Rebecca Evans, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd a Ken Skates, Gweinidog Yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Mae COVID-19 nid yn unig yn fygythiad mawr i iechyd, lles a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, mae'n fygythiad i oroesiad llawer o fusnesau ac yn wir i lawer o agweddau ar yr economi.
Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wneud yr hyn y gall i leihau methiannau busnes ac i alluogi busnesau hyfyw i ‘aeafgysgu’ drwy'r gwaethaf wrth i’r economi gau lawr oherwydd COVID-19. Fodd bynnag, er mwyn i hyn lwyddo, wrth reswm, rhaid i Lywodraeth y DU ddefnyddio'r ysgogiadau macro-economaidd sydd o fewn ei gafael.
Oherwydd hyn, rydym yn croesawu'n gynnes gyhoeddiadau Canghellor y Trysorlys ddydd Gwener diwethaf, 20 Mawrth, yn arbennig y cynllun i gadw swyddi yn ystod argyfwng y coronafeirws, a oedd yn gam hanfodol tuag at alluogi busnesau i oroesi. Roedd y cyhoeddiad cynharach a wnaeth gadarnhau bod mwy o gymorth i'r sectorau lletygarwch, manwerthu a hamdden, drwy ryddhad ardrethi a thaliadau grant, hefyd yn newyddion da.
Yn dilyn y cyhoeddiad hwn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun y diwrnod canlynol er mwyn rhoi sicrwydd a chefnogaeth i'r sectorau hynny sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan yr argyfwng.
Fodd bynnag, mae yna nifer o feysydd y mae angen i’r llywodraeth fynd i’r afael â hwy ar fyrder o hyd, gan gynnwys, er enghraifft, darparu cymorth i'r hunan-gyflogedig, a helpu busnesau i dalu Ardrethi Annomestig mewn sectorau eraill o’r economi, yn ogystal â rhent ar eiddo masnachol.
Er mwyn ymateb i’r bylchau sy’n dod i’r amlwg yn ymyriadau Llywodraeth y DU, bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu cronfa draws-sector, draws-lywodraethol i ymateb i anghenion penodol busnesau, yn ystod cyfnod wedi’i reoli o ‘aeafgysgu’ i fusnesau. Bydd hyn yn helpu i gwrdd â chostau sefydlog nad ydynt bellach wedi’u cwmpasu gan incwm a enillir ac nad yw Llywodraeth y DU yn mynd i'r afael â hwy yn ddigonol drwy eu hymyriadau. Bydd hefyd o gymorth i ddinasyddion hunangyflogedig, os na fydd Llywodraeth y DU yn cymryd camau i gynnig cymorth uniongyrchol yr wythnos hon.
Bydd y gronfa yn cael ei chynllunio yn benodol i gynnwys mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol sydd hyd yma wedi dibynnu yn gyfan gwbl neu'n rhannol ar incwm o fasnachu.
Rydym yn bwriadu cyhoeddi manylion cyn gynted ag y medrwn dros y dyddiau nesaf. Yn amlwg, bydd yr union sgôp yn dibynnu ar ba fesurau pellach y mae Canghellor y Trysorlys yn eu cyhoeddi.
Nid oes amheuaeth y bydd sicrhau adnoddau digonol ar gyfer cronfa o'r fath yn gofyn am ddewisiadau anodd. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gwneud un addasiad i'r system Rhyddhad Ardrethi Annomestig ar gyfer y sector lletygarwch, manwerthu a hamdden a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf: i beidio ag ymestyn y rhyddhad o 100% i'r gyfran fach o eiddo sydd â gwerth ardrethol o £500,000 neu’n uwch.
Bydd hyn yn effeithio ar lai na 200 o eiddo ledled Cymru ond bydd yn rhyddhau mwy na £100 miliwn i roi hwb cychwynnol i'r gronfa argyfwng economaidd.
Byddwn yn ysgrifennu i’r holl fusnesau yr effeithir arnynt ac yn ei gwneud yn glir y byddwn yn ystyried cymorth yn ôl disgresiwn os bydd achos economaidd cryf dros wneud hynny.
Rydym hefyd yn falch o adrodd bod awdurdodau lleol Cymru wedi ymateb i’r her. Maent wedi cytuno nid yn unig i drefnu na fydd rhaid i’r busnesau hynny nad ydynt bellach yn atebol amdanynt dalu’r Ardrethi Annomestig, ond i ddosbarthu'r grantiau a gyhoeddasom yr wythnos diwethaf, o £10,000 ar gyfer pob busnes bach sy'n gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach a £25,000 ar gyfer busnesau bach a chanolig yn y sectorau lletygarwch, manwerthu a hamdden sy'n meddiannu eiddo sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000.
Yn olaf, hoffem annog cyflogwyr unwaith eto ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector i sicrhau bod iechyd a lles eu gweithwyr yn flaenoriaeth yn ystod y cyfnod heriol hwn.