Neidio i'r prif gynnwy

Cymhwystra ar gyfer y rhaglen brechu rhag COVID-19

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ymgyrch brechiadau atgyfnerthu COVID-19 gwanwyn 2024

Mae cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn argymell y bydd brechiad atgyfnerthu ychwanegol COVID-19 yn cael ei gynnig i'r canlynol yn ystod y gwanwyn:

  • oedolion 75 oed a hŷn
  • pobl sy’n byw mewn cartref gofal i oedolion hŷn
  • unigolion 6 mis oed a hŷn sydd ag imiwnedd gwan, fel y'u diffinnir yn nhabl 3 neu 4 yn y Llyfr Gwyrdd.

Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylid cynnig dos y gwanwyn tua 6 mis ar ôl dos diwethaf y brechlyn. Bydd pob unigolyn cymwys yn cael gwahoddiad i apwyntiad gan ei fwrdd iechyd lleol.

Ymgyrch pigiadau atgyfnerthu COVID-19 hydref 2023

Mae'r ymgyrch pigiadau atgyfnerthu COVID-19 hydref 2023 bellach wedi dod i ben (31 Mawrth 2024).

Mae cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn argymell y bydd pigiad atgyfnerthu ychwanegol COVID-19 yn ystod yr hydref yn cael ei gynnig i’r canlynol:

  • preswylwyr cartrefi gofal i oedolion hŷn 
  • pob oedolyn 65 oed a hŷn 
  • unigolion rhwng 6 mis a 64 oed sydd mewn grŵp risg clinigol, fel y'i diffinnir yn nhabl 3 a 4 y bennod ar COVID-19 yn y Llyfr Gwyrdd
  • gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen 
  • unigolion rhwng 12 a 64 oed sy'n gysylltiadau cartref, fel y'u diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd, i bobl ag imiwnedd gwan 
  • pobl rhwng 16 a 64 oed sy'n ofalwyr, fel y'u diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd, a staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn

Bydd pob unigolyn sy’n gymwys yn cael gwahoddiad i apwyntiad gan eu bwrdd iechyd lleol.

Cynnig y cwrs sylfaenol dau ddos o’r brechlyn COVID-19

Mae cwrs sylfaenol cyffredinol o frechlyn, a gynigir i unigolion 12 oed a throsodd a'r rhai mewn grŵp risg clinigol rhwng 6 mis ac 11 oed, bellach wedi dod i ben (30 Mehefin 2023). 

Manylion cyswllt y byrddau iechyd lleol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro 

E-bost: cvuhb.massimms@wales.nhs.uk 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

E-bost: CTM.VaccinationEnquiries@wales.nhs.uk

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

E-bost: COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

E-bost: Powys.covidvacc@wales.nhs.uk

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe