u cynnwys a rhaid ichi eu talu ar wahân oni bai eich bod wedi'ch eithrio.
Pecyn gofal amrywiol: £25.00
Ar gyfer triniaethau sy'n dod y tu allan i becynnau gofal eraill neu'r tu allan i'r cyfnod gwarant. Gallai hyn gynnwys:
- Atgyweirio, ychwanegu neu ail-leinio dannedd gosod
- Addasu dannedd gosod
- Modelau astudio
- Cyfarpar codi brathiad
- Biopsi
- Atgyweirio neu ailsmentio coron, pont neu argaen
- Tynnu pwythau
- Trin heintiau
- Materion brys orthodontig
- Rheoli gwaedu neu soced sych
Nid yw ffioedd labordy wedi'u cynnwys a rhaid ichi eu talu ar wahân oni bai eich bod wedi'ch eithrio.
Hawlio ad-daliad ar gyfer ffioedd deintyddol y GIG
Defnyddiwch yffurflen hon i hawlio ad-daliad ar gyfer ffioedd deintyddol os oes gennych hawl i gael cymorth gyda chostau gofal iechyd. Defnyddiwch y gwiriwr ar-lein i weld a ydych yn gymwys.
