Dim hawl i gael arian cyhoeddus (NRPF): canllawiau
Canllawiau i helpu gwasanaethau lleol i gefnogi pobl nad oes ganddynt hawl i gael arian cyhoeddus.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Cyhoeddasom y ddogfen Cenedl Noddfa: Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches ym mis Ionawr 2019. Mae’r cynllun yn nodi ein hymrwymiad i wella canlyniadau i’r holl bobl sy’n ceisio lloches, gan gynnwys y rhai heb hawl i arian cyhoeddus, neu NRPF. Ers cyhoeddi’r cynllun, mae grwpiau eraill o fewnfudwyr wedi wynebu problemau o ran sicrhau neu brofi eu statws mewnfudo, gan ddioddef amrywiaeth o effeithiau negyddol o ganlyniad.
Mae’r cyfyngiadau ‘heb hawl i arian cyhoeddus’ yn gymwys i amrywiaeth fawr o bobl gan gynnwys gweithwyr noddedig â sgiliau, aelodau o deuluoedd dinasyddion Prydeinig, buddsoddwyr, ceiswyr lloches a mudwyr annogfenedig. O fis Ionawr 2021 ymlaen, mae dinasyddion yr UE yn ddarostyngedig i fesurau rheoli mewnfudwyr fel rhan o system mewnfudo newydd y DU ar sail pwyntiau a fydd hefyd yn ddarostyngedig i gyfyngiadau pobl heb hawl i arian cyhoeddus.
Diben y canllawiau hyn
Rydym wedi cyhoeddi’r canllawiau hyn er mwyn cynorthwyo cyrff yn y sector cyhoeddus a sefydliadau’r trydydd sector i gynorthwyo pobl heb hawl i arian cyhoeddus. Mae Cenedl Noddfa yn golygu y byddwn ni’n helpu unrhyw un a wasgarwyd, neu sydd wedi’i adsefydlu yng Nghymru, i gyrraedd gwasanaethau ac integreiddio â chymunedau o’r diwrnod y cyrhaeddant.
Mae’r canllawiau yn rhoi esboniad eglur o ddyletswyddau a dewisiadau o ran cymorth, ac yn atgyfnerthu’r angen i adnabod y person cyn gweld ei statws mewnfudo. Mae’r rhain oll yn agweddau pwysig ar werthoedd ein Cenedl Noddfa ac yn rhai y byddwn yn ymbil ar bawb i fwrw ymlaen â nhw gyda ni. Rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol fabwysiadu ymagwedd o gynnig cymaint o gymorth â phosibl, yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn na allant ei gynnig. Bydd y canllawiau hyn yn eu helpu i wneud hynny.
Datblygu’r canllawiau hyn
Hoffai’r awduron ddiolch i’r nifer fawr o bobl a sefydliadau a gyfrannodd at y gwaith o ddatblygu’r canllawiau hyn, gan gynnwys bron hanner cant o bobl a ymatebodd i’r arolwg a’r deugain o bobl a gymerodd ran mewn cyfweliadau a grwpiau ffocws.
Hoffem ddiolch yn benodol i Bartneriaeth Mudo Strategol Cymru, fforwm NRPF Cymru a Rhwydwaith NRPF y DU-gyfan am eu cefnogaeth, eu gwybodaeth a’u harweiniad, ynghyd â’r deg sefydliad sector cyhoeddus a thrydydd sector wnaeth roi amser prin o’u hamserlenni prysur i brofi’r canllawiau drafft a’u hadolygu.
Ymwadiad
Nid yw’r canllawiau hyn yn gyfwerth â chyngor cyfreithiol. Maent wedi eu bwriadu i gynorthwyo awdurdodau lleol a’r trydydd sector yng Nghymru trwy bennu ffactorau ac ystyriaethau allweddol ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch darparu gwasanaethau i fudwyr sy’n destun amodau ar gyfer pobl heb hawl i arian cyhoeddus. Nid yw’r canllawiau hyn yn ceisio rhoi datganiad cyflawn o’r gyfraith berthnasol, ac ni ddylid ei ystyried yn lle cyngor cyfreithiol naill ai’n gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion unigol. Bydd angen i sefydliadau sector cyhoeddus a’r trydydd sector geisio cyngor cyfreithiol eu hunain lle bo’n berthnasol ac ystyried yn annibynnol sut orau i ddefnyddio’r canllawiau hyn.
Gallwch sicrhau eich hun bod y ddogfen hon yn cynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o unrhyw wybodaeth y mae’n cyfeirio ati neu’n rhoi dolen i’w chyrraedd.
Arian cyhoeddus at ddibenion statws mewnfudo
Nid yw arian cyhoeddus at ddibenion mewnfudo yn golygu’r holl fudd-daliadau a gwasanaethau a ariannwyd gan arian cyhoeddus. Mae’r term ‘arian cyhoeddus’ wedi’i gyfyngu i restr ddiffiniedig o fudd-daliadau a gwasanaethau a nodwyd yn y Rheolau Mewnfudo a dogfen y Swyddfa Gartref Public Funds: Migrant access to Public Funds, including social housing, homelessness assistance and social care.
Dim ond y budd-daliadau a gwasanaethau a restrir yn Adran115 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 a pharagraff 6 o’r Rheolau Mewnfudo sydd wedi’u pennu’n Arian Cyhoeddus at ddibenion mewnfudo. Gall y manteision na all person sy'n ddarostyngedig i NRPF gael mynediad fod yn destun newid a gellir lleoli'r wybodaeth ddiweddaraf yn GOV.UK.
Fodd bynnag, mae rhywun heb hawl i arian cyhoeddus yn gymwys i gael nifer o fudd-daliadau lles, yn ddarostyngedig i’r amodau sy’n gymwys i unrhyw un sy’n gwneud cais am y budd-daliadau hyn. Ceir rhestr lawn o’r budd-daliadau sydd ar gael ac nad ydynt ar gael i berson heb hawl i arian cyhoeddus o dan yr adran Mynediad at Wasanaethau: Welfare Benefits.
Diwygiadau Pwysig i’w Nodi
Ym mis Mai 2022, dyfarnodd yr Uchel Lys bod polisi’r llywodraeth ar wrthod budd-daliadau i fudwyr yn torri’r ddyletswydd statudol i hyrwyddo lles plant. Mae'r Swyddfa Gartref bellach wedi gwneud newidiadau i adlewyrchu'r dyfarniad hwnnw.
Mae hyn yn cynnwys paragraff newydd GEN.1.11A. Ar hyn o bryd mae’r paragraff hwn yn nodi bod caniatáu mewnfudo fel partner, plentyn neu riant “fel arfer” yn dod heb hawl i arian cyhoeddus. Gwneir eithriadau os yw’r ymgeisydd yn “ddiymgeledd” neu os oes “rhesymau arbennig o gymhellol” yn ymwneud â lles plant. Mae’r mynegiant yn cael ei addasu i gael gwared ar “fel arfer”, ychwanegu eithriad ar gyfer “ar fin bod yn ddiymgeledd” a dweud “rhesymau”, heb y geiriau “arbennig o gymhellol”.
Daeth hyn i rym ar 20 Mehefin 2022.
Yng Nghymru, mae’r mathau canlynol o gymorth tai a digartrefedd a ddarperir gan awdurdod lleol yn cael eu diffinio fel arian cyhoeddus at ddibenion statws mewnfudo:
- tai a ddyrennir gan Awdurdod lleol (er enghraifft tenantiaeth cyngor neu gymdeithas tai) a wneir o dan Part VI of the Housing Act 1996
- llety a ddarperir gan Awdurdod Tai Lleol o dan Part II of the Housing Act 1985
- cymorth digartrefedd o dan adrannau 66, 68, 73 a 75 o Ddeddf (Tai) Cymru 2014
Ni fydd rhywun heb hawl i arian cyhoeddus (NRPF) yn gymwys am gymorth digartrefedd na dyraniad tai.
Eithriadau
Mae rhai eithriadau i’r amodau hyn, ac fe’u nodir yn Rheoliadau Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014.
Arian nad yw’n gyhoeddus
Yn Adran 60 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 nodir nad yw’r ddarpariaeth gwybodaeth a chyfeiriadau i opsiynau tai a gwasanaethau cynghori ar ddigartrefedd yn arian cyhoeddus at ddibenion statws mewnfudo. Mae dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i sicrhau y darperir gwasanaeth i roi gwybodaeth, cyngor a chymorth i gael gafael ar help i unrhyw un sydd yn eu hardal neu â chysylltiad â’u hardal sy’n dod atynt am gymorth, gan gynnwys pobl nad ydynt yn gymwys am gymorth tai arall o dan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Yn ychwanegol, gall Gwasanaethau Cymdeithasol ddarparu llety i oedolion a phlant sydd angen gofal a chefnogaeth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Mythau a ffeithiau
Mae cyfres o gam-ganfyddiadau sy’n codi’n aml ynghylch Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac mae ymatebion sy’n cymryd golwg gadarnhaol ar y camau y gellir, ac y dylid, eu cymryd. Cymerwyd y rhain o’r ddogfen Mynediad at wasanaethau cymdeithasol a gofal a chymorth arall i geiswyr lloches diymgeledd nad oes cronfeydd cyhoeddus ar gael iddynt a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Myth: Ni all gwasanaethau cymdeithasol helpu pobl NRPF.
Ffaith: Mae’r amod NRPF ond yn gyfyngiad ar fynediad at nawdd cymdeithasol prif ffrwd, cymorth digartrefedd a dyraniad tai cymdeithasol awdurdod lleol. Nid yw cymorth gwasanaethau cymdeithasol yn gronfa gyhoeddus at ddibenion mewnfudo, ac ni ddylai cymorth gael ei wrthod am y rheswm hwn yn unig. Mae Adran 35 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn yn nodi bod rhaid i awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn os yw’n fodlon ei fod yn bodloni amodau penodol; ei fod fel arfer yn byw yn ardal yr awdurdod lleol neu nad oes ganddo gartref sefydlog ond ei fod yn byw yn ardal yr awdurdod; bod ei anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra neu fod yr awdurdod lleol o’r farn bod angen diwallu’r anghenion er mwyn diogelu’r oedolyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod neu rhag y risg o gamdriniaeth neu esgeulustod. Nid oes tâl am y gofal a'r cymorth sydd ei angen i ddiwallu'r anghenion hynny, neu codir tâl na all yr oedolyn gwrdd, neu mae gan yr oedolyn adnoddau ond mae'n gofyn i awdurdod lleol ddiwallu ei anghenion, neu nad oes gan yr oedolyn allu i drefnu ar gyfer darparu gofal a chymorth ac nid oes unrhyw berson wedi ei awdurdodi i wneud trefniadau o'r fath o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 neu fel arall mewn sefyllfa i wneud felly ar ran yr oedolyn. Felly, mae dyletswydd Adran 35 yn berthnasol i’r holl breswylwyr, beth bynnag fo’u statws mewnfudo, ac wedi’i chyfyngu’n unig gan yr Eithriadau i gymorth gwasanaethau cymdeithasol a amlinellir o dan Atodlen 3 o Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2002. Fodd bynnag, mae a all awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofal a chymorth yn amodol ar eithriadau a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Myth: Awdurdod lleol yn unig â ddyletswydd i gynorthwyo plentyn mewn teulu NRPF yn unig, felly gall gynorthwyo’r plentyn ond nid y rhiant.
Ffaith: Mae Adran 39 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Dyletswydd i gynnal cyswllt â’r teulu yn nodi y dylai awdurdod lleol gymryd camau sy’n rhesymol ymarferol i alluogi’r plentyn i fyw gyda theulu’r plentyn os bydd yn ystyried bod hynny’n angenrheidiol i hyrwyddo llesiant y plentyn. Nid yw cynnig lletya’r plentyn ar ei ben ei hun neu dderbyn y plentyn i ofal yn ymateb priodol yn absenoldeb unrhyw bryderon diogelu sy’n ychwanegol i’r risg i’r plentyn yn sgil diffyg cartref ac incwm y rhiant, ac mae’n debygol o arwain at dorri Erthygl 8 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR) hawl i barch at fywyd teuluol.
Myth: Awdurdod lleol helpu gan nad yw’r awdurdod lleol yn cael cyllid i ddarparu cymorth i oedolion, pobl ifanc a phlant NRPF.
Ffaith: Er nad oes gan yr awdurdod lleol ddyletswydd i ddiwallu’r holl anghenion a aseswyd yn ffurfiol ac y gall ystyried ei adnoddau wrth bennu pa anghenion i’w diwallu, mae ganddo rwymedigaeth i sicrhau nad yw hawliau dynol unigolyn yn cael eu gwrthod trwy fethu â darparu cymorth neu drwy ddarparu cymorth annigonol. Felly, rhaid i benderfyniad i ddiwallu rhai anghenion a aseswyd, ond nid pob un ohonynt, gael ei wneud yn rhesymegol, a rhaid i’r awdurdod lleol weithredu’n rhesymol o dan yr amgylchiadau.
Myth: Awdurdod lleol cymdeithasol helpu person heb ganiatâd i aros gan nad yw wedi gwneud cais am ganiatâd i aros i’r Swyddfa Gartref.
Ffaith: Mae rhwymedigaeth awdurdod lleol i gynnal asesiad o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn codi’n annibynnol o unrhyw ystyriaeth o’r math o statws mewnfudo sydd gan berson neu deulu. Nid yw statws mewnfudo person yn atal asesiad brys rhag cael ei gynnal mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc neu oedolyn. Ni ddylai absenoldeb cais mewnfudo atal asesiad rhag cael ei gynnal na chymorth interim rhag cael ei ddarparu yn ôl yr angen. Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod unigolion agored i niwed yn cael eu cyfeirio at gyngor mewnfudo, yn hytrach na gwneud rhagdybiaethau ynghylch hawliau yn seiliedig ar y cyswllt cyntaf. Fodd bynnag, bydd statws mewnfudo’r oedolyn neu’r rhiant, ac a oes unrhyw geisiadau wedi’u gwneud, yn dod yn ffactorau perthnasol wrth bennu a yw Adran 46 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn berthnasol. Gweler hefyd yr eithriadau i gymorth gwasanaethau cymdeithasol a restrir yn Atodlen 3 i Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2002.
Myth: Ni all menyw feichiog NRPF nad oes ganddi unrhyw blant eraill yn ei gofal gael cymorth hyd nes i’w phlentyn gael ei eni.
Ffaith: Efallai y bydd angen i awdurdod lleol ystyried a yw menyw feichiog NRPF angen gofal a chymorth, ac felly yn gallu cael llety a chymorth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Myth: Mewn teuluoedd lle mae gan y rhiant ganiatâd i aros yn NRPF, nid oes rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu cymorth gan fod y rhiant yn gallu gweithio.
Ffaith: Yn amodol ar Adran 46 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu cymorth ariannol a/neu dai i’r rhai ag anghenion gofal a chymorth ac NRPF er mwyn atal digartrefedd neu ddiymgeledd. Er nad yw’r cymorth hwn gan yr awdurdod lleol yn cael ei ariannu gan lywodraeth ganolog, byddai’n anghyfreithlon i’r awdurdod lleol beidio â darparu cymorth ar sail y ffaith y ‘gallai’r rhiant weithio’ ac yn absenoldeb asesiad yn amlinellu sut y gellir diwallu anghenion llawn y plentyn yn annibynnol ar y cymorth hwn. Os oes gan riant NRPF a bod ganddo ganiatâd i weithio, bydd un agwedd ar asesiad yn cynnwys ystyried a yw cyflogaeth yn opsiwn ymarferol iddo. Yn aml, mae rhieni ag NRPF yn cael eu hatal rhag gweithio oherwydd costau gofal plant a thai anfforddiadwy. Gall awdurdod lleol ond gwrthod darparu cymorth os bydd asesiad yn dod i’r casgliad nad yw plentyn mewn angen, neu os nodwyd angen nad yw’n bodloni’r meini prawf cymhwystra.
Mythau a Ffeithiau cyffredin eraill
Myth: Ni all pobl NRPF gael unrhyw fudd-daliadau.
Ffaith: Ni all pobl NRPF gael mynediad at rai budd-daliadau lles sy'n seiliedig ar incwm. Maent yn dal i allu manteisio ar lawer o fudd-daliadau a gwasanaethau eraill a nodir yn y canllawiau hyn.
Myth: Mae pob mudwr yn ymwybodol o'u iawnderau a hawliau a byddant yn gallu cael gafael ar ddogfennau mewnfudo.
Ffaith: Ni fydd llawer o fudwyr yn ymwybodol o'u hawliau na'u iawnderau. Gallai hyn fod oherwydd iddynt gyrraedd yma flynyddoedd lawer yn ôl, megis y genhedlaeth Windrush, heb i neb ddweud wrthynt fod angen gwaith papur penodol arnynt. Neu am iddynt gael eu geni yma. Neu am eu bod wedi dioddef camdriniaeth neu gaethwasiaeth fodern neu fasnachu pobl. Yn yr un modd, ni fydd gan lawer o fudwyr fynediad i'w dogfennau mewnfudo am yr un rhesymau, ac mae’n bosibl y bydd eu dogfennau'n cael eu dal yn ôl yn fwriadol.
Myth: Ni ddylai pobl heb statws fod yn y wlad ac nid oes ganddynt hawl i gael cymorth.
Ffaith: Mae llawer o resymau pam nad oes gan bobl statws mewnfudo cyfredol a bydd llawer yn mynd ymlaen i gael statws Ffoadur llawn a chaniatâd di-amod i aros. Mae gan bobl heb statws hawl i gael cymorth fel y nodir yn y canllawiau hyn.
Myth: Mae pobl sydd wedi aros yn hirach na chyfnod eu fisâu, neu heb statws o gwbl, wedi bwriadu bod yn y sefyllfa hon.
Ffaith: Nid yw pawb sydd wedi aros y tu hwnt i gyfnod eu fisa neu sydd heb statws yn ymwybodol o hyn. Efallai eu bod o'r genhedlaeth Windrush ac na ddywedwyd wrthynt erioed fod angen rhai papurau arnynt. Efallai eu bod wedi dioddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, trais rhywiol a/neu reolaeth drwy orfodaeth a bod eu camdrinwyr wedi dweud celwydd wrthynt am adnewyddu fisa a'u hawliau ac iawnderau. Efallai eu bod wedi dioddef masnachu pobl neu gaethwasiaeth fodern.
Pwy all fod Heb Hawl i Arian Cyhoeddus (NRPF)
Mae'n hanfodol bod awdurdodau lleol yn trin pawb sy'n ceisio cymorth gyda thosturi ac urddas, waeth beth fo'u statws mewnfudo. Mae gan lawer o fudwyr annogfenedig statws o fewn y DU ond nid ydynt yn gwybod sut i ddangos hyn; er enghraifft, y rhai sydd wedi'u dal yn sgandal Windrush neu ddinasyddion yr UE a gafodd statws digidol yn unig. Erbyn 2024, mae'r Swyddfa Gartref yn bwriadu mai dim ond tystiolaeth ddigidol o statws mewnfudo a roddir i bob mudwr. Bydd y cerdyn Trwydded Preswylio Biometrig (BRP) yn cael ei ddiddymu'n raddol yn sgîl hynny. Efallai y bydd awdurdodau lleol yn gweld cynnydd yn nifer y bobl nad ydynt yn gwybod sut i ddangos tystiolaeth o'u statws. Ac efallai y bydd smyglwyr neu fasnachwyr pobl wedi dwyn dogfennau rhai unigolion eraill.
Yn aml, bydd goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael eu hunain heb ddogfennau, naill ai am fod eu camdriniwr wedi eu dwyn oddi arnynt neu am fod eu camdriniwr wedi eu camarwain drwy ddweud wrthynt fod eu statws mewnfudo yn ddiogel. Bydd mwy fyth o bobl yn gymwys i gael statws rheolaidd ond heb wybod sut roedd gwneud hynny nes iddynt gyrraedd eich gwasanaeth.
Yn gyffredinol, bydd pobl sy’n destun rheolaeth fewnfudo heb hawl i arian cyhoeddus (NRPF), sy’n eu hatal rhag cael gafael ar restr o fudd-daliadau a gwasanaethau penodol. Mae’r rhestr honno i’w gweld yn Home Office Migrant access to public funds including social housing, homelessness assistance and social care.
Fodd bynnag, nid yw'r cyfyngiad hwn yn cael ei osod bob tro, felly dylech bob amser wirio a yw unrhyw unigolyn yn ddarostyngedig i’r amod NRPF. Noder, os bydd rhywun NRPF yn hawlio arian cyhoeddus fel y'i diffinnir gan Ddeddf 1971 a Rheolau Mewnfudo, y byddant yn torri eu hamodau caniatâd i aros a gallent wynebu allgludo.
Hyd yn oed gyda phobl â statws NRPF, bydd awdurdodau lleol bron bob amser yn gallu gwneud rhywbeth i helpu, hyd yn oed os cyfyngir ar fynediad at rai gwasanaethau.
O dan Adran 115 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 gallai tri grŵp o bobl fod yn ddarostyngedig i amodau NRPF.
Pobl sydd â Chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y DU, sy'n ddarostyngedig i amod NRPF, (mae yna hefyd lawer o fathau o fisa gwaith i ddod i mewn i'r DU ond maent i gyd yn dilyn rheolau tebyg) megis:
- caniatâd i ddod i mewn fel ymwelydd
- caniatâd i aros fel priod
- caniatâd i aros fel myfyriwr
- caniatâd i aros wedi’i roi o dan reolau bywyd teuluol neu breifat
Pobl sydd â Chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y DU sy'n destun ymgymeriad cynhaliaeth, megis:
- caniatâd amhenodol i aros fel oedolyn sy’n berthynas ddibynnol i berson sydd â statws sefydlog (gwaharddiad pum mlynedd ar hawlio arian cyhoeddus)
Pobl heb ganiatâd mewnfudo ar hyn o bryd. Gallai hyn gynnwys:
- pobl sy’n aros yn hirach na chyfnod eu fisa
- mudwyr annogfenedig sy'n cynnwys rhai mudwyr o genhedlaeth Windrush a hefyd mudwyr a ddaeth i mewn i'r DU heb gael Caniatâd i Ddod i mewn neu Aros
- ceiswyr lloches
- ceiswyr lloches â’u hawliau apelio wedi'u disbyddu (ARE), y cyfeirir atynt hefyd fel Ceiswyr Lloches aflwyddiannus mewn deddfwriaeth (FAS) neu Geiswyr Lloches a Wrthodwyd (RAS)
- Gwladolion o'r AEE a gyrhaeddodd y DU cyn Ionawr 2020 ac nad ydynt eto wedi gwneud cais am Statws Preswylydd Sefydlog
- dioddefwyr caethwasiaeth fodern sydd wedi cael eu masnachu i'r DU ac nad ydynt wedi cael caniatâd mewnfudo
Bydd pobl sydd â chaniatâd i ddod i mewn yn cael caniatâd mewnfudo gan Swyddog Mewnfudo pan fyddant yn dod i mewn i'r DU. Mae'n ofynnol i'r rhan fwyaf o bobl wneud cais am ganiatâd mynediad ymlaen llaw (Caniatâd i Ddod i Mewn) mewn canolfan ymgeisio am fisa dramor. Gellir rhoi’r caniatâd ar ffurf stamp, a elwir yn aml yn vignette, ym mhasbort y person.
Bydd gan bobl sydd â Chaniatâd i Aros ganiatâd mewnfudo (fel fisa) a gyhoeddir gan y Swyddfa Gartref, y gwneir cais amdano o'r tu mewn i'r DU. Gellir gwneud cais drwy lenwi ffurflen a'i chyflwyno ar-lein, drwy'r post neu'n bersonol. Mae ffurflenni papur yn cael eu diddymu'n raddol a byddant yn cael eu disodli gan system ar-lein erbyn 2024.
Gall y caniatâd i ddod i mewn neu aros naill ai fod yn gyfyngedig o ran amser neu am gyfnod amhenodol.
Mae person ‘sy’n aros yn hirach na chyfnod fisa' yn rhywun a gafodd Ganiatâd i Ddod i mewn neu Aros yn y DU am gyfnod cyfyngedig ac sydd heb ganiatâd mewnfudo ar hyn o bryd oherwydd bod ei ganiatâd blaenorol wedi dod i ben. Bydd achosion fel hyn yn cael eu trin gan y Swyddfa Gartref fel rhai sy'n bresennol yn anghyfreithlon a gellir rhoi penderfyniad symud a chyfarwyddiadau adrodd iddynt. Ni fyddant yn gallu gweithio a gallant fod yn destun sancsiynau ar rai gwasanaethau (gelwir y mesurau hyn weithiau yn 'amgylchedd gelyniaethus').
Mae mudwyr annogfenedig yn bobl a oedd naill ai wedi dod i mewn i'r DU heb fynd drwy fewnfudo, neu a oedd â dogfennau o'r blaen sydd bellach wedi mynd ar goll neu wedi dod i ben, ac felly nid oes ganddynt unrhyw ddogfennau i brofi'r statws mudo.
Mae ceiswyr lloches yn bobl sydd wedi gwneud cais i Lywodraeth y DU am amddiffyniad (lloches) o dan Gonfensiwn Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig 1951 ac sy'n aros i gael penderfyniad gan y Swyddfa Gartref ynghylch eu cais neu gan y Llys mewn perthynas ag apêl. Mae ganddynt ganiatâd i fyw yn y DU ond gallant fod yn destun gofynion adrodd ac ni fydd ganddynt yr hawl i weithio fel arfer, er bod rhai eithriadau i hyn.
Mae ceiswyr lloches â’u Hawliau Apelio wedi'u Disbyddu yn bobl sydd wedi gwneud cais aflwyddiannus am loches sydd wedi'i benderfynu'n derfynol gan y Swyddfa Gartref a/neu'r llysoedd. Nid oes ganddynt hawl bellach i apelio, ac nid ydynt wedi cael unrhyw fath arall o ganiatâd i aros. Mae Llywodraeth y DU yn defnyddio'r term ceisiwr lloches aflwyddiannus mewn deddfwriaeth a chanllawiau ond mae'n well gan Lywodraeth Cymru y term 'ceisiwr lloches a wrthodwyd'.
Mae gwladolion yr AEE yn bobl â dinasyddiaeth yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. Mae'r AEE yn cynnwys gwledydd yr UE a hefyd Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy. Caiff y gwledydd hyn fod yn rhan o farchnad sengl yr UE. Nid yw'r Swistir yn aelod o'r UE na'r AEE ond mae'n rhan o'r farchnad sengl. Mae hyn yn golygu bod gan wladolion y Swistir yr un hawliau i fyw a gweithio yn y DU â gwladolion eraill yr AEE.
Mae gwladolion o'r AEE a oedd yn byw yn y DU cyn 11pm ar 31 Rhagfyr 2020 yn gymwys i wneud cais am Statws Preswylydd Sefydlog neu Statws Cyn-Sefydlog. Efallai nad yw rhai wedi gwneud cais am statws sefydlog eto ond gall Llywodraeth y DU ganiatáu ceisiadau hwyr. Dysgwch fwy am wneud cais am statws sefydlog yng Nghymru.
Ers 31 Ionawr 2021, mae Llywodraeth y DU wedi gweithredu llwybr fisa Newydd i Wladolion Prydeinig Dramor (BNO) o Hong Kong. Drwy’r llwybr hwn, gall rhai o breswylwyr Hong Kong ddod i'r DU, gyda'r hawl i weithio neu astudio. Fodd bynnag, bydd y rhai sy'n cyrraedd gyda’r fisa hwn yn cael y statws NRPF i ddechrau. Bydd deiliad fisa BNO Hong Kong yn gallu gwneud cais i'r Swyddfa Gartref i godi'r amod NRPF os gall ddangos:
- ei fod yn ddiymgeledd neu ar fin bod yn ddiymgeledd
- tystiolaeth bod rhesymau arbennig o gymhellol yn ymwneud â lles plentyn i riant sydd ar incwm isel iawn
- ei fod yn wynebu amgylchiadau ariannol eithriadol oherwydd incwm isel iawn
Pan fydd gan berson Ganiatâd i Ddod i Mewn neu Aros ar yr amod NRPF, bydd y term ‘dim hawl i arian cyhoeddus’ yn cael ei nodi ar ei drwydded breswylio, ei vignette caniatâd mynediad, neu ei drwydded breswylio fiometrig (BRP).
Vignette fisa yw'r stamp fisa sy'n cael ei ychwanegu at basbort neu ddogfen deithio i deithwyr. Mae gwasanaeth Fisa a Mewnfudo'r DU yn defnyddio gwahanol fathau o vignettes visa.
Mae gan y BRP a'r Cerdyn Preswylio Biometrig (BRC) fanylion bywgraffyddol unigolyn (enw, dyddiad a man geni) a gwybodaeth fiometrig (delwedd yr wyneb ac olion bysedd), ac mae'n dangos ei statws mewnfudo a'i hawliau tra bydd yn aros yn y DU. Teitl BRPs yw Trwydded Breswylio neu Drwydded Arhosiad Byr ac mae BRCs yn cael eu henwi'n Gerdyn Preswyl, Cerdyn Preswylio Parhaol neu Gerdyn Preswylio Deilliannol. Mae’r nodyn canllaw ar drwyddedau preswyl biometrig (BRPs) a chardiau preswyl biometrig (BRCs) yn dangos enghreifftiau o’r gwahanol fathau o gerdyn a sut mae adnabod statws mewnfudo unigolion.
Ddylech chi ddim gwrthod asesu anghenion unrhyw un nac eithrio unrhyw un oddi wrth fudd-daliadau neu wasanaethau ar sail canfyddiad bod rheolau NRPF yn berthnasol, hyd nes, neu oni bai, bod y Swyddfa Gartref yn cadarnhau hyn.
Os yw unigolyn heb y dogfennau i brofi ei statws, efallai y bydd angen ichi wirio ei statws cyn rhoi iddo fynediad at arian cyhoeddus. Gall unigolion wirio eu statws mewnfudo eu hunain ar dudalen we Llywodraeth y DU View and Prove Your Immigration Status.
Gall pobl ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os ydynt â statws Sefydlog neu Cyn-sefydlog neu os ydynt wedi gwneud cais am fisa ac wedi defnyddio ap Gwirio ID UK Immigration i sganio eu dogfen adnabod ar eu ffôn.
Ni allant ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os mai vignette yn eu pasbort neu drwydded breswyl fiometrig sydd ganddynt yn brawf o’u statws mewnfudo.
Gall staff awdurdodau lleol wirio statws pobl ar eu rhan hefyd, yn Check Someone’s Immigration Status drwy ddefnyddio’r cod rhannu sy’n cael ei e-bostio atoch neu a roddir i chi gan y person dan sylw. Daw’r cod rhannu i ben ar ôl 30 diwrnod. Bydd arnoch angen dyddiad geni’r person hefyd.
Pwy fydd ddim dan amodau NRPF
Bydd pobl sydd â hawl i arian cyhoeddus yn gallu cael budd-daliadau a gwasanaethau os ydynt yn bodloni'r gofynion cymhwyso perthnasol. Bydd gan bobl hawl i gael Arian Cyhoeddus pan fydd ganddynt un o'r mathau canlynol o statws mewnfudo:
- caniatâd di-amod i Ddod i Mewn neu i Aros (oni bai eu bod yn cael hyn fel perthynas sy'n ddibynnol ar oedolyn)
- yr hawl i breswylio
- wedi'i eithrio rhag rheoli mewnfudo
- statws ffoadur
- diogelwch dyngarol
- caniatâd i aros a roddwyd o dan reolau bywyd teuluol neu breifat lle mae'r Swyddfa Gartref yn eu derbyn fel rhai sy'n ddiymgeledd neu ar fin bod yn ddiymgeledd
- dinasyddion Iwerddon (sy'n parhau i fod â statws arbennig yn y DU nad yw'n dibynnu ar eu statws fel dinesydd yr UE.) Felly, nid oes angen caniatâd ar ddinasyddion Iwerddon i ddod i mewn neu i fyw yn y DU ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn, pryd bynnag y cyrhaeddant (er eu bod yn parhau i fod yn destun Rheoli Mewnfudo). O dan drefniadau yr Ardal Deithio Gyffredin rhwng y DU ac Iwerddon, mae hefyd nifer o gytundebau dwyochrog sy’n cadarnhau gallu dinesydd Gwyddelig i gael mynediad at rai budd-daliadau a gwasanaethau yn y DU
- caniatâd Yn ôl Disgresiwn i Aros, megis:
- Caniatâd i Aros yn cael ei roi i berson sydd wedi cael penderfyniad pendant ei fod yn ddioddefwr masnachu pobl neu gaethwasiaeth fodern
- Consesiwn trais domestig diymgeledd
- Caniatâd i Blentyn ar ei ben ei hun sy'n Ceisio Lloches (UASC)
- gwladolion o'r AEE sydd wedi cael Statws Preswylydd Sefydlog o dan Gynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS)
- gwladolion o'r AEE sydd wedi gwneud cais am Statws Preswylydd Sefydlog cyn 30 Mehefin 2021 ond nad ydynt wedi cael penderfyniad eto
Mae'r Swyddfa Gartref wedi dweud, o 1 Gorffennaf 2021, y bydd gan y rhai a wnaeth gais i Gynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE cyn y dyddiad cau, ac nad yw eu cais (neu unrhyw apêl) wedi'i benderfynu eto, yr un hawl i weithio, astudio, rhentu llety a chael budd-daliadau a gwasanaethau ag a wnaethant cyn i'r cyfnod gras ddod i ben ar 30 Mehefin 2021.
