Neidio i'r prif gynnwy

Darganfyddwch a ydych yn gymwys i gael cymorth gyda chostau’r GIG drwy’r Cynllun Incwm Isel a sut i gael tystysgrif.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Os oes gennych hawl i gael triniaeth y GIG a’ch bod yn bodloni amodau penodol, fe allech gael cymorth gyda chostau:

  • triniaeth ddeintyddol y GIG
  • profion llygaid
  • sbectolau a lensys cyffwrdd
  • teithio angenrheidiol i ac o’r ysbyty am driniaeth y GIG o dan ofal meddyg ymgynghorol yn yr ysbyty

I ddarganfod a all y cynllun eich helpu chi, ewch i’r gwiriwr ar-lein neu llenwch ffurflen HC1W. 

Rydych yn gymwys i wneud cais cyn belled nad yw gwerth eich cynilon, eich buddsoddiadau neu’ch eiddo (ac eithrio’r cartref lle rydych yn byw) yn fwy na:

  • £24,000 i bobl sy’n byw yn barhaol mewn cartref gofal
  • £16,000 i bawb arall

Nodwch nad yw’r Cynllun Incwm Isel yn rhoi’r hawl yn awtomatig ichi gael triniaeth y GIG. Mae’n helpu pobl sydd â hawl i gael triniaeth y GIG gyda chostau penodol.

Tystysgrifau Cynllun Incwm Isel

 Os ydych yn gymwys i gael cymorth byddwch yn cael tystysgrif y GIG:

  • Mae tystysgrif HC2W yn rhoi’r hawl ichi gael cymorth llawn gyda chostau iechyd
  • Mae tystysgrif HC3W yn rhoi’r hawl ichi gael cymorth rhannol gyda chostau iechyd

Mae’r dystysgrif yn nodi beth sy’n cael ei gynnwys ac am ba hyd y bydd yn ddilys.

Y cynllun incwm isel a phlant

Ni fydd plant wedi’u cynnwys yn asesiad Cynllun Incwm Isel y GIG. Bydd angen ichi hawlio Credydau Treth Plant gan CaThEM.

 

Os ydych chi angen cymorth ar frys

Os ydych chi angen cymorth ar frys gyda chostau iechyd cyn ichi gael unrhyw fudd-daliadau yr ydych yn gymwys i’w cael, gwnewch gais ar wahân ar ffurflen HC1W.

Os nad ydych eisiau oedi eich triniaeth GIG, trwsio sbectol neu gael sbectol newydd, efallai y bydd rhaid ichi dalu, a hawlio ad-daliad yn ddiweddarach.

 

 

Os ydych chi angen unrhyw gymorth pellach, cysylltwch ag:

Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG

Rhif ffôn: 0300 330 1343 neu 0191 279 0565 (Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg)

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Oriau agor: 8am tan 6pm dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 3pm ar ddydd Sadwrn.