Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch rhaglen brechu COVID-19 hyd at 8 ChMawrth 2022.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Beth sy’n newydd ers y diweddariad diwethaf?

Ar 16 Chwefror 2022, cyhoeddodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) ei argymhellion i ehangu’r rhaglen brechu COVID-19 ymhellach i blant pump i 11 oed, nad ystyrir bod ganddynt risg glinigol.

Mae’r JCVI yn argymell hyn fel cynnig rhagofalol gyda’r nod o gynyddu imiwnedd y grŵp oedran hwn cyn unrhyw donnau posibl o COVID-19 yn y dyfodol. Bydd hyn hefyd yn galluogi plant i elwa ar gymaint o amser â phosibl yn yr ysgol.

Ar 21 Chwefror 2022, cyhoeddodd y JCVI ddatganiad, sy’n argymell y dylai’r unigolion mwyaf agored i niwed gael dos atgyfnerthu ychwanegol yn y Gwanwyn.

Mae’r Pwyllgor wedi argymell y dylai’r bobl ganlynol gael ail ddos atgyfnerthu yn y Gwanwyn, fel strategaeth ragofalol:

  • oedolion 75 oed a throsodd
  • preswylwyr mewn cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn
  • unigolion 12 oed a throsodd sydd â system imiwnedd wan (fel y diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd)

Mae byrddau iechyd eisoes yn bwriadu cynnig y brechlyn i bob plentyn 5 i 11 oed o ganol mis Mawrth ymlaen, a byddant hefyd yn ystyried yr angen i flaenoriaethu brechiad atgyfnerthu y Gwanwyn ar gyfer y bobl fwyaf agored i niwed yn ystod y cyfnod hwn.

Mae ein system aildrefnu ar-lein yn fyw, ac yn cael ei integreiddio i gynlluniau brechu COVID-19 byrddau iechyd. Dyma ddull arall gan y byrddau iechyd i bobl allu cysylltu i aildrefnu eu hapwyntiad os nad yw’r un sydd wedi’i roi iddynt yn gyfleus. Mae mwy na 500 o bobl wedi llwyddo i ddefnyddio’r system hyd yma. Bydd llinellau ffôn yn parhau i fod ar gael gan fyrddau iechyd i bobl nad ydynt yn derbyn neges destun i aildrefnu, neu sydd heb fynediad at y gwasanaeth aildrefnu ar-lein.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am newid neu aildrefnu eich apwyntiad

Ar 24 Chwefror 2022, cyhoeddwyd ein strategaeth frechu COVID-19 ar gyfer 2022, yn amlinellu sut y bydd y rhaglen frechu’n parhau i ddiogelu’r bobl fwyaf agored i niwed ac yn diogelu Cymru.

Mae’r amcanion a’r blaenoriaethau a amlinellir yn y strategaeth newydd yn cynnwys:

  • Ffocws parhaus ar 'adael neb ar ôl', gydag addewid i sicrhau nad yw hygyrchedd yn ffactor sy’n dylanwadu ar y niferoedd sy’n cael eu brechu
  • Bydd byrddau iechyd yn parhau i gynnig gwasanaeth brechu pwrpasol ar gyfer eu cymunedau lleol
  • Byddwn yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a GIG Cymru i wneud yn siŵr bod gwybodaeth am frechu ar gael yn hawdd ac wedi’i theilwra yn ôl oedran ac amgylchiadau
  • Bydd ein gwasanaeth aildrefnu ar-lein yn darparu ffordd gyfleus i bobl aildrefnu apwyntiadau.
  • Gallwch ddarllen ein Strategaeth ddiweddaraf yma:

Strategaeth frechu COVID-19

Gadael neb ar ôl

Gall unrhyw un sydd eisiau derbyn y cynnig o bigiad atgyfnerthu, dos cyntaf neu ail ddos wneud hynny o hyd. Os na lwyddoch i fynd i’ch apwyntiad gwreiddiol, gallwch fynd nawr. Mae sesiynau galw heibio ar gael ledled Cymru ar gyfer pigiadau atgyfnerthu, dos cyntaf neu ail ddos. Mae manylion y byrddau iechyd ar gael yma: Cael eich brechlyn COVID-19

Mae’r brechlyn yn cynnig amddiffyniad da, ac mae werth ei gael hyd yn oed os ydych wedi cael COVID. Y rheswm am hyn yw oherwydd gall y lefel o amddiffyniad sydd gan bobl ar ôl cael y feirws amrywio, yn dibynnu ar ba mor ysgafn neu ddifrifol oedd eu salwch, faint o amser sydd ers iddynt gael yr haint, a’u hoedran. Ond gwyddom fod y brechlyn, yn arbennig y brechlyn atgyfnerthu, yn cynnig amddiffyniad da. 

Mae’n fwy tebygol y bydd pobl sydd heb eu brechu angen gofal critigol mewn ysbytai oherwydd COVID, gan gynnwys yr amrywiolyn Omicron, a gan amlaf, mae eu canlyniadau’n waeth na’r rheini sydd wedi’u brechu.

Gall timau brechu ateb unrhyw gwestiynau allai fod gennych am y brechlyn, a’ch cefnogi wrth gael eich brechu. Mae gan y rhan fwyaf o ganolfannau brechu ardaloedd tawel i bobl eistedd wrth aros, ac mae nyrsys arbenigol ar gael yn llawer o’r canolfannau hyn i helpu’r rheini sydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol.

Statws brechu COVID-19

O 18 Chwefror 2022 ymlaen, nid oes angen i chi ddangos pàs COVID y GIG i fynd i ddigwyddiadau dan do nac yn yr awyr agored, na lleoliadau fel sinemâu, theatrau a chlybiau nos. Ond bydd dal angen pàs COVID arnoch i deithio dramor.

Mae’r Pàs COVID yn cadarnhau eich statws brechu neu’n dangos eich bod chi wedi cael canlyniad prawf llif unffordd negatif o fewn y 24 awr ddiwethaf. Os ydych wedi eich cofrestru gyda meddyg teulu yn y DU, wedi cael eich brechu yng Nghymru neu Loegr ac yn 16 oed neu hŷn, gallwch gael Pàs COVID digidol y GIG.

I gael gafael ar y Pàs COVID gan ddefnyddio ffôn clyfar, cyfrifiadur neu liniadur, defnyddiwch y ddolen hon https://covid-status.service.nhsx.nhs.uk/ 

Bydd rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar gael gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol agos. Mae canllawiau presennol y Pàs COVID i’w gweld yn: https://llyw.cymru/pas-covid-y-gig-dangoswch-eich-statws-brechu

Eithriadau meddygol 

Yn dilyn trafodaethau gyda chynghorwyr clinigol a moesegol, rydym wedi cytuno ar y diffiniad canlynol ar gyfer pobl yr ystyrir eu bod wedi’u heithrio’n feddygol rhag cael y brechlyn COVID-19 a rhag gwneud prawf llif unffordd at ddibenion defnyddio’r Pàs COVID domestig.

Ystyrir y bydd pobl wedi’u heithrio’n feddygol os ydynt:

  1. Wedi cael adwaith anaffylacsis systemig blaenorol i’r brechlyn COVID ac nid ydynt yn gallu cael brechlyn arall drwy’r llwybr a’r gwasanaeth cyfeirio cenedlaethol ar gyfer alergedd.
  2. Wedi cael adwaith anaffylacsis blaenorol i unrhyw gydran (llenwydd) o’r brechlyn COVID ac nid ydynt yn gallu cael brechlyn arall drwy’r llwybr a’r gwasanaeth cyfeirio cenedlaethol ar gyfer alergedd.
  3. Wedi cael digwyddiad andwyol difrifol yn gysylltiedig â’r brechlyn COVID a arweiniodd atynt yn gorfod mynd i’r ysbyty a phan nad oes brechlyn arall ar gael iddynt, fel yr aseswyd gan y gwasanaeth cyfeirio cenedlaethol.
  4. Wedi cofrestru fel rhywun sydd ag anabledd dysgu difrifol neu awtistiaeth ddifrifol, wedi cael eu hasesu gan wasanaeth dysgu ac anabledd bwrdd iechyd fel rhai na all gael brechlyn ar ôl addasiadau rhesymol ac y mae datganiadau lles pennaf wedi’u llunio ar eu cyfer ar y cyd â nhw eu hunain, eu teulu neu eu gofalwyr a’r gwasanaeth dysgu ac anabledd.
  5. Yn methu â gwneud prawf llif unffordd yn feddygol. Gallai hyn gynnwys pobl sydd ag annormaleddau difrifol yn y trwyn a’r gwddf, anableddau dysgu difrifol gydag ymddygiad heriol neu alergedd i ddeunyddiau a ddefnyddir mewn swabiau ar gyfer profion llif unffordd. Bydd angen i hyn gael ei gadarnhau gan glinigydd.

Bydd GIG Cymru yn cysylltu â’r bobl sydd yn y tri chategori cyntaf yn awtomatig a byddant yn cael llythyr yn cadarnhau eu bod wedi’u heithrio.

Bydd gwasanaethau anableddau dysgu yn ardal eu bwrdd iechyd yn cysylltu â’r bobl sydd yng nghategori pedwar i drafod a ellir gwneud addasiadau rhesymol pellach cyn penderfynu rhoi eithriad.

Bydd angen i bobl sydd yng nghategori pump lenwi’r ffurflen hon ar wefan Llywodraeth Cymru, gan gynnwys manylion eu clinigydd a all gadarnhau eu bod wedi’u heithrio’n feddygol. Yna, bydd eu hachos yn cael ei ystyried gan glinigwyr annibynnol.

Os na chysylltir â phobl sy’n credu eu bod wedi’u heithrio’n feddygol erbyn diwedd mis Mawrth ac sy’n credu eu bod yn gymwys o dan un o’r categorïau a restrir, gallant wneud cais am eithriad drwy ddefnyddio’r ffurflen ar wefan Llywodraeth Cymru neu drwy gysylltu â’u bwrdd iechyd.

Ni fydd eithriadau meddygol yn gymwys i’r Pàs COVID ar gyfer teithio rhyngwladol gan fod y meini prawf mynediad ar gyfer y wlad y mae pobl yn teithio iddi, yn cael eu pennu gan y wlad honno ac nid y DU. Dylai unrhyw un sy’n teithio y tu allan i’r DU edrych ar y meini prawf ar gyfer y wlad y maent yn teithio iddi cyn gwneud trefniadau teithio ac, unwaith eto, cyn teithio, gan y gall gofynion mynediad newid ar fyr rybudd.

Pwy sy’n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Mae canllaw ar gyfer pwy sy’n gymwys ar gyfer y brechlyn, gan gynnwys faint o amser i aros rhwng y dosau, wedi cael ei gyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma.

Crynodeb o’n cynnydd cyffredinol:

  • Mae cyfanswm o fwy na 6.8 miliwn dos o frechlynnau wedi'u rhoi yng Nghymru
  • Mae mwy na 2.52 miliwn o bobl wedi cael eu dos cyntaf ac mae mwy na 2.38 miliwn o bobl wedi cael o leiaf 2 ddos
  • Mae mwy na 1.9 miliwn o bobl wedi cael y brechiad atgyfnerthu, gyda dros 71% o bobl 12 oed a throsodd a mwy na 86% o bobl dros 50 oed wedi cael y brechiad atgyfnerthu

Rhagor o wybodaeth

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru Gwestiynau Cyffredin ynglŷn â’r brechlyn a diogelwch. Mae hefyd yn cyhoeddi datganiadau gwyliadwriaeth dyddiol ac wythnosol.

Mae gwybodaeth am sut i gael eich brechlyn ar gael yma: Cael eich brechlyn COVID-19

Mae amrywiaeth o wybodaeth am ein rhaglen frechu ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys canllawiau yn ymwneud â'r grwpiau blaenoriaeth. 

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.