Ni fydd dinasyddion yr AEE bellach yn gallu defnyddio eu pasbort na'u cerdyn adnabod cenedlaethol i ddangos eu hawl i weithio neu rentu o 1 Gorffennaf 2021. Felly, bydd y rhai sydd â chais heb ei gwblhau eto o dan yr EUSS, ond a gyflwynwyd erbyn 30 Mehefin 2021, yn gallu defnyddio eu Tystysgrif Ymgeisio, a gyhoeddir yn awtomatig unwaith y bydd cais dilys wedi'i wneud, fel prawf o'r hawl honno, tra'n aros am ganlyniad y cais. Bydd gwasanaeth gwirio cyflogwyr/landlordiaid y Swyddfa Gartref hefyd yn cadarnhau bod cais wedi'i wneud erbyn 30 Mehefin 2021.
Fodd bynnag, gall fod oedi cyn cyhoeddi Tystysgrifau Ymgeisio ac felly ni fydd pawb sydd wedi gwneud cais erbyn y dyddiad cau yn gallu profi hyn. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am Dystysgrifau Ymgeisio bellach ar gael drwy View and Prove Your Immigration Status.
Efallai y bydd rhai achosion pan fydd unigolyn heb unrhyw ddogfen i gadarnhau ei statws mewnfudo. Ni ddylid gwrthod gwasanaeth i’r person hwnnw yn awtomatig heb ymchwilio i’w amgylchiadau i sicrhau nad yw’n cael ei wrthod ar gam er bod ganddo hawl i’r gwasanaeth. Gall unigolion wirio eu statws mewnfudo eu hunain, neu, gall yr Awdurdod Lleol wirio statws mewnfudo rhywun ar ei ran, neu drwy ddefnyddio’r cod rhannu a gafodd ei e-bostio atoch neu a rennir â chi gan y person rydych yn gwirio ei statws. Daw’r cod rhannu i ben ar ôl 30 diwrnod. Bydd arnoch angen dyddiad geni’r unigolyn hefyd.
Cefnogi pobl sydd Heb Hawl i Arian Cyhoeddus (NRPF)
Dyletswydd i asesu anghenion Oedolyn
Pan nad yw oedolyn yn gallu cael mynediad at fudd-daliadau a chymorth tai oherwydd ei statws NRPF, mae’n debygol y bydd arno angen help. Mae dyletswydd ar y awdurdod lleol i asesu, fel yr amlinellir yn Adran 19 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 pan fydd yn ymddangos y gallai fod gan oedolyn anghenion am ofal a chymorth. Asesir i bennu a oes ganddo anghenion gofal a chymorth, gan gynnwys amddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod, ac os felly beth yw'r anghenion hynny. Bydd angen i unrhyw asesiad ystyried a mynd i'r afael â'r effaith ar ddarparu gofal neu gymorth os nad oes gan berson lety. Er efallai na fydd unigolyn yn gymwys i gael dyraniad tai cymdeithasol mae'n bosib y bydd cyfle i awdurdod lleol ddarparu llety wedi ei ariannu yn ôl disgresiwn. Gall awdurdodau lleol ddarparu cymorth a llety yn uniongyrchol, trefnu ei ddarparu gan drydydd parti, neu wneud taliadau i oedolion i sicrhau cymorth a llety fel y nodir yn Adran 34 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Dylid rhoi canlyniad yr asesiad hwn i'r unigolyn yn ysgrifenedig â rhesymau. Dylid rhoi canlyniad yr asesiad hwn i'r person yn ysgrifenedig gyda rhesymau. Er mwyn sicrhau bod unigolion wedi deall beth sy'n digwydd gyda'u hachos, dylid darparu'r wybodaeth hon ym mamiaith yr oedolyn.
Wrth asesu a oes angen gofal a/neu gymorth ar rywun, dywed Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 y dylid:
- rhoi sylw i safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn
- rhoi sylw i bwysigrwydd hyrwyddo a pharchu urddas yr unigolyn
- rhoi sylw i nodweddion, diwylliant a chredoau’r unigolyn (gan gynnwys, er enghraifft, ei iaith)
- rhoi sylw i bwysigrwydd darparu cefnogaeth briodol i’r unigolyn allu cymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio arno, i’r graddau y bo’n briodol o dan yr amgylchiadau, yn enwedig pan fo gallu’r unigolyn i gyfathrebu wedi’i gyfyngu am unrhyw reswm
Wrth gynnal yr asesiad o anghenion mae’r Ddeddf awdurdod lleol yn datgan bod rhaid i chi:
- geisio nodi'r pethau y mae'r oedolyn yn dymuno eu cyflawni yn ei fywyd o ddydd i ddydd
- asesu a fyddai gofal a chefnogaeth, gwasanaethau ataliol, neu wybodaeth, cyngor neu gymorth, yn gallu cyfrannu at gyflawni'r pethau hynny, ac os felly i ba raddau, ac a fyddent yn diwallu’r anghenion a nodwyd gan yr asesiad mewn rhyw ffordd arall
- asesu a allai materion eraill gyfrannu at gyflawni'r pethau hynny neu fel arall ddiwallu'r anghenion hynny, ac os felly, i ba raddau
Bydd yr asesiad o anghenion, fel y’i disgrifir yn Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) Cymru 2015 yn ystyried y canlynol:
- a yw’r angen yn deillio o iechyd meddwl neu gorfforol gwael yr unigolyn, ei oedran, anabledd, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau, neu amgylchiadau cyffelyb eraill
- A yw’r angen yn ymwneud ag un neu fwy o ganlyniadau (gweler rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014)
- A yw'r angen yn golygu nad yw'r oedolyn yn gallu diwallu'r angen hwnnw ar ei ben ei hun, gyda gofal a chymorth eraill sy'n fodlon darparu hyn, neu gyda chymorth gwasanaethau yn y gymuned y mae gan yr oedolyn fynediad atynt
- A yw’r oedolyn yn annhebygol o gyflawni un neu fwy o ganlyniadau oni bai bod y awdurdod lleol yn darparu neu'n trefnu gofal a chymorth i ddiwallu'r angen neu’n gallu diwallu’r angen drwy wneud taliadau uniongyrchol
Mae gan y awdurdod lleol y pŵer i ddiwallu anghenion oedolyn p'un a yw wedi cwblhau asesiad o anghenion neu asesiad ariannol ai peidio. Diwallu gofal ac anghenion yn Adran 36 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Mae'r ddyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolyn yn berthnasol pan:
- mae’r oedolyn yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol, neu heb breswylfa sefydlog ac o fewn ardal yr awdurdod
- mae'r anghenion yn bodloni'r meini prawf cymhwystra neu mae'r awdurdod lleol o'r farn bod angen diwallu'r anghenion er mwyn amddiffyn yr oedolyn rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso neu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod
- nid oes tâl am y gofal a'r cymorth sydd eu hangen i ddiwallu'r anghenion hynny, neu nid yw’r oedolyn yn gallu talu’r tâl, neu mae gan yr oedolyn adnoddau ond mae'n gofyn i'r Gwasanaethau Cymdeithasol ddiwallu ei anghenion, neu nid oes gan yr oedolyn y gallu i drefnu i ddarparu gofal a chymorth ac nid oes unrhyw berson wedi'i awdurdodi i wneud trefniadau o'r fath o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 neu fel arall mewn sefyllfa i wneud hynny ar ran yr oedolyn
Gweler Adran 35 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Gellir rhoi llety a chymorth ariannol i oedolyn NRPF gan y awdurdod lleol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, pan fo’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi asesu bod ar rywun angen gofal, a bod amodau 1,2 a 3 wedi’u bodloni mae Adran 35 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cyfeirio e.e. pecyn gofal neu le mewn cartref gofal preswyl neu mewn lloches rhag cam-drin domestig.
Gall y awdurdod lleol ddarparu cefnogaeth a llety yn uniongyrchol, trefnu i drydydd parti eu darparu, neu wneud taliadau i oedolion i sicrhau cefnogaeth a llety fel y nodir yn Adran 34 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Ni fydd gan y awdurdod lleol ddyletswydd i ddiwallu anghenion oedolyn y mae Adran 115 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 yn gymwys iddo pan fo ei anghenion yn deillio o’i sefyllfa ddiymgeledd yn unig. Fodd bynnag, bydd angen i'r awdurdod lleol gynnal asesiad er mwyn pennu a yw'r anghenion yn ganlyniad i gyflwr diymgeledd yn unig neu a oes anghenion perthnasol eraill i'w diwallu.
Pobl Ddiymgeledd
Ni fydd gan y awdurdod lleol ddyletswydd i ddiwallu anghenion oedolyn y mae Adran 115 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 yn gymwys iddo pan fo ei anghenion yn deillio o’i sefyllfa ddiymgeledd yn unig. Nodir hyn yn adran 46 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Mae nifer o sefydliadau trydydd sector sy'n darparu cymorth i’r diymgeledd, naill ai drwy daliadau arian parod neu barseli bwyd, dillad a chymorth ymarferol arall. Mae’r sefydliadau'n cynnwys y Groes Goch Brydeinig, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, banciau bwyd, eglwysi, mosgiau a themlau a sefydliadau cymorth lleol. Bydd y rhain yn wahanol ym mhob ardal awdurdod lleol a dylech chwilio am ffynonellau gwybodaeth leol sydd wedi'u cynnwys yn eich cynllun llwybrau NRPF.
Mae Cronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru dwy elfen; taliadau cymorth brys (EAP) a thaliadau cymorth unigol (IAP).
Bydd person sydd â statws NRPF yn gymwys am y gronfa cymorth brys (EAP) a dylai grantiau gael eu cymeradwyo os yw’r ceisydd yn wynebu caledi ariannol eithriadol, e.e. heb arian i brynu bwyd, nwy a thrydan, ac heb gael grant yn ystod y 28 diwrnod diwethaf nac wedi cael tri grant neu fwy yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gall pobl wneud cais yn uniongyrchol drwy ffonio 0800 859 5924 o ddydd Llun i ddydd Gwener, neu drwy ystod eang o ddarparwyr gwasanaethau, gan gynnwys gweithwyr cymorth, swyddogion tai, gweithwyr cymdeithasol a llawer o sefydliadau'r trydydd sector gan gynnwys Cyngor ar Bopeth. Dylai staff awdurdodau lleol gynorthwyo pobl gyda'r ceisiadau hyn.
Nid yw personau sy'n ddarostyngedig i amodau'r NRPF yn gymwys i gael y taliadau cymorth unigol (IAP).
Dyletswydd i asesu anghenion plentyn
Pan nad yw teulu’n gallu cael mynediad at fudd-daliadau a chymorth tai oherwydd eu statws NRPF, a’i bod yn ymddangos i’r awdurdod lleol y gallai fod angen gofal a chefnogaeth ar blentyn, bydd dyletswydd arnynt i asesu gweler Adran 21 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Bydd y ddyletswydd yn berthnasol waeth beth fo’r canlynol:
- barn yr awdurdodau lleol am lefel anghenion y plentyn am ofal a chymorth
- lefel adnoddau ariannol y plentyn neu unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn
Dylid rhoi canlyniad yr asesiad hwn i'r teulu yn ysgrifenedig gyda rhesymau. Mae'n arfer da darparu'r wybodaeth hon yn iaith y teulu ei hun.
Wrth gynnal asesiad o anghenion, rhaid i’r awdurdod lleol:
- asesu anghenion datblygiadol y plentyn
- ceisio nodi’r canlyniadau: y mae’r plentyn yn dymuno’u cyflawni, i’r graddau y maent yn barnu eu bod yn briodol o ystyried oedran a dealltwriaeth y plentyn; yr hyn y mae’r personau â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn dymuno’i gyflawni mewn perthynas â’r plentyn, i’r graddau maent yn barnu eu bod yn briodol o ystyried yr angen i hybu llesiant y plentyn; a’r hyn y mae personau a nodir mewn rheoliadau (os o gwbl) yn dymuno’i gyflawni mewn perthynas â’r plentyn
- asesu a fyddai’r gofal a chefnogaeth a ddarperir, gwasanaethau ataliol, neu wybodaeth, cyngor neu gymorth yn gallu cyfrannu at gyflawni’r canlyniadau hynny neu ddiwallu anghenion a nodir gan yr asesiad fel arall
- asesu a allai materion eraill gyfrannu at gyflawni'r pethau hynny neu fel arall ddiwallu'r anghenion hynny, ac os felly, i ba raddau
- cymryd i ystyriaeth unrhyw amgylchiadau eraill sy’n effeithio ar lesiant y plentyn
Rhaid i’r asesiad o anghenion gynnwys y plentyn a’r person â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn. Gweler Adran 21 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Bydd yr asesiad o anghenion yn cynnwys:
- a yw’r angen yn deillio o salwch corfforol neu feddyliol y plentyn, oedran, anabledd, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau, neu amgylchiadau tebyg eraill; neu a yw'r angen yn un sy'n debygol o gael effaith andwyol ar ddatblygiad y plentyn os na chaiff ei ddiwallu
- a yw’r angen yn ymwneud ag un canlyniad neu ragor (gweler rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014)
- A yw’r angen yn un nad yw’r plentyn, rhieni’r plentyn na phersonau eraill mewn rôl rhiant yn gallu ei ddiwallu, ar ben eu hunain neu gyda’i gilydd; gyda gofal a chefnogaeth eraill sy’n fodlon darparu’r gofal a chefnogaeth hynny; neu gyda chymorth gwasanaethau yn y gymuned y mae’r plentyn, y rhieni neu bersonau eraill mewn rôl rhiant â mynediad atynt
- A yw’r plentyn yn annhebygol o gyflawni un neu fwy o’i ganlyniadau personol oni bai bod y awdurdod lleol yn darparu neu’n trefnu gofal a chefnogaeth i ddiwallu’r angen; neu a yw’r awdurdod lleol yn galluogi diwallu’r angen drwy wneud taliadau uniongyrchol
Mae datblygiad y plentyn yn cynnwys datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol y plentyn hwnnw. Mae Rheoliad 4 o Reoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015 yn nodi’r anghenion sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra.
Mae'r ddyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn yn berthnasol pan:
- mae'r plentyn yn preswylio yn ardal yr awdurdod lleol
- mae'r anghenion yn bodloni'r meini prawf cymhwystra, neu mae'r awdurdod lleol o'r farn bod angen diwallu'r anghenion er mwyn amddiffyn y plentyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod neu risg o gamdriniaeth neu esgeulustod, neu niwed arall neu risg o niwed o'r fath
Mae gan y awdurdod lleol y pŵer i ddiwallu anghenion plentyn p'un a yw wedi cwblhau asesiad o anghenion neu asesiad ariannol ai peidio.
Gall y awdurdod lleol ddarparu cefnogaeth a llety yn uniongyrchol, trefnu i drydydd parti eu darparu neu wneud taliadau i oedolion sicrhau cefnogaeth a llety, gweler Adran 34 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Mae gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ddyletswydd hefyd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ar ofal a chefnogaeth sydd ar gael yn lleol gan sefydliadau eraill, gan gynnwys y trydydd sector. Dylai'r wybodaeth hon fod ar gael i'r person sydd angen cymorth (er enghraifft mewn iaith syml glir ac yn ddelfrydol yn iaith y person ei hun) a dylai'r awdurdod lleol gynorthwyo'r person i gael gafael ar y gofal a'r cymorth hwn. Mae Adran 17 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ehangu ar hyn.
Mae’n ofynnol hefyd i’r awdurdod lleol ddarparu amrywiaeth o wasanaethau ataliol, fel y nodir yn Adran 15 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn eu hardal, i sicrhau amrywiaeth o ganlyniadau, megis atal neu ohirio’r angen am ofal a chefnogaeth, lleihau'r anghenion hynny a hyrwyddo magwraeth plant gan eu teuluoedd.
Dylid cydnabod nad yw achos pawb â statws NRPF wedi cael ei drin yn gywir. Gwneir camgymeriadau neu efallai bod sefyllfa rhywun wedi newid fel na ddylid defnyddio NRPF mwyach. Felly, yn ogystal â chynnal asesiad o anghenion, dylai'r awdurdod lleol atgyfeirio, fel mater o drefn, (gyda chaniatâd y person) pobl NRPF i gyfreithwyr neu gynghorwyr cymorth cyfreithiol mewnfudo (wedi'u cofrestru i ddarparu cyngor lefel 2 OISC o leiaf), i adolygu eu statws NRPF. Dylai hyn ddigwydd ar yr un pryd â'r asesiad o anghenion ac unrhyw ddarpariaeth cefnogaeth gofal y mae ei hangen.
