Adroddiad ar ddeilliannau dysgu dysgwyr a oedd ar raglenni galwedigaethol, rhaglenni addysg cyffredinol (gan gynnwys Safon Uwch), prentisiaethau neu gyrsiau dysgu i oedolion rhwng Awst 2020 a Orffennaf 2021.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Deilliannau dysgwyr mewn addysg ôl-16 a effeithiwyd gan bandemig y coronafeirws (COVID-19)
Cyhoeddir yr ystadegau fel ystadegau arbrofol gan eu bod yn defnyddio dulliau newydd i ddeall deilliannau academaidd dysgwyr ôl-16 yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19). Mae nifer o welliannau wedi’u gwneud i’r dulliau a ddefnyddir ers y flwyddyn ddiwethaf. Mae ffigurau hanesyddol wedi’u hailgyfrifo yn y datganiad hwn gan ddefnyddio’r dulliau newydd. Nid oes modd eu cymharu ag ystadegau ‘mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16’, na ‘mesurau canlyniadau dysgwyr ar gyfer dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned’.
Mae’r ystadegau yn cwmpasu dysgwyr mewn colegau, chweched dosbarth a darparwyr dysgu oedolion, yn ogystal â dysgwyr ar brentisiaethau a’r dilyniant o Flwyddyn 11 i ddysgu ôl-16.
Prif bwyntiau
- Gwelwyd gwelliannau mawr i’r deilliannau ar gyfer dysgwyr mewn addysg gyffredinol (Safon Uwch) o gymharu â chyn y pandemig, ond mae’r deilliannau wedi bod yn waeth ar gyfer dysgwyr ar raglenni galwedigaethol nad ydynt yn rhai lefel 3, prentisiaethau, a’r rhan fwyaf o’r ddarpariaeth dysgu oedolion.
- Daeth y rhan fwyaf o'r cynnydd yn neilliannau A2 ar y graddau uwch. Cyflawnodd 27% o ddysgwyr A2 o leiaf dri A, o'i gymharu â 21% yn 2019/20 a 12% yn 2018/19.
- Fe wnaeth llawer o’r anghydraddoldebau mewn deilliannau ôl-16 ehangu neu ailgodi yn 2020/21.
- Gostyngodd deilliannau A2 yn sydyn i ddysgwyr o gefndiroedd Du, Affricanaidd, Caribïaidd a Du Prydeinig, gan ddadwneud llawer o'r cynnydd mewn graddau yn 2019/20, gan arwain at fwlch mawr mewn deilliannau.
- ran y cynnydd mewn graddau Safon Uwch, roedd nifer y dysgwyr a gododd radd yn y 10% o gymdogaethau lleiaf difreintiedig 5 gwaith yn uwch na dysgwyr yn y 10% o gymdogaethau mwyaf difreintiedig.
- Roedd dysgwyr Blwyddyn 11 yn fwy tebygol o ddilyn rhaglenni Safon Uwch a mynd i'r chweched dosbarth na chyn y pandemig, ond roeddent hefyd yn fwy tebygol o symud i raglen neu ddarparwr gwahanol, neu i roi'r gorau i ddysgu ôl-16 yn 2021/22.
- Roedd dysgwyr galwedigaethol yn fwy tebygol o aros mewn dysgu ôl-16 na'r flwyddyn flaenorol, ac roedd cyflawnwyr UG mewn colegau yn dal yn fwy tebygol o barhau ar A2 nag yr oeddent cyn y pandemig.
Adroddiadau
Deilliannau dysgwyr mewn addysg ôl-16 a effeithiwyd gan bandemig y coronafeirws (COVID-19), Awst 2020 i Orffennaf 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Deilliannau dysgwyr mewn addysg ôl-16 a effeithiwyd gan bandemig y coronafeirws (COVID-19), Awst 2020 i Orffennaf 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 160 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.