Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Esbonio nod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a'r sefydliadau dan sylw.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Deddf Cydraddoldeb 2010: Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diogelu pobl rhag gwahaniaethu ar sail:
- oedran
- anabledd
- ailbennu rhywedd
- priodas a phartneriaeth sifil
- beichiogrwydd a mamolaeth
- hil
- crefydd neu gred
- rhyw
- cyfeiriadedd rhywiol
Cyfeirir at y categorïau hyn fel y 'nodweddion gwarchodedig'.
Mae Deddf 2010 hefyd yn cyflwyno Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, sydd â thri nod cyffredinol. Mae'n rhaid i'r rhai sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd roi sylw dyledus i'r angen i wneud y canlynol:
- dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon ac ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf
- hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phobl sydd heb nodwedd o'r fath
- meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phobl sydd heb nodwedd o'r fath
Nod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yw sicrhau bod y rhai sy'n ddarostyngedig iddi yn ystyried hyrwyddo cydraddoldeb yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd. Yn achos Llywodraeth Cymru mae hyn yn cynnwys llunio polisïau a darparu gwasanaethau, ac mewn perthynas â chyflogeion.
Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 (Rheoliadau 2011)
Yng Nghymru, mae rhai cyrff cyhoeddus hefyd yn ddarostyngedig i ddyletswyddau penodol sydd i’w gweld yn Rheoliadau 2011 a elwir yn ddyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru. Nod y dyletswyddau hyn yw galluogi’r sefydliadau i weithredu’r Ddyletswydd yn well drwy fynnu, er enghraifft, cyhoeddi amcanion cydraddoldeb ynghyd ag asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb, gofynion ymgysylltu, adroddiadau cynnydd, casgliadau data a mwy.
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gweithredu fel rheoleiddiwr er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a chyflawni’r camau sy’n cefnogi’r Ddyletswydd. Mae gwybodaeth am ei rôl reoleiddio, cyfrifoldebau a phwerau unioni i'w gweld yn Nyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ar wahân i‘r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol. Mae gwybodaeth am y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol a'r sefydliadau sy'n ddarostyngedig iddi (sy'n wahanol i'r rhestr o sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus) i'w gweld ar Dyletswydd Gymdeithasol-economaidd: trosolwg.
Sefydliadau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Mae Gweinidogion Cymru yn darparu diweddariadau cynnydd rheolaidd ar waith sy'n cael ei wneud i gydymffurfio â’r Ddyletswydd gan Gyrff Cyhoeddus yng Nghymru a Chyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru sy'n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i gyflawni eu dyletswyddau. Mae'r rhain yn cynnwys:
Llywodraeth Cymru
- Prif Weinidog Cymru
- Gweinidogion Cymru
- Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru
Cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru
- Cyngor Celfyddydau Cymru
- Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Amgueddfa Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cymwysterau Cymru
- Chwaraeon Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol
Byrddau Iechyd Lleol
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Ymddiriedolaethau’r GIG
Llais – Eich llais mewn iechyd a gofal cymdeithasol
Mae Llais yn gorff annibynnol sy’n:
- ymwneud ag aelodau o’r cyhoedd
- cynrychioli llais pobl i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol
- darparu eiriolaeth a chymorth cyfrinachol am ddim ar gyfer cwynion
Llywodraeth Leol
Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol.
- Blaenau Gwent
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerdydd
- Sir Gaerfyrddin
- Caerffili
- Ceredigion
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Gwynedd
- Ynys Môn
- Merthyr
- Sir Fynwy
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Sir Benfro
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Torfaen
- Cyngor Bro Morgannwg
- Wrecsam
Mae 4 partneriaeth ranbarthol neu Gyd-bwyllgor Corfforedig lle mae sefydliadau Llywodraeth Leol wedi dewis cydweithio er budd pawb.
- Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth
- Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd
- Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain
- Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin
Er eu bod wedi'u cynnwys o fewn Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, nid oes ganddynt wefan eu hunain. Gellir cael gwybodaeth am eu gweithgareddau drwy gysylltu â'r Awdurdodau Lleol perthnasol
Awdurdodau tân ac achub
- Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
- Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Sefydliadau Addysgol
- Cyngor y Gweithlu Addysg (Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru gynt)
- Estyn Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru
- Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
- Cymwysterau Cymru
Awdurdodau cyhoeddus eraill
- Archwilio Cymru
- Archwilydd Cyffredinol Cymru
- Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
- Gofal Cymdeithasol Cymru
- Awdurdod Cyllid Cymru
Comisiynwyr Cymru
Prifysgolion Cymru
- Prifysgol Aberystwyth
- Prifysgol Bangor
- Prifysgol Metropolitan Caerdydd
- Prifysgol Caerdydd
- Prifysgol Abertawe
- Prifysgol De Cymru
- Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
- Prifysgol Glyndwr Wrecsam
Sefydliadau Addysg Bellach
- Coleg Penybont
- Coleg Caerdydd a'r Fro
- Coleg Cambria
- Coleg Gwent
- Coleg Sir Gar
- Coleg y Cymoedd
- Coleg Gŵyr Abertawe
- Grŵp Llandrillo Menai
- Grŵp Colegau NPTC
- Coleg Sir Benfro
- Coleg Catholig Dewi Sant
- Y Coleg Merthyr Tudful
Sefydliadau’r DU sy’n cwmpasu Cymru a Lloegr
Sefydliadau trawsffiniol (ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr): Awdurdodau trawsffiniol Cymru
- Asiantaeth yr Amgylchedd
- Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG
- Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG
- Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr
Mae sawl sefydliad ar draws y DU sy'n gweithredu yng Nghymru, nad ydynt yn rhan o Adroddiad Gweinidogion Cymru gan eu bod yn gweithredu ar lefel y DU.