Eithrio rhag cefnogaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol
Oedolion
Bydd gwaharddiad sy'n seiliedig ar statws mewnfudo person yn berthnasol i rai oedolion heb unrhyw hawl i gael arian cyhoeddus sy'n gofyn am gymorth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Nodir y gwaharddiadau yn Atodlen 3 i Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2002.
Plant
Nid yw’r eithriadau a restrir yn Atodlen 3 i Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2002 yn gymwys i blant.
Pan fydd yr oedolyn mewn grŵp sydd wedi'i eithrio, dim ond pan fo hynny'n angenrheidiol er mwyn atal achos o dorri hawliau dynol yr oedolyn y gellir darparu cymorth y awdurdod lleol. Mae hyn yn golygu, yn ogystal â'r asesiad o anghenion, y bydd angen i'r awdurdod lleol hefyd gynnal asesiad hawliau dynol i weld a all yr oedolyn ddychwelyd i'w wlad wreiddiol er mwyn osgoi bod yn ddiymgeledd yn y DU, neu a oes rhwystr cyfreithiol neu ymarferol sy'n golygu na ellir disgwyl i'r person ddychwelyd. Mae Gwefan y Rhwydwaith NRPF yn rhoi canllawiau defnyddiol am asesiadau hawliau dynol.
Mae’r eithriad wedi’i nodi yn Adran 54 o Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2002 ac Atodlen 3 i Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2002 i nodi pwy sy’n anghymwys am gefnogaeth.
Bydd hyn yn berthnasol pan fo oedolyn yn:
- torri cyfreithiau mewnfudo, e.e. aros yn hirach na chyfnod fisa neu ddod i mewn i’r wlad yn anghyfreithlon
- ceisiwr lloches ARE sydd wedi methu â chydymffurfio â chyfarwyddiadau i adael y wlad
- gwladolyn o’r AEE sydd heb wneud cais o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Pan fydd oedolyn mewn grŵp sydd wedi'i eithrio, bydd y awdurdod lleol yn cynnal asesiad hawliau dynol sy'n ystyried:
- a oes rhwystr cyfreithiol i ddychwelyd, er enghraifft, cais neu apêl hawliau dynol sydd ar ddod
- a oes rhwystr ymarferol i ddychwelyd, megis cyfyngiadau mynediad a osodir gan y wlad oherwydd COVID-19 neu os yw'r person yn anaddas yn feddygol i deithio, ac a ellir goresgyn hyn
- a oes unrhyw benderfyniadau gan y Swyddfa Gartref neu'r llys ar hawliadau mewnfudo sydd wedi gwneud canfyddiadau ynghylch a fyddai hawliau dynol y person yn cael eu torri ar ôl dychwelyd
- a oes angen i'r oedolyn gael cyngor cyfreithiol am ei opsiynau mewnfudo cyn y gellir ystyried dychwelyd
Pan na ellir disgwyl yn rhesymol i oedolyn adael y DU a'i fod yn cael ei asesu fel oedolyn ag anghenion gofal a chefnogaeth cymwys, byddai angen i'r awdurdod lleol roi cefnogaeth i'r oedolyn o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i'r graddau y mae angen er mwyn osgoi torri ei hawliau dynol. Bydd angen adolygu'r cymorth hwn yn rheolaidd a dylid diwygio'r asesiad hawliau dynol os bydd amgylchiadau'r person yn newid.
Os daw'r awdurdod lleol i'r casgliad, yn dilyn asesiad hawliau dynol, nad oes unrhyw rwystrau cyfreithiol na rhwystrau ymarferol sy'n atal oedolyn rhag dychwelyd i'w wlad wreiddiol, yna gellir cynnig cymorth i'r person ddychwelyd ar y sail y byddai hyn yn osgoi torri hawliau dynol a allai godi o'i sefyllfa ddiymgeledd yn y DU.
Pan fydd oedolyn mewn grŵp sydd wedi'i eithrio:
- rhaid i’r Gwasanaethau Cymdeithasol gynnal asesiad o anghenion gofal cymdeithasol os yw'n ymddangos bod angen hyn
- gall y Gwasanaethau Cymdeithasol ddarparu cymorth brys pan fo angen hyn tra bo'r asesiad gofal cymdeithasol a hawliau dynol yn cael ei gynnal
Pan nad yw oedolyn mewn grŵp sydd wedi'i eithrio, bydd y cymhwystra am gefnogaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael ei benderfynu drwy’r asesiad o anghenion gofal cymdeithasol yn unig. Mewn achosion o'r fath, ni fydd angen asesiad hawliau dynol. Ni fydd oedolyn mewn grŵp sydd wedi ei eithrio os oes ganddo ganiatâd i aros o dan amod NRPF.
Llesiant
Nid yw cefnogaeth y awdurdod lleol i hyrwyddo lles yn gronfa gyhoeddus at ddibenion mewnfudo. Mae yno i ddarparu rhwyd ddiogelwch ar gyfer y rhai sydd angen gofal a/neu gymorth.
Egwyddor gyffredinol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yw bod dyletswydd i hyrwyddo llesiant oedolion a phlant. Mae'r ddyletswydd hon yn berthnasol pan fydd plentyn neu oedolyn yn bodloni’r meini prawf cymhwystra a nodir yn Adran 32 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu i amddiffyn plentyn neu oedolyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod.
Yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ystyr llesiant yw llesiant mewn perthynas â’r canlynol:
- iechyd corfforol a meddyliol a lles emosiynol
- amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod
- addysg, hyfforddiant a hamdden
- perthnasoedd domestig, teuluol a phersonol
- cyfraniad a wneir i gymdeithas
- sicrhau hawliau ac iawnderau
- lles cymdeithasol ac economaidd
- addasrwydd llety byw
Mewn perthynas â phlentyn, mae llesiant hefyd yn cynnwys:
- datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol
- "lles" fel y’i dehonglir at ddibenion Deddf Plant 1989
Mewn perthynas ag oedolyn, mae llesiant hefyd yn cynnwys:
- rheolaeth dros fywyd o ddydd i ddydd
- cymryd rhan mewn gwaith
Mynediad at wasanaethau
Tai a Digartrefedd
Ar ddechrau pandemig COVID-19, mabwysiadodd Gweinidogion Cymru ddull 'na chafodd neb ei adael allan' fel na chafodd neb ei adael heb lety na'r cymorth roedd angen iddyn nhw gadw'n ddiogel oherwydd y risgiau iechyd cyhoeddus y byddent wedi'u hwynebu, ac am y cyfnod roedd cyfyngiadau'n weithredol. Gydag atal y cyfyngiadau hynny, a oedd yn caniatáu i'r Awdurdodau Lleol ddefnyddio pwerau gwahanol i gefnogi unrhyw un sydd angen lloches a chefnogaeth oherwydd y pandemig, nid yw'n bosib bellach darparu llety dros dro brys i bawb sydd â NRPF.
Yn awr rhaid i awdurdodau lleol gymhwyso'r rheolau a oedd yn weithredol cyn y pandemig, gan osgoi defnyddio arian cyhoeddus fel y'i diffinnir gan Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999, ar gyfer pobl sydd ddim â hawl iddynt. Fodd bynnag, mae amcan Llywodraeth Cymru o roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru a sicrhau profiadau o ddigartrefedd yn cael eu gwneud yn brin, yn fyr ac yn ddi-drefn yn golygu bod awdurdodau lleol yn cael eu hannog i osgoi dileu cyllid rhywun sy'n cael ei letya'n ddisymwth mewn llety dros dro ar hyn o bryd, pe gallai hynny arwain at orfodi'r person hwnnw i gysgu allan. Dylai awdurdod lleol gael ei gyngor cyfreithiol ei hun, a allai fod yn ofynnol fesul achos, os oes amheuaeth am faint o gymorth y gallai gynnig unigolyn. Fel yr amlinellir yn y canllawiau hyn, dylai awdurdod lleol ddihysbyddu'r holl opsiynau sydd ar gael iddo, megis cymorth y gellid ei ddarparu gan sefydliad Trydydd Sector neu gymdeithas dai. Mae Canolfan Cyfraith Camden wedi cyhoeddi canllawiau Exhaust pob opsiwn i gartrefu'r digartref y gallai awdurdodau lleol ddod o hyd i gymorth wrth gynorthwyo pobl.
Dylai person neu deulu sy’n troi at y gwasanaethau tai gael cymorth drwy’r llwybr cefnogaeth canlynol.
- darparu, neu atgyfeirio i, wasanaethau sy’n rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth
- gwirio i weld a yw’r person dan amodau NRPF
- atgyfeirio i’r gwasanaethau cymdeithasol am asesiad o anghenion
- cyfeirio at gynghorydd mewnfudo gyda chaniatâd y person. Yr arfer gorau fyddai rhoi’r wybodaeth yn ysgrifenedig yn newis iaith y person, cynnig dehonglydd i alluogi’r person i gyfathrebu’n rhwydd
Fel y nodir o dan Adran 60 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 nid yw darparu gwybodaeth a chyfeirio at wasanaethau tai a gwasanaethau cyngor ar ddigartrefedd yn arian cyhoeddus at ddibenion statws mewnfudo. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i sicrhau bod gwasanaeth yn cael ei ddarparu i roi gwybodaeth, cyngor a help i gael gafael ar gymorth i unrhyw un yn ei ardal, neu sydd â chysylltiad lleol â'i ardal, sy'n dod atynt am gymorth, gan gynnwys pobl nad ydynt yn gymwys i gael cymorth tai arall o dan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Yn ogystal, gall y Gwasanaethau Cymdeithasol ddarparu llety i oedolion a phlant sydd angen gofal a chefnogaeth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Gweler Adran 34 o’r Ddeddf honno.
Eithriadau
Personau sy’n destun rheolaeth mewnfudo sy’n gymwys am ddyraniad llety tai, fel y nodir yn Rheoliad 3, Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014.
Y Trydydd Sector
Mae nifer o sefydliadau trydydd sector sy’n rhoi llety a chefnogaeth hanfodol i fudwyr digartref yng Nghymru nad ydynt yn gymwys am ofal a chefnogaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol. Nodir llawer o hyn yn y ddogfen Astudiaeth Dichonoldeb Darparu Llety yng Nghymru i Geiswyr lloches a Wrthodwyd (Ebrill 2020). Mae hyn yn cynnwys tai a rennir, cynlluniau lletya a llochesi nos a hosteli. Bydd angen i awdurdodau lleol fapio ac ymgysylltu â sefydliadau'r trydydd sector yn eu hardal er mwyn deall cwmpas a chapasiti llwybrau atgyfeirio.
Cymdeithasau Tai
Er bod tai awdurdodau lleol yn cyfrif fel arian cyhoeddus at ddibenion mewnfudo, nid yw darparu tai gan Gymdeithas Tai, ar yr amod nad yw'n cael ei ddyrannu drwy gofrestr tai sy'n cael ei rhedeg gan awdurdod lleol, yn cyfrif fel arian cyhoeddus.
Mae Cymdeithasau Tai yn gallu darparu llety ac mae nifer gyfyngedig o Gymdeithasau Tai yng Nghymru yn gwneud hyn neu'n ystyried gwneud hyn.
Tywydd garw
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol i atal yr effeithiau gwaethaf ar bobl sy'n ddigartref ac ar y stryd, yn ystod cyfnodau o dywydd garw. Mae hyn yn berthnasol gan amlaf pan fydd tywydd oer, ond gall cynlluniau tywydd garw awdurdodau lleol fod yr un mor berthnasol pan fydd gwres eithafol, gwyntoedd/stormydd a glaw/llifogydd, a allai beri niwed i fywyd. Bydd dechrau ar gynllun tywydd garw yn cynorthwyo awdurdodau lleol i gydnabod ffactorau megis parhad a difrifoldeb y tywydd garw a'r effaith debygol y gallai gael ar rywun sy'n ddigartref ac ar y stryd.
Lle mae argyfwng neu drychineb (gwirioneddol neu ar fin digwydd) sy'n cynnwys perygl i fywyd o ganlyniad i dywydd garw, mae'n fater i'r awdurdod lleol ystyried a yw cymorth digartrefedd yn cael ei ddarparu fesul achos. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, os bydd argyfwng neu drychineb yn golygu perygl i fywyd i’r bobl hynny sydd heb hawl i gyllid cyhoeddus.
Budd-daliadau lles
Mae’r budd-daliadau lles y mae person NRPF yn gymwys i’w cael yn gallu newid; mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar wefan GOV.UK.
Dyma’r budd-dadliadau nad oes gan berson NRPF hawl iddynt ar hyn o bryd am eu bod yn cael eu cyfrif yn arian cyhoeddus.
- Lwfans Gweini
- Lwfans Gofalwr
- Budd-dal Plant
- Credyd Treth Plant
- Budd-dal y Dreth Gyngor
- Gostyngiad yn y Dreth Gyngor (a elwir weithiau'n Gymorth Treth Gyngor) nid yw gostyngiadau'r dreth gyngor, fodd bynnag, megis gostyngiadau meddiannaeth unigol, yn cael eu hystyried yn 'Arian Cyhoeddus' at ddibenion y Rheolau Mewnfudo
- Taliad Lles yn ôl Disgresiwn (taliad cymorth dewisol yn Lloegr yn unig a wneir gan Awdurdod Lleol o dan adran 1 o Ddeddf Lleoliaeth 2011)
- Lwfans Byw i'r Anabl
- Budd-dal Tai
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (Nid lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau, a allai hefyd gael ei alw'n lwfans cyflogaeth a chymorth 'arddull newydd')
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (Nid lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau, a elwir hefyd yn lwfans ceisio gwaith 'arddull newydd')
- Cymhorthdal Incwm
- Taliad Annibyniaeth Personol
- Lwfans Anabledd Difrifol
- Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
- Credyd Cynhwysol
- Credyd Treth Gwaith
Mae'r budd-daliadau y gall person NRPF eu cael (yn ddibynnol ar yr amodau sy'n berthnasol i unrhyw un sy'n gwneud cais am y budd-daliadau hyn) yn cynnwys budd-daliadau sydd ar gael i berson sydd wedi gweithio a/neu dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y gorffennol, gan gynnwys:
- Budd-dal Profedigaeth
- Budd-dal gwraig weddw
- Taliadau Cymorth Profedigaeth
- Lwfans Ceisio Gwaith Arddull Newydd
- Lwfans Ceisio Gwaith seiliedig ar gyfraniadau
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Arddull Newydd
- Lwfans cyflogaeth a Chymorth seiliedig ar gyfraniadau
- Lwfans Gwarcheidwad
- Budd-dal Analluogrwydd
- Lwfans Mamolaeth
- Pensiwn Ymddeoliad y Wladwriaeth
- Tâl Mamolaeth Statudol
- Tâl Salwch Statudol (SSP)
- Gostyngiad Treth Gyngor Person Sengl
- Cefnogaeth Contract gofal Dioddefwr Caethwasiaeth Fodern
Nid yw unrhyw fudd-dal neu wasanaeth heb ei restru yn Adran 115 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999, neu ym mharagraff 6 o’r Rheolau Mewnfudo, yn arian cyhoeddus at ddibenion mewnfudo. Gallai unigolion NRPF wynebu canlyniadau difrifol o ran eu tebygrwydd o gael aros yn y DU os ydynt yn derbyn unrhyw arian cyhoeddus o’r math hwn, boed trwy gamgymeriad neu’n fwriadol.
Gall rheolau cymhwystra budd-daliadau fod yn arbennig o gymhleth pan fydd gan aelodau o'r teulu ar yr un aelwyd wahanol fathau o statws neu amodau mewnfudo sy'n gysylltiedig â'u harhosiad yn y DU. Er enghraifft, pan fydd gan ddinesydd Prydeinig bartner sydd dan amodau NRPF. Pan fydd rhywun sy'n hawlio gostyngiad yn y dreth gyngor, budd-dal tai neu gredyd cynhwysol yn byw gyda phartner sydd dan amodau NRPF, byddai angen i'r hawlydd gael gwybod a oes rhaid iddo gynnwys manylion ei bartner ar yr hawliad budd-dal. Os oes rhaid gwneud hynny, byddai angen iddo gael gwybod a fydd yn cael swm ychwanegol o fudd-dal oherwydd presenoldeb ei bartner ar yr aelwyd. Os yw'r person sy'n hawlio'r budd-dal yn cael swm ychwanegol oherwydd presenoldeb ei bartner, yna byddai angen i'w bartner ofyn am gyngor cyfreithiol gan gynghorydd mewnfudo i gael gwybod a fyddai derbyn y swm ychwanegol yn gallu effeithio ar ei sefyllfa fewnfudo bresennol neu yn y dyfodol.
