Neidio i'r prif gynnwy

Sut y gallwch gael mynediad i apwyntiadau arferol ac argyfwng gyda deintydd GIG Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Os ydych eisoes yn glaf mewn practis deintyddol GIG, ffoniwch nhw'n uniongyrchol am unrhyw apwyntiadau deintyddol arferol neu argyfwng.

Os nad oes gennych ddeintydd GIG Cymru ar hyn o bryd ac mae arnoch angen:

Os ydych yn gymwys a'ch bod yn gwneud cais, byddwn yn cysylltu â chi pan ddaw lle addas ar gael.

Mae'r porth mynediad deintyddol yn galluogi pobl nad oes ganddynt ddeintydd GIG i gofrestru eu diddordeb ar gyfer gofal deintyddol arferol. Bydd byrddau iechyd yn dyrannu lleoedd mewn practisau deintyddol ledled Cymru i bobl ar y gofrestr pan fyddant ar gael. Mae'r gwasanaeth newydd wedi'i ddylunio a'i adeiladu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW).

I fod yn gymwys i wneud cais drwy'r porth mynediad deintyddol i chi'ch hun, mae'n rhaid i chi:

  • bod yn 16 oed neu'n hŷn
  • heb dderbyn triniaeth ddeintyddol arferol y GIG yng Nghymru yn ystod y 4 blynedd diwethaf
  • byw mewn cyfeiriad yng Nghymru am fwy na 6 mis o'r flwyddyn neu fynychu practis meddyg teulu yng Nghymru

Gallwch hefyd ddefnyddio'r porth mynediad deintyddol i gofrestru ar ran eraill, fel aelod o'r teulu. Mae hyn yn cynnwys:

  • rhywun o dan 16 oed
  • ffrind
  • cymydog
  • rhywun rydych chi'n gofalu amdano
  • rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo

Bydd y gwasanaeth cenedlaethol newydd hwn yn rhoi darlun clir i Lywodraeth Cymru, GIG Cymru a sefydliadau partner o raddfa'r galw am wasanaethau deintyddol y GIG er mwyn gwella canlyniadau cleifion.