Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch rhaglen brechu COVID-19 hyd at 16 Tachwedd 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Beth sy’n newydd ers y diweddariad diwethaf?

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), wedi gwneud dau gyhoeddiad, y bydd ein GIG yn gweithio i’w rhoi ar waith yn gyflym.

I ddechrau, ar ôl trafod ac ystyried y dystiolaeth, mae’r JCVI wedi argymell y dylid cynnig ail ddos o’r brechlyn COVID-19 Pfizer-BioNTech i bobl ifanc 16-17 mlwydd oed nad ydynt mewn grŵp ‘risg uwch’.

Edrychodd y JCVI ar risgiau a manteision allweddol cynnig ail ddos i bobl ifanc 16-17 oed. Wrth wneud eu penderfyniad, ystyriwyd bod ail ddos yn cynnig amddiffyniad hirach rhag COVID-19, ac yn lleihau’r risg o haint a salwch difrifol, derbyniadau i’r ysbyty a derbyniadau i unedau gofal dwys ymhellach. Cafodd y manteision hyn eu cydbwyso â data sy’n dangos digwyddiadau niweidiol prin iawn ar ôl brechiadau mewn pobl ifanc. 

Mae’r JCVI yn argymell rhoi’r ail ddos o frechlyn 12 wythnos neu ragor ar ôl y dos cyntaf. I’r bobl ifanc sydd wedi cael haint COVID-19 ar unrhyw adeg ar ôl cael eu dos cyntaf o frechlyn, dylid rhoi’r ail ddos o frechlyn 12 wythnos neu ragor ar ôl yr haint COVID-19. 

Byddwn yn sicrhau bod amryw o ffynonellau gwybodaeth ar gael i bobl ifanc wneud dewis gwybodus am y brechlyn.

Yn ail, mae’r JCVI wedi ystyried a ddylid rhoi pigiadau atgyfnerthu i grwpiau blaenoriaeth pellach sydd o dan 50 oed ac ddim yn grŵp ‘risg uwch’. Yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, mae’r Pwyllgor wedi argymell y dylid cynnig pigiad atgyfnerthu COVID-19 Pfizer-BioNTech neu Moderna i’r rheini sy’n 40-49 oed, os oes 6 mis wedi pasio ers eu hail ddos. 

Byddant yn gwneud penderfyniad ynglŷn â chynnig pigiad atgyfnerthu COVID-19 i bobl 18-39 oed yn nes ymlaen, pan ddaw rhagor o dystiolaeth i law i ddangos a yw effaith y brechlynnau’n gwanhau yn y grŵp hwn. Oherwydd y bydd y rhan fwyaf o oedolion ifanc wedi cael ail ddos y brechlyn ar ddiwedd yr haf neu ar ddechrau’r hydref, bydd ganddynt lefel uchel o amddiffyniad o hyd.  

Does dim angen cysylltu â’r GIG neu’r gwasanaethau iechyd i wirio a oes gennych apwyntiad, byddwch yn cael eich gwahodd yn awtomatig i gael eich ail ddos neu’ch pigiad atgyfnerthu pan ddaw eich tro.

Pam ddylwn i gael y brechlyn COVID-19?

Mae brechlynnau o fudd i’r bobl sy’n cael eu brechu ac maent hefyd yn cael effaith anuniongyrchol sydd o fudd i’r boblogaeth ehangach. Wrth i fwy o bobl gael eu brechu rydym yn lleihau’r tebygolrwydd y daw pobl i gysylltiad â rhywun sydd wedi’i heintio. 

Mae’n wir y bydd rhai pobl yn cael COVID-19 er eu bod wedi’u brechu, ond bydd yr haint yn llai difrifol. Bydd y brechlyn yn helpu i’ch diogelu rhag salwch difrifol, cael eich derbyn i’r ysbyty a marwolaeth.  

Dylech gael eich brechu hyd yn oed os ydych wedi cael COVID-19. Nid ydym yn gwybod am ba hyd y bydd yr ymateb imiwnedd yn parhau yn y rheini sydd wedi cael y clefyd, ond mae ymchwil yn awgrymu bod imiwnedd yn lleihau’n gyflymach ar ôl heintio nag ar ôl brechu. 

Pan fyddwch yn cael y brechlyn COVID-19, byddwch yn cyfrannu at yr ymdrechion i leihau’r nifer o farwolaethau a derbyniadau i’r ysbyty. Mae sawl astudiaeth o effeithiolrwydd brechlynnau wedi’u cynnal yn y DU sy’n awgrymu bod dau ddos o’r brechlyn hyd at 95% yn effeithiol o ran atal salwch difrifol gan gynnwys o’r amrywiolyn Delta, gyda lefelau uchel o amddiffyniad yn erbyn salwch difrifol, derbyn i’r ysbyty a marwolaeth.