Ar gyfer Dinasyddion AEE â statws Cyn-sefydlog, mae rhai gwahaniaethau yn y cymhwystra am fudd-daliadau lles. Mae hyn yn gysylltiedig â’r Prawf Preswylio Fel Arfer (HRT) sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt fod yn arfer hawl i fod yn gymwys i breswylio, megis bod â statws gweithiwr neu hunangyflogedig. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan y Gwasanaeth Cyhoeddi, Publishing Service website.
Os oes ganddynt statws Cyn-sefydlog gallant wneud cais am y canlynol:
- Taliad Annibyniaeth Personol
- Lwfans Byw i’r Anabl
- Lwfans Gweini
- Lwfans Gofalwr
Os oes ganddynt statws cyn-sefydlog a hawl gymwys i breswylio, efallai y byddant hefyd yn gallu gwneud cais am fudd-daliadau eraill.
Dylai person sy'n ddarostyngedig i amodau'r NRPF gael ei gyfeirio neu ei atgyfeirio at yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) neu at ddarparwr cyngor, megis Cyngor ar Bopeth, sy'n gallu esbonio'r budd-daliadau yn fanylach a chynorthwyo ag unrhyw geisiadau perthnasol.
Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV)
O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae'r cysyniad o lesiant yn cynnwys amddiffyn oedolion sengl a theuluoedd rhag camdriniaeth ac esgeulustod.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn diffinio oedolyn sydd mewn perygl fel oedolyn sydd:
- yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso neu mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso
- Ag anghenion am ofal a chymorth (p'un a yw'r awdurdod yn diwallu unrhyw un o'r anghenion hynny ai peidio)
- O ganlyniad i'r anghenion hynny, yn methu amddiffyn ei hun rhag y cam-drin neu'r esgeulustod na'r risg ohono
Gallai'r ymddygiadau canlynol roi'r oedolyn mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso:
- Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV)
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 adran 197 yn cyfeirio at fynegai o ymadroddion a’u diffiniadau. Mae gweithdrefnau Diogelu Cymru hefyd yn cynnwys diffiniadau defnyddiol o gamdriniaeth ac esgeulustod.
Yng Nghymru, mae deddf benodol o’r enw Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Pan fo oedolyn sydd wedi goroesi VAWDASV yn methu â chael budd-daliadau a chymorth tai oherwydd ei statws NRPF, mae dyletswydd ar y Gwasanaethau Cymdeithasol i asesu i weld a oes ganddo anghenion gofal a chefnogaeth, ac os felly, beth yw’r anghenion hynny gweler adran 19 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 . Mae’r ddyletswydd hon yn berthnasol i oedolion sengl a theuluoedd. Dylid darparu canlyniad yr asesiad yn ysgrifenedig i’r person, gyda’r rhesymau.
Wrth gynnal yr asesiad o anghenion rhaid i'r awdurdod lleol wneud y canlynol:
- ceisio nodi'r pethau y mae'r oedolyn yn dymuno eu cyflawni mewn bywyd o ddydd i ddydd
- asesu a allai gofal a chefnogaeth, gwasanaethau ataliol, neu wybodaeth, cyngor neu gymorth, gyfrannu ac os felly i ba raddau at gyflawni'r pethau hynny neu fel arall ddiwallu anghenion a nodwyd gan yr asesiad
- asesu a allai materion eraill gyfrannu ac os felly i ba raddau at gyflawni'r pethau hynny neu fel arall ddiwallu'r anghenion hynny
Caiff y awdurdod lleol ddarparu llety a chymorth ariannol i oedolyn NRPF sydd wedi goroesi VAWDASV os bodlonir yr amodau yn adran 35 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, pan fo’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi asesu bod angen gofal ar rywun, er enghraifft pecyn gofal neu le mewn lloches rhag cam-drin domestig.
Consesiwn Diymgeledd Trais Domestig (DDVC)
Bydd rhai mudwyr sydd wedi goroesi cam-drin domestig yn gymwys i wneud cais am ganiatâd amhenodol i aros yn y DU o dan y Rheol Trais Domestig (DV). Gelwir hyn weithiau yn gais SET DV. Unigolion yr oedd eu Caniatâd diweddaraf i Ddod i Mewn neu Aros fel priod, partner sifil neu bartner di-briod rhywun sy'n ddinesydd Prydeinig neu sydd â Chaniatâd Amhenodol i Aros (hyd yn oed os yw'r caniatâd mewnfudo hwnnw wedi dod i ben ers hynny), yr oedd eu perthynas yn gyfredol ar yr adeg y rhoddwyd y caniatâd mewnfudo ac y mae eu perthynas wedi chwalu oherwydd cam-drin domestig gan bartner neu aelod o'r teulu, all fod yn gymwys i wneud cais o dan y rheol DV.
Y gwahaniaeth rhwng y DVR a'r DDVC
Mae'r Rheol Trais Domestig (DVR) yn ddarpariaeth yn y Rheolau Mewnfudo sy'n caniatáu i'r rhai sy'n gymwys wneud cais am ganiatâd amhenodol i aros yn y DU fel dioddefwr cam-drin domestig. Mae cael caniatâd amhenodol i aros yn rhoi'r un hawl i fudwyr gael tai cymdeithasol, budd-daliadau lles, gwaith, rhentu a gofal iechyd, ag unrhyw ddinesydd Prydeinig.
Mae'r DDVC yn fath o ganiatâd dros dro i aros sy'n rhoi mynediad at arian cyhoeddus ar gyfer goroeswyr diymgeledd ar fisa priod/partner am 3 mis tra byddant yn gwneud cais am ganiatâd amhenodol i aros o dan y Rheol Trais Domestig (DVR). Mae hyn yn disodli caniatâd cyfredol y goroeswr i aros (fisa priod/partner), sy'n golygu na fyddai'r goroeswr yn gallu mynd yn ôl i'w fisa priod.
Byddai cais llwyddiannus am Ganiatâd Amhenodol i Aros yn golygu nad oeddent bellach dan amodau NRPF. Os yw goroeswr yn ddiymgeledd ac angen cymorth ariannol, gall wneud cais o dan y Consesiwn Diymgeledd Trais Domestig (DDVC) am 3 mis o Ganiatâd dros dro i Aros tra'n gwneud cais am ganiatâd Amhenodol i aros. Mae'r Caniatâd hwn i Aros yn disodli caniatâd blaenorol y ceisydd fel priod/partner sifil. Yn ystod y cyfnod hwn o dri mis, bydd y goroeswr yn gallu cael gafael ar arian cyhoeddus.
Os yw'r goroeswr yn cyflwyno cais am ganiatâd Amhenodol i aros cyn diwedd y cyfnod o dri mis dros dro i aros, caiff y Caniatâd hwn i Aros ei ymestyn yn awtomatig o dan Adran 3c o Ddeddf Mewnfudo 1971 hyd nes y bydd y Swyddfa Gartref yn gwneud penderfyniad ar y cais am Ganiatâd Amhenodol i Aros.
Os ydych chi'n cefnogi rhywun rydych chi'n amau y gallai fod yn gymwys cofiwch mai dim ond cyfreithwyr neu fargyfreithwyr mewnfudo a reoleiddir gan OISC sy'n cael cynghori unigolion ar eu hopsiynau mewnfudo, felly rhaid i chi beidio â dweud wrthynt eu bod yn gymwys. Yn hytrach, cynigiwch i helpu'r goroeswr i drefnu apwyntiad gyda chynghorydd neu gyfreithiwr mewnfudo rheoledig y gellir dod o hyd iddo drwy ddefnyddio'r GOV.UK finder service i gael cyngor ar ei opsiynau mewnfudo.
Cynhaliaeth Plant
Gall rhywun ddefnyddio'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i drefnu cynhaliaeth plant os yw’n oroeswr cam-drin domestig ac nad yw eisiau cysylltu â'r rhiant arall ei hun. Byddant yn cysylltu â'r rhiant arall ac ni fydd angen i bobl dalu'r ffi ymgeisio os ydynt yn profi cam-drin domestig. Ceir y manylion llawn yn nogfen cynhaliaeth plant GOV.UK.
Cymorth gan y trydydd sector
Mae yna nifer o wasanaethau arbenigol sy’n gwasanaethu Cymru gyfan o ran trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Byddant yn cynnig cymorth a chyngor yn ogystal â llochesi. I ddod o hyd i gymorth yn eich ardal chi gweler gwefan Cymorth i Ferched Cymru. Gweler pecyn Cymorth i Ferched Cymru Pecyn Cymorth ar Hawliau goroeswyr VAWDASV sy’n destun Rheoli Mewnfudo i gael mwy o wybodaeth ynghylch sut i gefnogi goroeswyr VAWDASV. Mae’n bosibl y bydd angen i’r awdurdod lleol dalu am unrhyw leoedd a gwasanaethau mae eu hangen mewn llochesi, gan y byddai’r rhain fel arall yn cael eu hariannu trwy arian cyhoeddus megis Budd-dal Tai.
Cymorth i ddioddefwyr Mudo NRPF
Mae'r cynllun hwn bellach ar agor ar gyfer atgyfeiriadau. Bydd yn rhoi cymorth i hyd at 500 o fudwyr sydd wedi dioddef cam-drin domestig a mathau eraill o gamdriniaeth sy'n gysylltiedig â'r rhywiau (a'u plant) sydd heb Hawl i Arian Cyhoeddus (NRPF).
Rhoddir blaenoriaeth i'r goroeswyr hynny nad oes ganddynt lwybr anheddu sefydledig ar hyn o bryd, er y bydd cymorth pontio ar gael mewn rhai amgylchiadau eithriadol i'r rhai sydd fel arall yn gymwys i gael consesiwn y DDVC, cymorth lloches, awdurdod lleol neu gymorth arall gan y wladwriaeth.
Llwybrau atgyfeirio
Dim ond drwy'r llwybrau atgyfeirio canlynol y bydd Cymorth i Ddioddefwyr Mudol yn derbyn atgyfeiriadau gan asiantaethau'r trydydd sector, awdurdodau lleol a chyrff statudol.
Mae Southall Black Sisters a phartneriaid ar draws y DU wedi cael cyllid i weithredu’r cynllun Cymorth i Ddioddefwyr Mudol, i roi cefnogaeth dros dro i fudwyr sydd wedi goroesi camdriniaeth a meithrin gwell dealltwriaeth o’u hanghenion. BAWSO yw eu mudiad partner yng Nghymru. Rhif eu llinell gymorth yw 0800 731 8147.
Plant ar eu Pen eu Hunain a’r Rhai sy’n Gadael Gofal
Mae Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi’r dyletswyddau ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal. Mewn llawer o ffyrdd bydd y plant hyn yn cael yr un gofal a chefnogaeth ag unrhyw blentyn arall sydd angen gofal a bydd y dyletswyddau yn Rhan 6 yn berthnasol i bob plentyn, beth bynnag fo'i statws mewnfudo. Rhoddir canllawiau manwl i Weithwyr Cymdeithasol ar sut mae cefnogi plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches yn A Best Practice Guide for Social Workers in Wales supporting Unaccompanied Asylum Seeking Children yn enwedig gyda’r materion cysylltiedig â’u statws mewnfudo. Mae hyn yn cynnwys cyrraedd y DU, asesu eu hoedran, ac anghenion ieithyddol a diwylliannol, aduno teuluoedd, cefnogi plant a phobl ifanc drwy’r broses ceisio lloches, a chefnogi’r rhai sy’n gadael gofal. Gweler hefyd ddogfen briffio Llywodraeth Cymru, cefnogi plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches yng Nghymru.
Mewn rhai achosion bydd ar blentyn angen i’r awdurdod lleol roi llety iddo am nad oes unrhyw un â chyfrifoldeb rhiant drosto neu mewn achosion lle mae’r plentyn ar goll neu wedi ei adael neu mewn amgylchiadau sy’n ei atal rhag cael gofal a llety gan riant neu berson â chyfrifoldeb rhiant.
Mae dyletswydd ar y awdurdod lleol o dan Adran 76 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i roi llety i blentyn o’r fath. Gellir sicrhau llety drwy drefnu i leoli’r plentyn gyda rhiant maeth mewn lleoliad preswyl megis cartref plant, neu drwy leoli’r plentyn gyda pherthynas (“lleoliad gydag aelod o’r teulu”).
Os yw plant wedi’u hatgyfeirio i’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol fel dioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern rhaid iddynt gael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth Gwarchod Annibynnol Plant sydd wedi’u Masnachu (ICTG). Mae’r gwasanaeth ICTG yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau cefnogaeth ymarferol, emosiynol a seicolegol i blant sydd wedi’u masnachu.
Iechyd
Nid yw gwasanaethau'r GIG yn arian cyhoeddus at ddibenion mewnfudo. Mae hyn yn golygu y gall pawb, waeth beth fo'u statws mewnfudo, gael mynediad i'r gwasanaethau canlynol yn rhad ac am ddim;
- triniaeth mewn adran damweiniau ac achosion brys
- gwasanaethau cynllunio teulu (nid yw'n cynnwys terfynu beichiogrwydd)
- diagnosis a thriniaeth ar gyfer clefydau heintus penodedig (Fel y nodir yn atodlen 1 i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989) fel y'u diwygiwyd
- diagnosis a thriniaeth ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ac eithrio pan fo'r ymwelydd tramor wedi teithio i'r DU er mwyn ceisio'r driniaeth honno
Ffioedd ysbyty ar gyfer ymwelwyr tramor: rheoliadau
Gall meddyg teulu, os yw ei restr o gleifion ar agor, ddewis derbyn ymwelydd tramor fel claf GIG naill ai ar gofrestriad llawn neu dros dro. Bydd cofrestru dros dro yn berthnasol pan fydd yr ymwelydd tramor mewn man preswylio dros dro ac yn bwriadu aros am fwy na 24 awr ond dim mwy na thri mis. Bydd yr unigolyn wedyn yn cael triniaeth gwasanaethau meddygol sylfaenol am ddim (gyda'r eithriadau yn y ddeddfwriaeth berthnasol lle gall meddyg teulu godi ffi neu dderbyn ffi). Gweler Rheoliadau 15 ac 16 o National Health Service (General Medical Services Contract (Wales) Regulations 2004.
Fel gyda meddygon teulu, mae gan Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol ddisgresiwn ynghylch a ddylid derbyn claf ar gyfer triniaeth y GIG ai peidio. Codir yr un ffioedd deintyddol ag sy'n berthnasol i breswylwyr cyffredin.
Fodd bynnag, bydd rhai mudwyr yn destun y Rheoliadau Taliadau i Ymwelwyr Tramor lle nodir pwy sy’n ddarostyngedig i’r taliadau a phwy sydd wedi eu heithrio.
Mae'r bobl sydd wedi'u heithrio o'r taliadau yn cynnwys:
- ffoaduriaid a cheiswyr lloches a'u dibynyddion sydd wedi gwneud cais ffurfiol gyda'r Swyddfa Gartref nad yw wedi'i benderfynu eto
- unigolion sy'n cael cymorth o dan adran 95 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 gan y Swyddfa Gartref
- ceiswyr lloches aflwyddiannus, a'u dibynyddion (Cymru yn unig)
- plant sy'n derbyn gofal gan Awdurdod Lleol
- dioddefwyr a dioddefwyr tybiedig Caethwasiaeth Fodern
- unrhyw un sy'n cael triniaeth orfodol o dan orchymyn llys neu sy'n cael ei gadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 neu Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005
- carcharorion a mewnfudwyr sydd wedi’u cadw dan glo
Mae eithriad rhag codi tâl am driniaeth y GIG yn seiliedig ar ddwy elfen allweddol preswyliaeth a statws cyfreithiol yn y DU. Rhaid bodloni'r ddau oni bai bod eithriad penodol o un neu'r ddau mewn rheoliadau codi tâl.
Gall yr amodau NRPF fod yn gwbl ar wahân i gymhwystra i dalu am driniaeth y GIG o ganlyniad. Er enghraifft, mae ymwelydd tymor byr â'r DU yn gyfreithlon yn y wlad o dan ei fisa ond nid yw hynny'n golygu ei fod wedi'i eithrio rhag talu am driniaeth, oherwydd nad yw’n preswylio yma fel arfer, oni bai bod eithriad penodol yn berthnasol.
