Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Rwy’n falch o gyhoeddi y byddaf heddiw yn lansio proses penodiadau cyhoeddus newydd i ddewis y Cadeirydd Annibynnol a phedwar aelod annibynnol Panel Cynghori Amaethyddol Cymru. Mae disgwyl i’r Panel gael ei sefydlu’n gyfreithiol ar 3 Chwefror 2016 a bydd yn gweithredu’n llawn yn fuan wedi hynny.
Caiff y Panel ei sefydlu o dan Ddeddf y Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, a dyma’r corff cyntaf o’i fath yng Nghymru. Fel fforwm ar gyfer cyflogwyr a chynrychiolwyr gweithwyr i drafod gorchmynion cyflogau amaethyddol, bydd y Panel yn chwarae rhan hollbwysig wrth osod fframwaith ar gyfer cyflog teg a thelerau ac amodau eraill cyflogaeth amaethyddol. Y tu hwnt i osod cyflogau amaethyddol, bydd gan y Panel gylch gwaith eang i fynd i’r afael â’r heriau presennol yn y diwydiant a heriau posib yn y dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys annog newydd-ddyfodiaid a hyrwyddo gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth, gan sicrhau mwy o gyfleoedd i hyfforddi a gweithio gyda Llywodraeth Cymru, sefydliadau sy’n rhanddeiliaid a’r diwydiant i greu polisïau strategol, cydgysylltiedig ar gyfer datblygiadau cynaliadwy ac effeithlon.
Bydd y Panel ei hun yn cynnwys cyfanswm o un ar ddeg aelod – tri cynrychiolydd cyflogwyr, pedwar aelod annibynnol a Chadeirydd annibynnol. O’r pedwar o aelodau annibynnol, bydd dau yn cael eu penodi sydd â chefndir ym myd addysg, a dau yn cael eu penodi fydd â chefndir mewn amaethyddiaeth. Bydd cynrychiolwyr y gweithwyr a’r cyflogwyr yn cael eu dewis gan eu hundebau.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 13 Tachwedd 2015. Mae manylebau person, disgrifiadau swydd a meini prawf dethol i’w cael ar y ddolen ganlynol: https://cymru-wales.tal.net/vx/lang-en-GB/mobile-0/appcentre-3/brand-2/candidate/jobboard/vacancy/7/adv/
Bydd ffenestr y rhaglen ar gyfer y bum swydd annibynnol yn parhau am dair wythnos, ac wedi hynny cynhelir sifft a chyfweliadau i ddewis yr unigolion mwyaf cymwys i eistedd ar y corff hanesyddol hwn. Fy ngweledigaeth yw creu Panel amrywiol fydd yn cynrychioli’r amrywiol sgiliau, disgyblaethau, gwybodaeth a galluoedd sy’n gyrru amaethyddiaeth yng Nghymru ac sy’n gallu cefnogi mewn ffordd ystyrlon sut y mae’r diwydiant yn gweithio, drwy hwyluso’r cydweithio rhwng nifer o sefydliadau a phobl sy’n gweithio o’i fewn.
Bydd aelodau’r panel yn gwasanaethu am bedair mlynedd a byddant yn flaenllaw iawn yn y sector, gan chwarae rhan hollbwysig o fewn agenda trechu tlodi Llywodraeth Cymru, a hybu datblygiadau effeithiol a chynhyrchiol o fewn y diwydiant, sy’n cael eu cynnal gan weithlu dawnus, ac sy’n cefnogi economïau a chymunedau gwledig ledled Cymru.