Statws brechu COVID-19

O 11 Hydref ymlaen, mae’r Pàs Covid yn orfodol i bawb sy’n mynd i’r lleoliadau canlynol:

  • clybiau nos a lleoliadau tebyg
  • digwyddiadau dan do heb seddi ar gyfer mwy na 500 o bobl. Byddai hyn yn cynnwys confensiynau a chyngherddau
  • digwyddiadau awyr agored heb seddi ar gyfer mwy na 4,000 o bobl
  • unrhyw leoliad neu ddigwyddiad sy’n cynnwys mwy na 10,000 o bobl, fel gêm rygbi neu bêl-droed

O ddydd Llun 15 Tachwedd, bydd angen Pàs Covid hefyd i fynd i

  • sinemâu
  • theatrau
  • neuadd cyngerdd

Mae’r Pàs Covid yn cadarnhau eich statws brechu neu’n dangos eich bod chi wedi cael canlyniad prawf llif unffordd negatif o fewn y 48 awr diwethaf. Os ydych wedi eich cofrestru gyda meddyg teulu yn y DU, wedi cael eich brechu yng Nghymru neu Loegr ac yn 16 oed neu hŷn, gallwch gael Pàs Covid digidol y GIG.

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau i randdeiliaid drwy’r ddolen ganlynol: https://llyw.cymru/pas-covid-canllawiau-ar-gyfer-busnesau-digwyddiadau-html

I gael gafael ar y Pàs COVID gan ddefnyddio ffôn clyfar, cyfrifiadur neu liniadur, defnyddiwch y ddolen hon https://covid-status.service.nhsx.nhs.uk/

Bydd rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar gael gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol agos. Mae canllawiau presennol y Pàs Covid i’w gweld yn: https://llyw.cymru/pas-covid-y-gig-dangoswch-eich-statws-brechu

Pwy sy’n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Rydym yn rhoi’r brechlynnau fel a ganlyn:

  • Dos cyntaf i bawb sy’n 12 oed a hŷn sydd heb eu brechu, fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl
  • Ail ddos i bawb sy’n gymwys, sydd nawr yn cynnwys gwahoddiadau i unigolion 16 a 17 oed
  • Trydydd dos sylfaenol i unigolion imiwnoataliedig iawn
  • Dosau atgyfnerthu i’r rhai sy’n gymwys 

Wrth i ni barhau i weithredu ar egwyddor o adael neb ar ôl, mae'r GIG yn parhau i fynd yn ôl a chynnig brechiad i’r rhai nad ydynt wedi manteisio ar eu cynnig eto.

Crynodeb o’n cynnydd cyffredinol:

  • Mae cyfanswm o fwy na 5.38 miliwn dos o frechlynnau wedi'u rhoi yng Nghymru
  • Mae mwy na 2.45 miliwn o bobl wedi cael eu dos cyntaf ac mae mwy na 2.25 miliwn o bobl wedi cael eu cwrs llawn o’r brechlyn
  • Mae mwy na 36,000 o bobl sy’n imiwnoataliedig iawn wedi cael eu trydydd dos sylfaenol
  • Mae 78.4% o oedolion 18 i 29 oed a 78.9% o oedolion 30 i 39 oed wedi cael eu dos cyntaf
  • Mae 75.5% o bobl ifanc 16 ac 17 oed wedi cael eu dos cyntaf ac mae 50% o bobl ifanc 12 i 15 oed wedi cael eu dos cyntaf
  • Mae mwy na 637,000 o bobl wedi cael dos atgyfnerthu
  • Mae 76% o breswylwyr cartrefi gofal a 60.1% o staff cartrefi gofal a 73.7% o oedolion dros 80 oed wedi cael eu dos atgyfnerthu

Rhagor o wybodaeth

Y brechlyn yw'r ffordd orau o hyd o atal salwch difrifol a lledaeniad COVID-19 ac anogir pawb i fanteisio ar y cynnig o frechlyn. 

Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn COVID-19 a beichiogrwydd ar gael yma: Brechu COVID-19 a beichiogrwydd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Mae gwybodaeth am sut i gael eich brechlyn yma: Cael eich brechlyn COVID-19 

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru dudalen Cwestiynau Cyffredin ddefnyddiol ar eu gwefan am y brechlyn a diogelwch, ac maent hefyd yn cyhoeddi datganiadau monitro data dyddiol ac wythnosol

Mae amrywiaeth o wybodaeth am ein rhaglen frechu ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys canllawiau yn ymwneud â'r grwpiau blaenoriaeth. 

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.