Byddai ymwelwyr tymor hirach (hynny yw, dros chwe mis ond heb ganiatâd amhenodol i aros) hefyd yn gyfreithlon yn y wlad ond byddent yn gorfod talu oni bai eu bod wedi talu'r Gordal Iechyd Mewnfudo fel rhan o'u fisa, sydd wedyn yn golygu eu bod yn gymwys i gael triniaeth gan y GIG ar yr un sail â phreswylydd yn y DU.
Fodd bynnag, os daw'r fisa i ben a hwythau’n dal i fod yn y DU, byddai’n rhaid talu am eu gofal.
Yng Nghymru, ar yr amod bod ffoadur neu geisiwr lloches wedi gwneud cais ffurfiol i Lywodraeth y DU am loches (hyd yn oed os gwrthodir y cais) maent yn gymwys i gael triniaeth am ddim yng Nghymru nes iddynt adael y DU. Felly, er bod y person yn y DU heb statws mudo sicr, mae'r ddarpariaeth benodol yn y Rheoliadau Codi Tâl yn darparu'r eithriad. Yr unig achos lle byddai tâl yn cael ei godi am ofal ffoadur neu geisiwr lloches yng Nghymru yw os nad ydynt wedi gwneud cais ffurfiol i Lywodraeth y DU.
Ar gyfer Dinasyddion yr AEE oedd yn byw yn y DU cyn 30 Mehefin 2021, byddant yn cadw eu hawl i ofal iechyd y GIG am ddim ar ôl 30 Mehefin 2021. Unwaith y byddant wedi cael statws preswylydd cyn-sefydlog neu statws preswylydd sefydlog, neu tra bo’u cais yn yr arfaeth, ni chodir tâl arnynt am eu gofal iechyd, cyn belled â'u bod yn parhau i fod yn preswylio fel arfer yn y DU. Efallai y gofynnir iddynt ddangos bod ganddynt statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog wrth geisio gofal iechyd.
Mae’r GIG yng Nghymru wedi paratoi cerdyn i fudwyr fynd gyda nhw at y Meddyg Teulu i’w helpu i gofrestru.
Mae’r cerdyn yn dweud: rwyf yma i gofrestru gyda Meddyg Teulu. Mae gen i hawl i gofrestru a derbyn triniaeth gan bractis Meddyg Teulu. Gall unrhyw un yng Nghymru gofrestru gyda Meddyg Teulu i gael triniaeth. Nid oes angen cyfeiriad sefydlog na dogfen adnabod arna i. Gall unrhyw un yng Nghymru sydd wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu gael presgripsiwn am ddim. Mae gen i hawl i ofyn am ddehonglydd ac i gael un gan ddarparwyr gofal iechyd heb unrhyw gost.’ Mae’r cerdyn yn nodi hefyd pa gefnogaeth y gallai fod ei angen arnynt a sut mae ymdrin â phroblemau cofrestru.
Menywod Beichiog a gwasanaethau Mamolaeth
Nid oes gan y awdurdod lleol ddyletswydd tuag at blentyn hyd nes y bydd wedi’i eni. Ond gall menyw feichiog heb blant eraill fod ag anghenion gofal a chymorth fel oedolyn sengl, a dylid ei hasesu felly.
Nid yw gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru wedi'u heithrio rhag taliadau. Fodd bynnag, oherwydd y risgiau iechyd difrifol sy'n gysylltiedig â chyflyrau fel eclampsia a chyn-eclampsia, ni ddylid atal gwasanaethau mamolaeth os nad yw'r fenyw yn gallu talu ymlaen llaw. Fodd bynnag, mae'r claf yn parhau i fod yn atebol am daliadau a dylid mynd ar drywydd y ddyled yn y ffordd arferol.
Byddai menywod sy'n cael eu heithrio o daliadau'r GIG (er enghraifft, ceiswyr lloches/ffoaduriaid sydd wedi gwneud cais ffurfiol i Lywodraeth y DU am Ganiatâd Amhenodol i Aros, neu'r rhai sydd wedi talu'r Gordal Iechyd Mewnfudo) yn gallu cael mynediad at wasanaethau mamolaeth yn rhad ac am ddim ar yr amod nad oedd y rheswm dros eu hymweliad â'r DU yn benodol i roi genedigaeth neu i gael triniaeth mamolaeth.
Bydd angen i fenywod o wledydd yr UE sy'n dymuno dod i'r DU yn benodol i roi genedigaeth neu gael triniaeth mamolaeth fod wedi cael eu hatgyfeirio yma gan ddefnyddio ffurflen mamolaeth S2.
Mae menywod o wledydd nad ydynt yn rhan o'r AEE y mae gan y DU gytundebau gofal iechyd dwyochrog â nhw yn gymwys i gael triniaeth angenrheidiol ar unwaith mewn cysylltiad â'u beichiogrwydd, os bydd argyfwng annisgwyl yn codi yn ystod eu hymweliad. Mae hyn yn berthnasol p'un a gadarnhawyd y beichiogrwydd gyntaf yn y DU neu rywle arall. Fodd bynnag, os ydynt yn dod i'r DU neu'n aros yn y DU i gael gofal cynenedigol rheolaidd neu i roi genedigaeth i’w baban, yna bydd taliadau'n berthnasol, oni bai eu bod yn cael eu hatgyfeirio'n benodol i'r DU o dan y cytundeb oherwydd cymhlethdodau.
Cymorth mamolaeth
Gall ceiswyr lloches wneud cais am daliad mamolaeth untro o £300 os yw eu baban i’w eni ymhen 8 wythnos neu lai, neu os yw eu baban o dan 6 wythnos oed. Gall ceiswyr lloches a wrthodwyd (y cyfeirir atynt hefyd fel ceiswyr lloches aflwyddiannus neu Geiswyr Lloches â’u Hawliau Apelio wedi Disbyddu) wneud cais am daliad mamolaeth untro o £250 os yw eu baban i’w eni o fewn 8 wythnos neu lai, neu os yw eu baban o dan 6 wythnos oed.
Bydd angen i bobl ofyn am ffurflen MAT B1 gan eu meddyg i wneud cais am y taliad. Os ydynt eisoes wedi gwneud cais am Cymorth Lloches gall eu tîm cymorth helpu gyda’r cais. Gall elusennau trydydd sector helpu i wneud ceisiadau i’r Swyddfa Gartref.
Gofal plant
Nid yw gofal plant a ariennir gan y wladwriaeth yn cyfrif fel arian cyhoeddus at ddibenion mewnfudo. Bydd pob plentyn tair neu bedair oed yn gallu cael lleiafswm o 10 awr o addysg am ddim, ran amser, yn ystod y Cyfnod Sylfaen mewn ysgol, neu feithrinfa a ariennir. Mae dogfen Llywodraeth Cymru, Gofal Plant i blant 3 a 4 oed Gov.Wales, yn rhoi rhagor o fanylion. Bydd rhai Awdurdodau lleol yn cynnig mwy na hyn.
Efallai y bydd rhieni sy’n gweithio hefyd yn gallu cael hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant ac addysg gynnar wedi’u cyfuno. I fod yn gymwys:
- rhaid i'r plentyn fod yn 3 neu 4 oed
- rhaid i bob rhiant ennill o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog byw am 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd
- rhaid i bob rhiant ennill llai na £100,000 y flwyddyn
- mae angen i rieni teuluoedd unig riant fod yn gweithio
- rhaid i’r ddau riant mewn teulu dau riant fod yn gweithio
- mae angen i rieni sy'n hunangyflogedig neu sydd ar gontract dim oriau brofi eu statws a darparu dogfennau perthnasol
- rhieni sy'n gyflogedig neu'n hunangyflogedig ond sydd ar absenoldeb statudol er enghraifft, absenoldeb mamolaeth
- gall gofalwyr maeth a gofalwyr sy'n berthnasau fod yn gymwys hefyd
- gall teuluoedd lle mae un rhiant yn cael budd-daliadau penodol fod yn gymwys hefyd
Hefyd, efallai y bydd rhieni sy’n byw mewn ardal Dechrau’n Deg yn gallu cael 2.5 awr o ofal plant am ddim 5 diwrnod yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn ar ôl ail ben-blwydd y plentyn.
Cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yr Awdurdod Lleol i weld lleoliadau daearyddol Dechrau’n Deg a ble y gellir bod yn gymwys am ofal plant di-dâl.
Yn ychwanegol, mae amrywiaeth eang o sefydliadau trydydd sector sy’n darparu cyfleoedd chwarae am ddim i blant teuluoedd mudol, yn enwedig, ond nid yn unig, ym mhedair ardal wasgaru Caerdydd, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam. Cysylltwch â’r Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Lleol am ragor o fanylion.
Mae Bookstart in Wales | BookTrust yn darparu dau becyn llyfrau, y dylai’r Ymwelydd Iechyd eu dosbarthu: un ar adeg y gwiriad iechyd 6 mis a’r ail adeg y gwiriad iechyd 27 mis. Nid yw’r pecynnau llyfrau’n cael eu hystyried yn arian cyhoeddus at ddibenion mewnfudo. Maent am ddim i bob rhiant sy’n byw yng Nghymru.
Cynhaliaeth Plant
Nid yw cynhaliaeth plant yn cael ei ystyried yn arian cyhoeddus at ddibenion mewnfudo felly gall rhiant wneud cais am gynhaliaeth waeth beth fo'i statws mewnfudo neu statws mewnfudo ei blentyn, gan gynnwys pan fo'r rhiant dan amodau NRPF.
Fodd bynnag, rhaid i'r rhiant sy'n gofalu am y plentyn, y rhiant dibreswyl a'r plentyn i gyd fod yn preswylio fel arfer yn y DU. Gall person fod yn preswylio'n arferol waeth pa fath o statws mewnfudo sydd ganddo.
Gall rhiant nad oes ganddo rif Yswiriant Gwladol wneud cais, er y bydd angen profi pwy yw'r holl bartïon dan sylw, gyda thystysgrifau geni os oes modd. Yn gyntaf, rhaid i'r rhiant gysylltu ag Opsiynau Cynhaliaeth Plant i drafod ei opsiynau. Os nad oes ganddo rif Yswiriant Gwladol, gall ofyn i'w achos gael ei reoli drwy'r Broses Ymdrin ag Achosion Eithriadol. Yna, byddai angen gwneud cais am gynhaliaeth plant drwy'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.
Os nad yw rhiant yn gallu trefnu i dderbyn cynhaliaeth plant yn uniongyrchol gyda rhiant arall y plentyn, efallai y bydd yn gallu gwneud cais am daliadau drwy Wasanaeth Cynhaliaeth Plant Llywodraeth y DU.
Addysg
Addysg oedran ysgol orfodol
Nid yw addysg gynradd ac uwchradd a ariennir gan y wladwriaeth yn cyfrif fel Arian Cyhoeddus at ddibenion mewnfudo. Felly, mae gan unrhyw un rhwng pump ac un ar bymtheg oed, ac eithrio twristiaid, hawl i addysg oedran ysgol.
Nid yw prydau ysgol am ddim yn cyfrif fel arian cyhoeddus at ddibenion mewnfudo. Fodd bynnag, mae'r hawl i gael prydau ysgol am ddim yn gysylltiedig â hawl i fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd. Felly ni fydd gan y rhan fwyaf o bobl sydd dan amodau NRPF hawl i gael prydau ysgol am ddim. Mae gan blant ceiswyr lloches sy'n cael cymorth gan y Swyddfa Gartref hawl i gael Prydau Ysgol am Ddim. Mae Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol i arfer eu disgresiwn i ddarparu Prydau Ysgol am Ddim i unrhyw blentyn y mae statws mewnfudo ei rieni yn golygu nad oes hawl awtomatig. Gall Awdurdodau Lleol benderfynu peidio â defnyddio eu pŵer o dan Adran 512ZA o Ddeddf Addysg 1996 i godi tâl am brydau ysgol i blant o deuluoedd NRPF.
Nid yw brecwast ysgol am ddim yn cyfrif fel arian cyhoeddus at ddibenion mewnfudo. O dan y canllawiau brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd gall pob ysgol gynradd yng Nghymru ofyn i’r Awdurdod Lleol ddarparu brecwast am ddim yn eu hysgol. Os yw’r ysgol yn gwneud y cais hwn bydd brecwast ar gael i bob disgybl ysgol gynradd, beth bynnag fo’i statws mewnfudo. Fodd bynnag, nid oes rhaid i ysgolion ddarparu brecwast ysgol am ddim. Os nad yw ysgol yn darparu brecwast am ddim gall rhiant ofyn i’r ysgol wneud hynny. Os yw ysgol yn teimlo y byddai digon o blant yn defnyddio’r brecwast am ddim byddant fel arfer yn gwneud cais i’r awdurdod lleol ei ddarparu wedyn.
Nid yw grantiau gwisg ysgol yn cyfrif fel arian cyhoeddus at ddibenion mewnfudo. Rhoddir cyllid i ysgolion fel rhan o’r Grant Datblygu Disgyblion. Bydd pwy sy’n gymwys yn amrywio, gan ddibynnu ar yr awdurdod lleol. Mewn rhai ardaloedd bydd cymhwystra am grantiau gwisg ysgol yn gysylltiedig â’r cymhwystra am brydau ysgol am ddim, felly bydd yr un eithriadau’n gymwys. Ond yn ardaloedd awdurdodau lleol eraill, mae’r grantiau gwisg ysgol wedi’u rhoi ar gael i bob disgybl y mae ei rieni dan amodau NRPF.
Nid yw cludiant ysgol yn cyfrif fel Arian Cyhoeddus at ddibenion mewnfudo. Mae plant ysgolion cynradd yn cael cludiant am ddim o’u cartrefi i’r ysgol os ydynt yn byw dros 2 filltir i ffwrdd o’r ysgol addas agosaf, ac mae plant ysgolion uwchradd yn cael cludiant am ddim os ydynt yn byw 3 milltir neu fwy o’r ysgol addas agosaf.
Addysg Uwch ac Addysg Bellach
Nid yw Addysg Uwch (AU) nac Addysg Bellach (AB) yn cyfrif fel arian cyhoeddus at ddibenion mewnfudo. Fodd bynnag, bydd gwahanol reolau ac amodau ynghylch talu ffioedd (ffioedd cartref neu dramor) a mynediad at gymorth myfyrwyr gan ddibynnu ar statws mewnfudo person a pha mor hir y bu’n preswylio yn y DU. Gall y rheolau hyn fod yn gymhleth ac fe’u nodir yn fanwl gan Gyngor y DU am Faterion Myfyrwyr Rhyngwladol (UKCISA). Yn ychwanegol, bydd rhai prifysgolion yn cynnig ysgoloriaethau i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Mae cyllid myfyrwyr ar gyfer addysg uwch, boed yn grantiau cynhaliaeth a benthyciadau neu fenthyciadau ffioedd dysgu, ar gael drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru os yw'r myfyriwr yn bodloni'r tair amod canlynol:
- gwladolyn y DU, dinesydd Gwyddelig, neu â statws preswylydd sefydlog neu statws cyn-sefydlog o dan Gynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE neu heb unrhyw gyfyngiadau ar ba mor hir y gall aros yn y DU
- fel arfer yn byw yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs (fel arfer cyn 1 Medi)
- wedi bod yn byw yn y DU a'r Ynysoedd ers 3 blynedd cyn dechrau'r cwrs
Gall myfyriwr fod yn gymwys hefyd i wneud cais am gymorth os yw’n bodloni nifer o feini prawf eraill. Gweler y wybodaeth bellach am drefniadau ariannu ar gyfer y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA) a chynlluniau Grantiau Dysgu (Addysg Bellach) Llywodraeth Cymru.
Yn y rhan fwyaf o achosion, caiff cyrsiau ESOL (Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill) eu darparu am ddim fel arfer, ond mae manylion llawn y meini prawf cymhwystra i ddysgwyr gael gafael ar ddarpariaeth a ariennir i’w gweld yng Nghanllaw Llywodraeth Cymru i’r fframwaith cynllunio a chyllido ôl-16.
Cymorth Cyfreithiol
Mae Cymorth Cyfreithiol yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU i alluogi pobl ar incwm isel i gael cyngor cyfreithiol am ddim. Nid yw cymorth cyfreithiol yn cael ei ystyried yn arian cyhoeddus at ddibenion mewnfudo a gall pobl ei ddefnyddio beth bynnag fo'u
statws mewnfudo, gan gynnwys pobl sydd dan amodau NRPF.
Fodd bynnag, dim ond ar gyfer rhai mathau o achosion ac ychydig iawn o faterion mewnfudo y mae cymorth cyfreithiol ar gael, sy'n golygu na fydd llawer o bobl sydd ar incwm isel yn gallu cael cyngor cyfreithiol am ddim.
