Neidio i'r prif gynnwy

Sut y gallwch chi reoli poen parhaus neu gronig yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Awst 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw poen parhaus

Mae poen parhaus neu gronig yn boen sy'n para am fwy na 3 mis er gwaethaf triniaeth. Yn wahanol i boen acíwt, sy'n arwydd o anaf neu salwch, gall poen parhaus barhau hyd yn oed ar ôl i'r achos cychwynnol gael ei ddatrys.

Gall poen parhaus effeithio ar ansawdd bywyd unigolion. Gall effeithio ar eu llesiant corfforol, emosiynol, economaidd a chymdeithasol. Mae angen dull cynhwysfawr i reoli poen parhaus, fel yr amlinellir yn y 6 elfen allweddol ar gyfer rheoli poen.

Y 6 elfen allweddol ar gyfer rheoli poen

Dyma'r 6 elfen allweddol ar gyfer rheoli poen:

  • gweithgarwch
  • deiet iach
  • cwsg o safon
  • iechyd meddwl da
  • osgoi sylweddau niweidiol
  • cynnal perthnasoedd da

Mae angen dull amlochrog i reoli poen parhaus. Gan ganolbwyntio ar y 6 elfen allweddol ar gyfer rheoli poen, gallwch wella ansawdd eich bywyd a rheoli'ch poen yn well. Mae'n bwysig gweithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol er mwyn llunio cynllun personol sy'n addas i'ch anghenion chi.

Gweithgarwch

Mae gweithgarwch corfforol yn hanfodol i reoli poen parhaus. Gall ymarfer corff rheolaidd helpu i leihau poen a gwella gweithrediad ac ansawdd bywyd. Dyma rai awgrymiadau i'ch helpu i gynnwys gweithgarwch yn eich bywyd bob dydd:

  • dechrau'n araf: dechreuwch drwy wneud ymarferion sy'n llai heriol fel cerdded, nofio neu ioga
  • mae cysondeb yn allweddol: anelwch at wneud ymarfer corff cymedrol yn rheolaidd, yn hytrach nag ymarfer corff dwys bob hyn a hyn
  • gwrando ar eich corff: rhowch sylw i'ch lefelau poen a dechrau'n raddol os oes unrhyw weithgareddau'n dwysáu'ch poen
  • cael cyngor proffesiynol: gall ffisiotherapydd lunio rhaglen ymarfer corff wedi'i theilwra sy'n addas i'ch anghenion chi

Deiet iach

Gall deiet maethlon chwarae rhan bwysig wrth reoli poen drwy leihau llid a chynnal iechyd. Ystyriwch y canllawiau dietegol a ganlyn:

  • bwydydd gwrthlidiol: ceisiwch gynnwys bwydydd sy'n llawn asidau brasterog omega-3, fel pysgod, hadau llin a chnau Ffrengig
  • ffrwythau a llysiau: ceisiwch fwyta amrywiaeth liwgar er mwyn cael ystod o wrthocsidyddion a maethynnau
  • grawn cyflawn: dewiswch rawn cyflawn yn lle grawn wedi'u prosesu er mwyn helpu i gynnal lefelau egni sefydlog
  • yfed digon o ddŵr: mae hydradu priodol yn hanfodol ar gyfer iechyd cyffredinol a gall helpu i reoli poen

Cwsg o safon

Mae cwsg yn elfen hanfodol o iechyd a llesiant, yn arbennig i'r rhai sy'n delio â phoen parhaus. Gall cwsg gwael waethygu poen, gan ei wneud yn anoddach ei reoli. Er mwyn gwella ansawdd cwsg, gallwch wneud y canlynol:

  • sefydlu trefn arferol: ewch i'r gwely a deffro ar yr un pryd bob dydd
  • creu amgylchedd ymlaciol: gwnewch yn siŵr bod eich ystafell wely yn dywyll ac yn dawel ac nad yw'n rhy boeth
  • lleihau'r defnydd o bethau sy'n gwneud ichi deimlo'n effro: osgowch gaffein a dyfeisiau electronig cyn amser gwely
  • defnyddio technegau ymlaciol: gall anadlu'n ddwfn, myfyrio neu ymarferion ymestyn ysgafn annog cwsg gwell

Iechyd meddwl da

Mae gan iechyd meddwl gysylltiadau agos â phoen cronig. Gall gorbryder, iselder a straen ddwysáu'r canfyddiad o boen. Mae'r strategaethau i gynnal iechyd meddwl yn cynnwys:

  • therapi: gall therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) helpu i newid meddyliau negyddol a datblygu strategaethau ymdopi
  • ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrio: gall yr arferion hyn leihau straen a gwella lefelau goddefiant poen
  • grwpiau cymorth: gall cysylltu â phobl eraill ddarparu cymorth emosiynol a chyngor ymarferol

Osgoi sylweddau niweidiol

Mae osgoi sylweddau niweidiol yn hanfodol i reoli poen parhaus. Gall sylweddau o'r fath gynnwys tybaco, alcohol a chyffuriau nad ydynt ar bresgripsiwn. Gall y sylweddau hyn waethygu poen ac ymyrryd â thriniaethau. Yn hytrach, canolbwyntiwch ar y canlynol:

  • gofyn am gymorth i roi'r gorau i smygu: gall stopio smygu leihau lefelau llid a gwella cylchrediad
  • cyfyngu ar faint o alcohol rydych chi'n ei yfed: gall yfed alcohol ymyrryd â'ch cwsg a meddyginiaethau poen
  • osgoi cyffuriau anghyfreithlon: defnyddiwch feddyginiaethau sy'n cael eu presgripsiynu gan eich darparwr gofal iechyd ac osgoi sylweddau nad ydynt ar bresgripsiwn

Cynnal perthnasoedd da

Mae cysylltiadau cymdeithasol a pherthnasoedd iach yn hanfodol ar gyfer llesiant emosiynol a rheoli poen. Dyma ffyrdd o feithrin perthnasoedd:

  • cyfathrebu: rhannwch eich profiadau a'ch teimladau â ffrindiau a theulu
  • cadw mewn cysylltiad: ymunwch â gweithgareddau cymdeithasol rydych chi'n eu mwynhau ac yn gallu ymdopi â nhw
  • gofyn am gymorth: peidiwch ag oedi cyn gofyn am help pan fyddwch chi ei angen
  • ymuno â rhwydweithiau cymorth: ystyriwch ymuno â grwpiau cymorth poen cronig, rhai wyneb yn wyneb ac ar-lein

Cyngor a chymorth