Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi dileu'r £470m sy'n ddyledus gan gyrff GIG Cymru fel y gallan nhw ganolbwyntio ar adfer o bandemig COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ers 2014, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £470m o gymorth ariannol strategol ar gyfer dyled hanesyddol ac ni fydd nawr angen ei ad-dalu.

Dywedodd Mr Gething:

“Mae chwe blynedd wedi bod bellach ers i Ddeddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2014 gyflwyno'r ddyletswydd i fantoli'r gyllideb dros dair blynedd.Mae'r cyfrifon eleni yn dangos nad yw pedwar bwrdd iechyd wedi gallu gweithio o fewn eu cyllidebau ers 2014 a'u bod, gyda'i gilydd, wedi cronni diffygion o dros £600 miliwn. Rydym wedi darparu bron i £470m mewn cymorth ariannol strategol i'r byrddau iechyd hyn yn ystod y cyfnod hwn.

Mae diffyg hanesyddol i'r fath raddau yn amlwg yn rhwystr i'r GIG wrth ddechrau cynllunio ar gyfer adfer o'r pandemig coronafeirws yn yr hirdymor ac mae'n dal y byrddau iechyd hyn yn ôl rhag cyflawni cydbwysedd ariannol.
Hyd yn hyn, y disgwyl oedd y byddai cyrff y GIG yn ad-dalu'r diffyg a'r cymorth ariannol hwn. I wneud hynny, byddai angen iddynt danwario.

Rwyf wedi penderfynu na fydd angen ad-dalu'r £470m o gymorth ariannol a phan fydd corff yn cydymffurfio â'r ddyletswydd i fantoli'r gyllideb dros dair blynedd, ni fydd yn ofynnol iddo ad-dalu unrhyw ddiffygion hanesyddol. 

Bydd hyn yn rhoi sicrwydd i'r cyrff hyn, gan eu helpu i ganolbwyntio ar adfer o'r coronafeirws yn y tymor byr, a hefyd i gynllunio at y dyfodol a gweithio tuag at gydbwysedd ariannol.”

Bydd adroddiad cryno o'r Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau’r GIG ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn cael ei gyhoeddi ym mis Awst ar ôl i Archwilydd Cyffredinol Cymru ei gymeradwyo.