Mae cymorth cyfreithiol ar gael ar gyfer y mathau canlynol o achosion:
- hawliadau lloches a rhai achosion mewnfudo
- achosion Gwasanaethau Cymdeithasol lle mae plant yn cymryd rhan
- help neu wasanaethau gan yr awdurdod lleol neu'r GIG oherwydd salwch, anabledd neu alluedd meddyliol
- cynrychiolaeth mewn tribiwnlys iechyd meddwl ar gyfer pobl a gedwir yn yr ysbyty
- apeliadau budd-daliadau i'r Uwch Dribiwnlys, yr Uchel Lys, y Llys Apêl neu'r Goruchaf Lys
- digartrefedd gan gynnwys llety lloches
- adolygiad barnwrol yn herio penderfyniadau gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Awdurdodau Lleol
- anghydfodau cyfraith teulu (sy’n cynnwys plant) i oroeswyr cam-drin domestig. Legal Aid for victims of domestic abuse or violence.
O ran achosion lloches a mewnfudo, mae cymorth cyfreithiol ar gael ar gyfer y canlynol:
- achosion ac apeliadau lloches
- mechnïaeth mewnfudo
- rhai ceisiadau a wneir gan ddioddefwyr cam-drin domestig
- ceisiadau gan ddioddefwr masnachu pobl
- achos gerbron y Comisiwn Apeliadau Mewnfudo Arbennig (SIAC)
- ceisiadau am gymorth lloches (os yw'r cais am dai a chymorth ariannol)
- ceisiadau a wneir gan blant o dan 18 oed sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu sydd wedi'u gwahanu oddi wrth eu rhieni
Mae cymorth cyfreithiol yn amodol ar asesiad modd, felly bydd incwm a chynilion rhywun neu gyfalaf arall yn cael eu hystyried i weld a ydynt yn gymwys ar gyfer hyn.
Mae rhai achosion hefyd yn destun asesiad teilyngdod, er enghraifft, apêl yn erbyn gwrthod lloches. Pan fydd y prawf teilyngdod yn berthnasol, bydd angen i'r cynrychiolydd cyfreithiol asesu'r tebygolrwydd y bydd yr achos yn llwyddo a dim ond os oes gan yr achos 50% neu fwy o siawns o lwyddo y gall barhau i ddarparu cynrychiolaeth.
Ymhlith yr hawliadau mewnfudo nad ydynt yn dod o dan gymorth cyfreithiol i oedolion neu blant nad ydynt yn perthyn i un o'r grwpiau a restrir uchod mae:
- ceisiadau bywyd teuluol a phreifat
- ceisiadau Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
- ceisiadau am ddinasyddiaeth Brydeinig
- ceisiadau i'r Cynllun Windrush
Pan fydd gan berson achos nad yw’n gymwys am gyllid cymorth cyfreithiol, efallai y gall wneud cais am Gyllid Achos Eithriadol i atal ei hawliau dynol rhag cael eu torri os na fydd ganddo gymorth cyfreithiol. Os rhoddir hyn, bydd yn gallu gofyn i unrhyw gynrychiolydd cymorth cyfreithiol sy'n arbenigo mewn cyfraith mewnfudo ymgymryd â'i achos. I gael Cyllid Achos Eithriadol, rhaid i'r person ddangos y canlynol:
- nid yw cymorth cyfreithiol ar gael fel arfer ar gyfer ei achos
- mae ei achos yn gryf
- mae’n gymwys yn ariannol i gael cymorth cyfreithiol
- mae angen cymorth cyfreithiol i atal ei hawliau dynol neu hawliau'r Undeb Ewropeaidd rhag cael eu torri
- heb gymorth cyfreithiol byddai'n amhosibl yn ymarferol cyflwyno ei achos neu byddai'r achos yn annheg
I wneud cais am gyllid Cymorth Cyfreithiol Achos Eithriadol gyda ffurflen CIV ECF1 rhaid llenwi’r ffurflen a’i chyflwyno gyda ffurflen teilyngdod a modd, i’r Tîm Achosion Eithriadol yn yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol. Mae’r ffurflen achos eithriadol a’r canllawiau ar gael ar GOV.UK.
Yn gyffredinol, ni fydd cynrychiolwyr cyfreithiol yn helpu pobl i lenwi’r ffurflen hon. Mae The Public Law Project wedi paratoi gwybodaeth am gyllid achos eithriadol er mwyn helpu pobl sydd angen gwneud cais amdano.
Bydd peth gwybodaeth gyfreithiol ar fewnfudo ar gael am ddim mewn rhai achosion trwy elusennau megis Asylum Justice, hyd yn oed pan nad yw Cymorth Cyfreithiol na chymorth achos eithriadol ar gael.
Argymhellion
Mae'r adran ganlynol yn nodi argymhellion i awdurdodau lleol eu dilyn er mwyn sicrhau y gall eu sefydliadau chwarae rhan lawn yng ngweledigaeth Cenedl Noddfa a sicrhau nad yw unigolion NRPF yn syrthio drwy graciau cymorth hanfodol oherwydd eu statws mewnfudo.
Dangos esiampl fel Cenedl Noddfa
Mae gweld y person a'i anghenion cyn ei statws mewnfudo yn hanfodol wrth weithredu fel Cenedl Noddfa. Mae'n hollbwysig bod swyddogion awdurdodau lleol yn ceisio nodi'r hyn y gallant ei wneud i helpu rhywun mewn angen, hyd yn oed os nad oes dulliau mwy cyffredin o helpu ar gael oherwydd amodau NRPF.
Rydym yn argymell bod awdurdodau lleol yn ymgorffori'r cysyniad hwn wrth sefydlu a hyfforddi staff. Bydd yr argymhellion eraill yn y bennod hon yn helpu awdurdodau lleol i weithredu gan ddangos esiampl o’r weledigaeth Cenedl Noddfa gymaint â phosibl.
Cymorth Interim
Er na ddylid darparu'r mathau penodol o arian cyhoeddus a restrir yn y Rheolau Mewnfudo i rywun sydd dan amodau NRPF, gall awdurdodau lleol ddarparu cymorth interim yn unol â'u swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol tra bo cymhwystra person i gael cymorth pellach yn cael ei archwilio.
Rydym yn argymell bod awdurdodau lleol yn sicrhau bod cymorth interim gwasanaethau cymdeithasol ar gael os yw'r awdurdod lleol yn credu bod anghenion cymorth yn bodoli.
Anghenion byw hanfodol
Os yw unigolyn dan amod NRPF ond bod asesiadau gwasanaethau cymdeithasol wedi ystyried bod angen cymorth parhaus gan y gwasanaethau cymdeithasol, mae'n hanfodol bod y cymorth hwn yn diwallu anghenion byw hanfodol unigolyn (neu deulu). Yn y gorffennol, mae achosion wedi codi lle mae unigolion wedi cael llai na chyfradd cymorth lloches y Swyddfa Gartref (£39.63 yr wythnos ar adeg ysgrifennu) sydd wedi cael ei hasesu'n llym gan y Llysoedd fel yr isafswm mae ei angen fesul person i ddiwallu anghenion byw hanfodol.
Rydym yn argymell bod awdurdodau lleol yn adolygu eu polisïau ar gyfer darparu cymorth ariannol ac yn ymrwymo i sicrhau na fydd unrhyw un a gefnogir o dan y gwasanaethau cymdeithasol yn cael llai na'r isafswm hwn (wedi'i addasu wrth i gyfraddau cymorth lloches newid).
Casglu Data
- Ar hyn o bryd, nid yw'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn casglu data yn systematig mewn perthynas â’r bobl NRPF y maent yn ymwneud â nhw. Mae'r diffyg data dibynadwy yn ei gwneud yn anodd monitro’r effaith mae penderfyniadau Llywodraeth y DU ar loches a mudo yn ei chael ar gymunedau Cymru ac yn atal awdurdodau lleol rhag nodi ac eirioli dros newidiadau polisi a allai helpu’r diymgeledd.
Rydym yn argymell bod awdurdodau lleol yn casglu data dienw yn systematig am yr unigolion NRPF sy'n ceisio cymorth. Dylai'r data hyn gynnwys:
- y dyddiad y gofynnir am gymorth
- y math o gymorth y gofynnir amdano
- dyddiad dechrau'r cymorth
- y math o gymorth a gafwyd
- dyddiad cyrraedd y DU
- y math o statws mewnfudo sydd gan y person ar hyn o bryd
- statws mewnfudo blaenorol y DU y gallai'r person fod wedi'i gael, er enghraifft fisa gwaith, fisa myfyriwr, ceisiwr lloches ac ati
- Rheswm dros fod yn ddiymgeledd, e.e. gwrthod lloches, aros yn hirach na chyfnod fisa, colli swydd ar fisa gweithiwr, ac ati
- y llwybrau allan o sefyllfa ddiymgeledd, er enghraifft apêl lloches, hawliad newydd, codi’r amodau NRPF, consesiwn cam-drin domestig, Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol ac ati
- amcangyfrif o gost fisol y cymorth fesul achos
- amcangyfrif o gost fisol y cymorth ar gyfer pob achos a gefnogir yn yr awdurdod lleol
Bydd casglu'r data hyn yn galluogi awdurdodau lleol i ddangos tystiolaeth o gostau ariannol a dynol parhaus penderfyniadau lloches a mudo yn eu hardal. Gall hefyd ei gwneud yn bosibl nodi patrymau o ran sut mae unigolion yn mynd yn ddiymgeledd a phryd y mae angen cymorth yr awdurdod lleol arnynt. Gellir defnyddio'r data hyn i eirioli dros newidiadau i bolisi Llywodraeth y DU neu i ymgysylltu'n rhagweithiol â'r rhai sydd mewn perygl o fod yn ddiymgeledd, yn unol â Nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).
Rhannu data
Er ein bod yn argymell bod awdurdodau lleol yn casglu'r data a amlinellir uchod, mae'n hanfodol bod protocolau rhannu data yn cael eu hystyried yn ofalus ymlaen llaw. Efallai y bydd llawer o unigolion NRPF yn ofni dod ymlaen i ofyn am gymorth os ydynt yn credu y bydd yr awdurdod lleol yn rhannu eu gwybodaeth ag adran Gorfodi Mewnfudo'r Swyddfa Gartref ac y gallai hyn arwain at eu symud o'r DU.
Rydym yn argymell bod yr awdurdod lleol yn cyhoeddi hysbysiad preifatrwydd hygyrch (mewn iaith hawdd ei darllen ac ieithoedd wedi'u cyfieithu) ar eu gwefan ac yn rhannu hyn â rhanddeiliaid lleol a'r rhai sy'n defnyddio eu gwasanaethau, i nodi sut y caiff data eu storio, eu defnyddio a'u rhannu. Mewn rhai achosion cyfyngedig, gallai fod yn briodol i ddata gael eu rhannu â'r Swyddfa Gartref ond rydym yn argymell mai dim ond gyda chydsyniad unigolion y gwneir hyn oni bai bod rhaid rhannu'r data hyn yn ôl y gyfraith. Efallai y bydd unigolion eisiau i chi rannu eu data gyda'r Swyddfa Gartref lle gallech fod wedi nodi llwybrau posibl allan o sefyllfa ddiymgeledd y mae angen i'r Swyddfa Gartref eu harchwilio.
Rydym hefyd yn argymell bod data dienw a gesglir yn cael eu rhannu â Llywodraeth Cymru i'n galluogi i nodi tueddiadau neu batrymau ledled Cymru ac eirioli ymhellach dros newidiadau i bolisi Llywodraeth y DU.
Llwybrau allan o sefyllfa ddiymgeledd
Mae unigolion sy'n ceisio cymorth yn debygol o fod yn rhyngweithio yn hir ac yn gymhleth â'r Swyddfa Gartref. Er bod yr amod NRPF efallai wedi’i osod ar gyfer eu harhosiad yn y DU, nid yw hyn bob amser yn gywir ac efallai y bydd newidiadau yn eu hamgylchiadau sy'n golygu y gall yr awdurdod lleol eu helpu i lywio llwybr allan o sefyllfa ddiymgeledd.
Ni ddylai swyddogion awdurdodau lleol roi cyngor cyfreithiol ar fewnfudo ond efallai y gallant gyflwyno unigolion i gwmnïau cyfreithiol a reoleiddir gan OISC/SRA a all ddarparu cyngor am ddim (neu Gymorth Cyfreithiol) ar eu hachos. Os gwrthodwyd lloches i unigolyn, efallai y bydd cyfleoedd i'r person hwnnw apelio yn erbyn y penderfyniad neu gyflwyno cais newydd am loches gyda thystiolaeth newydd. Os caniateir apêl, dylai'r Swyddfa Gartref ddarparu llety a chymorth ariannol i'r unigolyn unwaith eto.
Mae plant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches yn cael eu trin fel Plant sy'n Derbyn Gofal yng Nghymru nes eu bod yn oedolion. Fodd bynnag, dylai awdurdodau lleol sicrhau bod plant o'r fath yn cael eu cynorthwyo i gyflwyno eu cais llawn am loches yn 17 oed a hanner. Bydd cyflwyno'r cais hwn yn sicrhau y gall unigolyn barhau i gael llety a chymorth ariannol fel oedolyn.
Lle bo teulu wedi chwalu o ganlyniad i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, efallai y bydd unigolyn yn cael ei hun yn ddiymgeledd ond dan amod NRPF. Dylai awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn ymgysylltu'n agos â llochesi cam-drin domestig er mwyn sicrhau y gall unigolion gael y cymorth cyfreithiol seicogymdeithasol ac arbenigol sydd ei angen arnynt.
Mewn rhai amgylchiadau, bydd y Swyddfa Gartref yn codi’r amod NRPF pan fo unigolion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra. Gall unigolion wneud cais am hyn gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein, cais i newid amodau i alluogi mynediad at arian cyhoeddus os yw eu hamgylchiadau yn newid.
Bydd enghreifftiau eraill lle gall swyddog yr awdurdod lleol weithiau ddod o hyd i lwybrau allan o sefyllfa ddiymgeledd, hyd yn oed pan fo amod NRPF ar waith ar hyn o bryd. Efallai na fydd unigolion sy'n ceisio cymorth yn gwybod am y ffyrdd posibl hyn o fynd drwy eu sefyllfa ac mae gan swyddogion awdurdodau lleol rôl bwysig i'w chwarae.
Cynnal Teuluoedd
Weithiau, gall awdurdodau lleol ddod o hyd i enghreifftiau lle mae cyfle clir i roi cymorth i blentyn ond llai o lwybrau cymorth i riant y plentyn. Nid yw er budd gorau'r plentyn i wahanu teuluoedd fel hyn a dylai awdurdodau lleol ddefnyddio cymorth o fath arall gan y gwasanaethau cymdeithasol i sicrhau y gellir cynnal yr uned deuluol.
Datblygu a chynnal perthnasoedd proffesiynol effeithiol
Mae NRPF yn faes mor gymhleth lle gallai cymhwyso barn a dehongli proffesiynol fod yn debygol o achosi gwahaniaeth barn. Byddem yn annog pleidiau'n gryf i gytuno ar fecanweithiau lleol a fyddai'n ystyried ac yn datrys unrhyw wahaniaethau barn. Mae dod o hyd i ffyrdd cadarnhaol ymlaen drwy brosesau y cytunwyd arnynt wedi bod yn effeithiol o ran gwella profiadau a chanlyniadau i bawb dan sylw.
Partneriaethau gyda'r trydydd sector
Yn sail i'r holl waith hwn mae pwysigrwydd meithrin perthynas waith agos rhwng awdurdodau lleol ac asiantaethau’r trydydd sector sy'n gweithredu yn eu hardal. Bydd gan rai ardaloedd wasanaethau cefnogi sefydledig a phrofiadol sy'n gallu rhoi cyngor a chymorth i unigolion. Fodd bynnag, mewn ardaloedd eraill ychydig iawn o gymorth arbenigol a fydd ar gael gan y trydydd sector.
Rydym yn argymell bod swyddogion arweiniol mudo, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau digartrefedd awdurdodau lleol yn mapio ac yn meithrin cysylltiadau cryf ag asiantaethau'r trydydd sector yn eu hardal. Bydd asiantaethau'r trydydd sector bob amser yn ymdrechu i sicrhau bod asiantaethau awdurdodau lleol yn darparu'r holl hawliau y dylid eu darparu i gleientiaid cymwys. Bydd meithrin y cysylltiadau cryf hyn yn sicrhau bod gwasanaethau awdurdodau lleol yn deall ffyrdd o gefnogi ac yn gallu nodi cleientiaid cymwys cyn gynted â phosibl, gan osgoi gwrthdaro diangen rhwng gwasanaethau.
Datblygiad proffesiynol parhaus
Mae polisïau lloches a mudo Llywodraeth y DU yn newid yn aml ac mae'n bwysig sicrhau bod swyddogion awdurdodau lleol yn cael eu cefnogi i barhau â'u datblygiad proffesiynol yn y maes polisi hwn. Rydym yn argymell i awdurdodau lleol ddefnyddio trefniadau adrodd, hyfforddiant ac adnoddau y Rhwydwaith NRPF a Free Movement er mwyn gwybod a dysgu am y newidiadau diweddaraf.
Y Llwybr Lleol ‘Dim Hawl i Arian Cyhoeddus’
Er mwyn sicrhau bod swyddogion awdurdodau lleol yn deall sut mae eu sefydliad yn ceisio enghreifftio’r weledigaeth Cenedl Noddfa, rydym yn argymell bod pob awdurdod lleol yn datblygu llwybr Dim Hawl i Arian Cyhoeddus. Dylai'r llwybr gynnwys dull yr awdurdod lleol o weithredu'r argymhellion a geir yn yr adran hon.
Felly, dylai gynnwys:
- esboniad i staff newydd a staff presennol ynghylch sut y mae'r sefydliad yn disgwyl iddynt groesawu ac ymgysylltu â mudwyr sy'n defnyddio eu gwasanaethau
- rhagdybiaeth o blaid darparu cymorth interim i atal pobl rhag bod yn ddiymgeledd
- esboniad o sut y dylai staff awdurdod lleol bennu cyfraddau cymorth ariannol
- canllaw i gasglu a rhannu data
- gwybodaeth am y gwahanol fathau o lwybrau allan o sefyllfa ddiymgeledd y gallai swyddogion eu hystyried
- ymrwymiad i gynnal hawliau plant a chynnal teuluoedd sy'n gwahanu
- gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer y gwahanol asiantaethau trydydd sector sy'n gweithredu yn yr ardal
- cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus i swyddogion sy'n gweithio yn y maes hwn
Mae'r astudiaethau achos a drafodwyd yn gynharach yn y canllawiau hyn yn dangos gwerth datblygu'r llwybrau hyn i gefnogi'r aelodau hyn o'r gymuned sy'n eithriadol o agored i niwed.
Deddfwriaeth a pholisïau cyfredol
Deddfwriaeth a pholisïau y cyfeirir atynt yn y canllawiau hyn.
Deddfwriaeth a pholisïau mewnfudo
Cenedl Noddfa: Cynllun i Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches
Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, AEE eraill a’r Swistir ac aelodau eu teuluoedd
Eithriad Atodlen 3 Deddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002
Consesiwn Trais Domestig Diymgeledd
Deddfwriaeth a pholisi arall
Gwasanaethau Cymdeithasol
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesu) (Cymru) 2015
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015
Codau Ymarfer Gwasanaethau Cymdeithasol
Plant yn Gyntaf: Edrych ar ôl Plant ar eu Pen eu Hunain sy’n Ceisio Lloches
Caethwasiaeth Fodern a’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol
National referral mechanism guidance: adult (England and Wales)
Caethwasiaeth Fodern: canllawiau i weithwyr proffesiynol
Tai
Dyrannu llety a digartrefedd: canllawiau i Awdurdodau Lleol
Rheoliadau Dyrannau Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014
Darparu Llety yng Nghymru i Geiswyr Lloches a Wrthodwyd
Cyngor Mamolaeth Dim modd troi at arian cyhoeddus cymorth ariannol a thai
Ffederasiwn Tai Cenedlaethol cyngor ar dai i bobl heb droi at arian cyhoeddus
Sefydliad Siartredig Tai Hawliau Tai
Iechyd
Y ddarpariaeth iechyd a llesiant i ffoaduriaid a cheiswyr lloches
Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006
Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2009
Gweithredu’r Rheoliadau Ffioedd Ysbyty i Ymwelwyr Tramor
Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989
Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004
Addysg
Prydau Ysgol Am Ddim yng Nghymru: Gwybodaeth i Ysgolion
£25m i roi hwb cychwynnol i brydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru
Brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd: Canllawiau statudol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu
Grant Datblygu Disgyblion: Mynediad
Cyngor y DU am Faterion Myfyrwyr Rhyngwladol: Statws ffioedd Cymru
Gofal Plant Di-dâl yn y Cyfnod Sylfaen
Budd-daliadau Lles
Cymhwystra ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol
Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015
Consesiwn Trais Domestig Diymgeledd
Sefydliadau cefnogi
Mae llawer o sefydliadau eraill bach, lleol, y gellir cael hyd iddynt drwy’r gwasanaeth Gwirfoddol Sirol Cysylltwch â Cefnogi Trydydd Sector Cymru neu drwy’r sefydliadau a restrir isod.
Mae African Community Centre (ACC) Cymru yn elusen gofrestredig sy’n weithgar ar draws Cymru. Maen nhw’n croesawu pobl o bob man, yn enwedig y rhai a aned yn Affrica, Affricanwyr y Caribî ac Affricanwyr Prydeinig sy’n preswylio yng Nghymru. Nod ACC yw rhoi cyngor a chymorth i’ch helpu i ymgartrefu’n well yn y gymuned leol.
Asylum Justice (Cyfiawnder lloches) yw’r unig sefydliad yng Nghymru ac un o’r olaf sydd ar ôl yn y DU, sy’n darparu cynrychiolaeth gyfreithiol ddi-dâl i geiswyr lloches hyd at, a chan gynnwys, lefel y llysoedd. Mae Asylum Justice yn ymladd dros hawliau pobl y mae rhyfeloedd ac erledigaeth wedi effeithio arnynt.
Gall BAWSO ddarparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a mudwyr sydd wedi dioddef cam-drin domestig, trais rhywiol, masnachu pobl, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas drwy orfodaeth. Eu gweledigaeth yw dyfodol lle gall pawb yng Nghymru fod yn rhydd rhag cam-drin, trais a chamfanteisio.
Mae gan y Groes Goch Brydeinig wasanaeth cymorth penodol i ffoaduriaid ac adfer cysylltiadau teuluol yng Nghymru, maent yn cynnig gwaith achos a chymorth ymarferol i’r diymgeledd, Gwasanaethau Olrhain Teuluoedd Rhyngwladol, Cymorth i Aduno Teuluoedd a gwasanaethau eraill sy'n seiliedig ar brosiectau integreiddio. Gall y tîm hefyd gyfeirio pobl at eu gwasanaethau eraill megis benthyciadau ar gyfer cadeiriau olwyn, gwasanaethau cartref o'r ysbyty a gwasanaethau lleol allanol.
Nod Cardiff City of Sanctuary yw sicrhau bod:
- diwylliant, sgiliau a gwahaniaethau pobl yn cael eu derbyn fel caffaeliad cadarnhaol i Gaerdydd fel dinas
- ymrwymiad a rennir a seilwaith gwasanaeth sy'n hwyluso amgylchedd noddfa
- diwylliant o groeso sy'n creu perthnasoedd, cydlyniant cymunedol a chynhwysiant
Mae Chinese in Wales Association (CIWA) yn sefydliad elusennol sy'n ceisio darparu gwasanaethau a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau preswylwyr Tsieineaidd ethnig yng Nghymru. Maent yn cynghori ar les lleol, tai, gofal iechyd, addysg a chyflogaeth. Maent hefyd yn trefnu gweithgareddau cymdeithasol ac addysgol ac yn cymryd rhan yn y gwaith o hyrwyddo cymdeithas amrywiol, amlddiwylliannol.
Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu cyngor annibynnol, cyfrinachol a diduedd am ddim. Maent yn helpu pobl i ddod o hyd i ffordd ymlaen. Mae Cyngor ar Bopeth yn credu na ddylai unrhyw un orfod wynebu problemau heb gyngor annibynnol o ansawdd da. Maent yno i roi'r wybodaeth a'r hyder mae eu hangen ar bobl i ddod o hyd i'w ffordd ymlaen - pwy bynnag ydynt, a beth bynnag fo'u problem.
Mae gan Displaced People In Action (DPIA) 3 prif nod. Maent eisiau i geiswyr lloches a ffoaduriaid ddod yn: fwy hyderus; yn fwy hunangynhaliol; yn fwy integredig. Mae taith ceisiwr lloches neu ffoadur yn y DU yn anodd. Gall fod yn frawychus ymgysylltu â diwylliant a chymuned newydd, yn enwedig os mai Cymraeg neu Saesneg yw eich ail iaith. Mae DPIA eisiau helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i fagu'r hyder mae ei angen arnynt i deimlo'n gartrefol yng Nghymru.
EYST – Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig a Ieuenctid Cymru – Cefnogi pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig sy’n byw yng Nghymru. Eu nod yw cefnogi pobl ifanc duon a lleiafrifoedd ethnig i gyrraedd eu potensial llawn drwy raglen ieuenctid holistaidd a thargededig sy'n sensitif yn ddiwylliannol, gan gynnwys gweithwyr ieuenctid cymwysedig, gweithgareddau ieuenctid arloesol a chanolfan ieuenctid a chymunedol.
Mae Home4U Cardiff yn cynnig llety dros dro (dim mwy na chwe mis fel arfer) i Geiswyr Lloches a Wrthodwyd sydd:
- heb hanes o droseddu treisgar
- heb gael cynnig unrhyw lety priodol arall
- heb anghenion iechyd meddwl neu gorfforol difrifol, gan nad yw Home4U mewn sefyllfa i gefnogi pobl ag anghenion cymhleth
Mae pob arhosiad yn dibynnu ar y preswylydd yn cadw at ei gytundeb meddiannaeth. Nifer fach iawn o leoedd sydd yn Home4U.
Mae’r Huggard Centre wedi helpu pobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd ers dros 30 mlynedd. Gall unrhyw un sy'n chwilio am gymorth a lloches o'r strydoedd fynd atynt am fwyd, a lle diogel a chynnes i aros. Maent yn canolbwyntio ar roi'r cymorth mae ei angen ar bobl sy'n ddigartref ac yn agored i niwed i ailadeiladu eu bywydau – i gael dyfodol eto.
Migrant Help: yn bodoli i amddiffyn pobl yr effeithir arnynt gan ddadleoli a chamfanteisio, gan eu helpu i ffynnu fel unigolion a gwella o'u trawma. Maent yn cefnogi'r rhai mwyaf anghenus sydd leiaf tebygol o ddod o hyd i gymorth mewn mannau eraill, tra'n anelu at bontio bylchau cymunedol a dod â gwasanaethau a chymorth at ei gilydd.
Rhwydwaith NRPF: rhwydwaith cenedlaethol sy'n diogelu lles teuluoedd diymgeledd, oedolion a'r rhai sy'n gadael gofal nad ydynt yn gallu cael budd-daliadau oherwydd eu statws mewnfudo. Maent yn cefnogi cynghorau i atal digartrefedd, lliniaru tlodi plant, hyrwyddo integreiddio o fewn cymunedau lleol, a gweithredu gwasanaethau cost-effeithlon.
Mae Mind Casnewydd yn elusen iechyd meddwl. Credant na ddylai unrhyw un orfod wynebu problem iechyd meddwl ar ei ben ei hun. P'un a ydych dan straen, yn ddigalon neu mewn argyfwng, byddant yn gwrando, yn rhoi cymorth a chyngor, ac yn ymladd eich cornel. Mae ganddynt nifer o wasanaethau i bobl sy'n byw yng Nghasnewydd. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.
Oasis Caerdydd: eu prif nod a gweledigaeth yw helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i integreiddio yn eu cymuned leol eu hunain. Maent yn annog integreiddio o fewn eich cymuned a'ch diwylliant eich hun ac maent hefyd yn awyddus i ddysgu a chael eu hysbrydoli gan ddiwylliannau a thraddodiadau eu cleientiaid.
Rainbow Migration: yn cefnogi pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws, ‘queer’ a rhyng-rywiol (LGBTQI+) drwy'r system lloches a mewnfudo. Maent yn darparu cymorth ymarferol ac emosiynol i bobl LGBTQI+ sy'n ceisio lloches i helpu i wella eu hyder a'u hunan-barch a lleihau ynysigrwydd. Maent yn darparu gwybodaeth a chyngor cyfreithiol arbenigol, ac yn ymgyrchu i wella'r ffordd y caiff pobl sy'n ceisio lloches eu trin. Maent hefyd yn darparu cyngor a gwybodaeth gyfreithiol i bobl LGBTQI+ sydd eisiau byw yn y DU gyda'u partneriaid.
ShareDydd: llety wedi'i gynnal yn seiliedig ar argaeledd gwesteiwyr yng Nghaerdydd. Gall ShareDydd gynnal pobl sydd:
- heb gael mynediad i unrhyw lety priodol arall
- heb hanes o droseddu treisgar
- wedi cael cyfreithiwr ac yn anelu i reoleiddio eu statws (e.e.: Hawliad Ffres)
- yn gallu cyfathrebu â'u gwesteiwr
Yn anffodus, ni all ShareDydd letya pobl ag afiechyd meddwl neu gorfforol difrifol.
Nifer fach iawn o leoedd sydd.
Share Tawe: yn canfod llety a chymorth mewn cartrefi lleol i geiswyr lloches sydd mewn angen dybryd. Mae'r bobl y maent yn eu helpu wedi cael eu troi allan o'u llety, nid oes ganddynt arian, ac ni chaniateir iddynt weithio. Gyda lle diogel i aros a'n cefnogaeth brofiadol, mae llawer yn mynd ymlaen i brofi eu hawl i aros yn y DU ac adeiladu bywyd newydd yma.
Swansea City of Sanctuary: â’r weledigaeth i fod yn un o rwydwaith o leoedd sy'n groesawgar i bawb, sy'n falch o gynnig noddfa a chefnogaeth i'r rhai sy'n ffoi rhag trais neu erledigaeth, ac sy'n dathlu cyfraniad ceiswyr lloches a ffoaduriaid i'w dinasoedd a'u cymunedau. Lle bynnag y bydd pobl sy'n ceisio noddfa yn mynd yn Abertawe, dylent ddod o hyd i bobl sy'n eu croesawu, eu cynnwys a'u cynorthwyo, deall pam eu bod yma, a chydnabod a dathlu'r cyfraniad a wnânt.
The Gap Wales: elusen sydd wedi ymrwymo i wasanaethu pobl Casnewydd, De Cymru a'r cyffiniau. Maen nhw'n ceisio dod o hyd i gyfleoedd i "lenwi'r bwlch" lle nad yw gwasanaethau ac elusennau presennol yn gallu diwallu anghenion aelodau o'n cymuned.
Sefydlwyd Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru (WSMP) yn 2001 ac fe’i hariennir gan y Swyddfa Gartref. Mae'n gweithio gyda rhanddeiliaid yn y sectorau statudol, gwirfoddol, preifat a chymunedol i ddarparu swyddogaeth arwain, cynghori a chydgysylltu strategol ar fudo yng Nghymru.
Cyngor Ffoaduriaid Cymru yw dechrau diwedd y trawma. Dyma lle mae'r rhedeg yn stopio ac adferiad yn dechrau. Mae’n elusen sydd â 30 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru. Mae wedi ei hysgogi gan angerdd dros hawliau dynol, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ac awydd i wneud Cymru'n genedl noddfa groesawgar i'r rhai sy'n ceisio cael eu hamddiffyn.
Llinellau cymorth defnyddiol
Llinell gymorth byw heb ofn 24/7 rhif ffôn 0808 80 10 800. Croesawir galwadau yn Gymraeg.
- darparu cymorth a chyngor am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
- help a chefnogaeth i'r rhai sy'n profi neu'n adnabod rhywun sy'n profi caethwasiaeth fodern
- help a chefnogaeth i'r rhai sy'n profi neu'n adnabod rhywun sy'n profi trais ar sail anrhydedd (HBV) neu briodas dan orfod
- help a chefnogaeth i'r rhai sydd wedi profi neu sydd mewn perygl o anffurfio organau rhywiol benywod
Mae Cymorth i Ddioddefwyr Cymru'n darparu cymorth arbenigol i gefnogi pobl i ymdopi a’u cael yn ôl ar y trywydd iawn gyda'u bywydau. Gellir cysylltu â nhw dros y ffôn ar 08081689111 hefyd.
Samariaid Am ddim ac ar gael 24/7 rhif ffôn 116 123.
C.A.L.L. Llinell Gymorth Iechyd Meddwl Cymru Am ddim ac ar gael 24/7 rhif ffôn 0800 132 737 neu Tecstiwch HELP i 81066.
Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru (DAN) Am ddim ac ar gael 24/7 rhif ffôn dwyieithog 0808 808 2234 neu tecstiwch DAN i 81066.
Llinell Gymorth Dementia Cymru Wales Dementia Helpline Am ddim 0808 808 2235 neu tecstiwch HELP i 81066.